All posts by Lowri Cynan

Adolygiad A Midsummer Night’s Dream : Cwmni Theatr y Sherman gan Lowri Cynan

Cyfarwyddwr : Joe Murphy

Cyfarwyddwr Cyswllt : Jac Ifan Moore

Addasiadau Cymraeg : Mari Izzard a Nia Morais

Dyma un o glasuron Shakespeare – comedi am gariadon a’u troeon trwstan a’r cyfan yn digwydd mewn coedwig llawn tylwyth teg a hudoliaeth. Fel arfer, llwyfannir y ddrama mewn gwisg draddodiadol ac ar set soffistigedig gydag effeithiau golau a sain gymhleth.

Ond os mai dyma beth ydych yn disgwyl gweld yn y cynhyrchiad yma, gwell i chi ail feddwl. Yn hytrach, mae’r fersiwn hwn o’r ddrama Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan yn profi bod Shakespeare yn esblygu a goroesi ac yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.

Dyma ddehongliad ffres, egniol a hynod ddoniol o’r clasur hwn. Mae’r cyfarwyddwr wedi mentro gwneud llawer o addasiadau ac maent yn rhai dewr a dychmygus. Gwelir merched yn chwarae rolau dynion a chymeriadau yn cyfnewid llinellau. Cymhleth? Na, dim o gwbl, oherwydd mae’r themâu, y gomedi a’r gwrthdaro mor amlwg ag erioed. Mae’r cynnwrf a’r diffyg cyfathrebu rhwng y cariadon, y tensiwn rhwng y bonedd a’r trigolion cyffredin a’r triciau mae’r tylwyth teg yn chwarae yn themâu amlwg drwy gydol y cynhyrchiad.

Yr hyn sy’n taro’r gynulleidfa yn syth yw’r moderneiddiad sydd wedi digwydd ac arddull gyfoes y cyfathrebu: e.e. merch yw Lysander yn y cynhyrchiad hwn ac wedi’i ail henwi’n Lysaana sydd mewn cariad gyda Hermia – mae Oberon, Brenin y Tylwyth Teg a Titania’r Frenhines, wedi cyfnewid llinellau ac o ganlyniad mae ystyr y stori’n newid ychydig. Yn y fersiwn hon, Titania sy’n chwarae tric ar Oberon drwy rhoi’r hylif blodau ar ei lygaid sy’n achosi iddo syrthio mewn cariad â Bottom! Hi sy’n rheoli ac yn meddu ar yr holl bŵer. Girl power go iawn!

Efallai bod hyn yn swnio’n gymhleth ond, wir i chi, mae’n gweithio ac mae’r cyfan yn syrthio i’w le yn hynod o gyfforddus.

Mae portread pob un o’r actorion yn y cynhyrchiad hwn yn hyfryd – pob un wedi meistroli elfennau unigryw a ffres i`w rolau. Mae ffocws cryf ar greu elfennnau doniol i`r cymeriadu ac mae’r actorion wedi canolbwyntio ar eu symudiadau a’u hystumiau i drosglwyddo hyn yn llwyddiannus. Roedd portread Sion Ifan o Oberon/Theseus yn arbennig a hefyd Nia Roberts fel Titania/Hippolyta. Roedd y ddau yn cydweithio ac yn dangos tensiynau eu perthynas yn hynod o effeithiol. Yn ogystal, roedd y cariadon, Dena Davies fel Hermia, Lauren Morais fel Lysanna, Tom Mumford fel Demetrius a Rebecca Wilson fel Helena yn portreadu egni ieuenctid ac angst torcalon yn hyfryd.

Ond i mi elfen fwyaf llwyddiannus y sioe oedd perfformiad y gweithwyr neu’r ‘mechanicals’, ac yn enwedig Sion Pritchard fel Bottom. Dyma beth oedd gwledd – y criw hurt a boncyrs yma’n ceisio ymarfer drama I’w pherfformio o flaen y Dug . Roedd amseru’r ddeialog a’r cydweithio rhwng yr actorion yn y darnau yma’n wych, gyda Bottom yn arwain y doniolwch a`r hurtrwydd yn hynod o gelfydd.

Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad oedd diwedd y rhan gyntaf pan oedd Oberon wedi deffro a syrthio mewn cariad â Bottom oedd nawr yn gwisgo penwisg asyn! Er mwyn profi’i gariad ato, mae’n dechrau canu’r glasur, “I wanna know what love is” mewn arddull hollol dros y top a camp! Roedd y gynulleidfa wrth eu bodd wrth gwrs ac yn ymuno â’r canu i ddangos eu mwynhad! Roedd hyn yn coronni sefyllfa abswrd y cymeriadau drwy arddull fodern a doniol

iawn. Cafwyd sawl achlysur tebyg o ryngweithio rhwng y gynulleidfa a’r actorion yn arbennig pan oedd Puck ar y llwyfan, ac ar adegau, roeddech chi’n teimlo eich bod mewn pantomeim Shakesperaidd!

Elfen drawiadol arall oedd penderfyniad y cwmni i greu cynhyrchiad cwbl ddwyieithog. Roedd y Gymraeg fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan y Tylwyth Teg ac yn cael statws cyfartal â’r Saesneg. Addasodd Mari Izzard a Nia Morais iaith Shakespeare i Gymraeg fodern fywiog, gan ddefnyddio amryw o dafodiaethoedd gwahanol. Llwyddodd y trosiad hwn i greu deialog fyrlymus a pherthnasol i gynulleidfa heddiw. Roedd isdeitlau wrth gwrs yn ymddangos law yn llaw â’r Gymraeg ond ni wnaeth hyn dynnu sylw’r gwyliwr o gwbl.

Nid yn unig addasiad y sgript, y cyfarwyddo a’r actio sydd i’w ganmol, ond hefyd yr elfennau technegol. Mae’r set yn foel a modern – yn debyg i set deledu, gydag un lefel ar ffurf ‘cat walk’. Does dim offer llwyfan a dim llawer o brops chwaith. Mae’r gofod yn enfawr ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth, ond does dim ôl addurno fel sydd mewn cynyrchiadau arferol o’r ddrama. Mae’n gynhyrchiad moel a minimalistaidd sy’n rhoi sylw i’r actio a’r sgript.

Mae’r sain a’r gerddoriaeth fodern hefyd yn ategu’n wych at y munudau o gomedi, ac yn ychwanegu at yr awyrgylch drwyddi draw.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn profi bod Shakespeare yn gyrchadwy i gynulleidfoedd heddiw – ac mae modd gwerthfawrogi ei waith drwy arddulliau newydd a ffres. Mae’r fersiwn hon yn glyfar a boncyrs ar yr un pryd, ac yn addas i gynulleidfa eang. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig.

Gallwch weld A Misummer Night’s Dream yn Theatr y Sherman, Caerdydd tan y Hydref y 29ain …….

Adolygiad ‘Right Where We Left Us’ – cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Chippy Lane, Chapter, Treganna gan Lowri Cynan.


Company 1
I : Hannah Daniel
P: Jacob Ifan
T: Jonathan Hawkins

Cyfarwyddydd – Chelsey Gillard
Dramodydd – Rebecca Jade
Lleoliad – Theatr Seligman, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna.


Dyma ddrama sy’n aros yn y cof ac yn agored i sawl dehongliad gwahanol. Tri chymeriad sydd ynddi ond mae rôl y trydydd cymeriad yn aneglur yn enwedig ar gychwyn y ddrama. Stori dau berson sydd yma mewn gwirionedd – dau sydd wedi profi cariad, siom a diflastod – pobl broffesiynol sy’n profi enwogrwydd yn gynnar yn ystod eu gyrfaoedd.
Mae taith y cwpwl wedi dechrau yn hynod o gyffrous gan eu bod yn ysgrifennwyr sgriptiau i’r theatr a’r sgrin. Maent yn profi cyfnod hynod o doreithiog ac yn derbyn llwyddiant ar Broadway a thu hwnt. Gellir dweud eu bod wedi cyrraedd y brig – y ‘big time’ – ac yn mwynhau’r holl sylw, y mawl a’r bri a ddaw yn sgil hyn oll.


Ond nid yw’r freuddwyd fawr yn para, yn enwedig felly i’r cymeriad I sy’n cael ei gwthio i’r naill ochr tra bod ei chariad yn derbyn contract enfawr Sci Fi gan gwmni enfawr. Mae’n profi teimladau o dristwch a bradychiad, diffyg hunanhyder ac ansicrwydd. Er ei bod yn caru ei phartner, nid oes lle bellach iddi hi yn ei freuddwyd fawr ef, ac mae hithau’n cael ei gwthio naill ochr. Ceir yma deimlad bod y ddau bellach ddim yn rhannu’r un breuddwydion na dyheadau. O ganlyniad, mae cymeriad I yn symud nôl adre ac yn ceisio ymdopi â byw bywyd gwahanol a newydd. Ers y gwahanu,nid yw`n ysgrifennu bellach ond yn hytrach yn gweithio mewn siôp ac yn datgan ei bod yn hapusach ei byd. Ond tybed a ydy’r boen ac effaith y ‘rejection’ dal yn fyw yn y cof ?


Mae Hammond wedi creu sgript ddiddorol sy’n llifo’n berffaith o un olygfa i’r llall ac mae’r cymeriadau yn rhai gonest, aml haenog a chymhleth. Yn ystod y monologau (sy’n digwydd lawr llwyfan ac yn uniongyrchol i’r gynulleidfa) mae’r ddau yn olrhain eu teimladau yn ystod y cyfnod byr yma pan, ar y dechrau, roedd eu perthynas yn dda cyn i bethau droi’n sur. Dyma arwyddocad teitl y ddrama – “Right Where We Left Us” – Mae cymeriad I wedi’i effeithio’n enbyd gan y toriad yn y berthynas ac mae’n ail greu ac ail ddadansoddi’r camau, y camgymeriadau, yr arwyddion a arweiniodd at y rhwyg rhyngddynt. Cawn y teimlad bod y rhwyg hwn a’r gwahanu wedi effeithio ar y ddau ohonynt, ond hi efallai sy’n dioddef fwyaf.


Mae’r ddau actor, Hannah Daniel a Jacob Ifan, yn cydweithio’n arbennig ac mae eu portread o’r cymeriadau yn real a phoenus. Mae portread Hannah Daniel o’r cymeriad toredig yma ar brydiau yn adeiladau at uchafbwyntiau dramatig effeithiol. Ydy, mae hi wedi ei brifo gan y golled ond mae’n ceisio bod yn ddewr, yn barod i wynebu ei hunllefau personol er mwyn symud ymlaen. Dim ond yn araf bach drwy’r ddrama daw hyn i’r amlwg i’r gynulleidfa fod cymeriad I mewn sesiwn therapi ac yn ceisio wynebu ei hunllefau hi, ac mae atgof yw P yn ei meddwl. Dyna pwy felly yw’r trydydd cymeriad sef T, y therapydd sy’n ceisio arwain ei glaf i (gobeithio!) le gwell.
Mae’r set, sef platfform syml, lliwgar yn symbol o enwogrwydd ffug Holywoodaidd a’r goleuo annaturiol yn awgrymu anghysonderau’r bywyd hwn. Roedd hyn yn effeithiol ond heb dynnu gormod o sylw o’r action a’r sgript. Mae’r ddrama’n gorffen ar nodyn ansicr ond calonogol ac felly’n agored i ddehongliad y gynulleidfa. Fy marn yw bod y clo’r ddrama yn un sy’n awgrymu bod pawb, ar ôl amser, yn medru gwella a symud ymlaen ar ôl trawma a thor perthynas.


Dyma ddrama oedd yn gweddu’n dda i’r gwagle ac i’r theatr hyfryd hon. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig ac os cewch chi gyfle, ewch i’w gweld. Mae perfformiadau yng Nghanolfan Chapter tan Hydref y 5ed ac mae modd prynu’r sgript hefyd.

Adolygiad A Pretty Sh*tty Love – Theatr Clwyd, Theatr Seligman, Chapter, Treganna gan Lowri Cynan.

 out of 5 stars (5 / 5)

A Pretty Sh*tty Love – Theatr Clwyd

Actorion – Dan Hawksford a Danielle Bird

Cyfarwyddwr – Francesca Goodridge

Dramodydd – Katherine Chandler

Lleoliad – Theatr Seligman, Chapter, Treganna.

Credyd AB Photography

Dyma ddrama hynod bwysig a pherthnasol am drais domestig. Ond nid stori unochrog, ‘du a gwyn’ sydd yma ond yn hytrach stori gymhleth a chreulon dau berson – Hayley a Carl. Mae adegau doniol, tyner a chariadus i’w stori nhw ond, yn y pendraw, y trais, y gormes a’r ymosodiadau erchyll sy’n aros yn y cof.

Mae’r dramodydd Katherine Chandler yn hen law bellach ar greu dramâu bachog a ‘gritty’ am gymeriadau sy’n dioddef o drawma. Sbardun y ddrama oedd hanes personol Stacey Gwilliam merch ifanc a ddioddefodd drais domestig cyson gan ei phartner a geisiodd, yn y pendraw ei lladd a’i chladdu’n fyw ar draeth ger Abertawe. Ond mae’r awdures yn pwysleisio nad ymgais i greu theatr verbatim yw’r ddrama hon  – nid hanes uniongyrchol Stacey a gawn yma – yn hytrach stori ddychmygus sy’n trafod yr un themâu.

Mae Chandler wedi creu sgript arbennig, yn acen Abertawe sy’n llifo’n berffaith o un olygfa i’r llall ac mae’r cymeriadau yn rhai gonest, aml haenog a chymhleth. Mae Hayley’n chwilio am ei thywysog – yn dyheu am ramant – ac yn syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Carl. Yn ystod ei monologau, mae’n olrhain ei chefndir teuluol, ei magwraeth a’r adegau o dristwch sydd wedi llunio ei bywyd. Y graith fwyaf yw colled ei thad, i deulu arall ac yna i alcohol. Ond mae’n ferch ddewr a phenderfynol, yn gymeriad sensitif a hoffus. Mae Carl hefyd yn rhannu ei fywyd anodd gyda’r gynulleidfa wrth drafod caethiwed ei fam a’i frawd yntau i gyffuriau. Mae e wedi ei greithio ond yn ceisio palu ei hun allan o’r byd hynny wrth fynychu’r gym yn rheolaidd a chynnal swydd. Ar ddechrau’r garwriaeth, mae Carl yn hynod o amddiffynnol o Hayley ac yn dangos munudau o wir gariad tuag ati. Ond, yn anffodus, mae ei deimladau’n tyfu i fod yn obsesiynol, yn beryglus a chymhellol ac mewn dim, mae Hayley’n cael ei rheoli’n llwyr ganddo. Rydym yn gweld ei bwer yn cynyddu, a’i dymer afreolus yn arwain at ymosodiadau ffyrnig arni ynghyd â munudau o wallgofrwydd llwyr. Ac er bod Carl yn flin wedi’r trais a Hayley’n maddau iddo dro ar ôl tro, yn y pendraw, mae’n gorfod gadael. Mae hyn yn dangos ei chryfder a’i phŵer hithau hefyd i geisio newid pethau. Y tristwch yw ei bod hi’n methu anghofio, a’i bod hi’n cael ei hela a’i herlid ganddo. 

Mae’r ddau actor, Danielle Bird a Dan Hawksford, yn cydweithio’n arbennig ac mae eu portread o’r cymeriadau mor real, bron rydych yn anghofio eu bod yn actio o gwbl. Mae’r cyfarwyddo hefyd yn hynod o gelfydd, oherwydd nid oes llawer o gyffwrdd corfforol rhwng y ddau, yn enwedig yn ystod yr ymosodiadau a’r trais. Yn hytrach, mae’r cyfan yn cael ei gyflwyno i’r gynulleidfa drwy waith corfforol unigol, gyda’r ddau actor yn sefyll naill ochr i’r llwyfan. Mae’r gwagle a’r pellter yn ein hannog ni i greu’r delweddau hyn yn ein meddyliau, ac i deimlo poen Hayley a chasineb Carl. Mae hyn yn hynod effeithiol ac roedd y cyfarwyddo i gyd yn glyfar a dyfeisgar iawn drwy’r holl sioe.

Nid yn unig y sgript, y cyfarwyddo a’r actio sydd i’w ganmol ond hefyd yr ochr dechnegol. Mae’r set yn gyfuniad gwych o ddrysau tryloyw sy’n agor a chau i greu lleoliadau newydd ac ar adegau mae delweddau, negeseuon testun a geiriau allweddol yn cael eu taflu arnynt. Mae’r sain hefyd yn creu’r tensiynau angenrheidiol ond heb amharu ar yr awyrgylch ac mae meicroffonau yn ychwanegu at erchylltra’r trais yn y golygfeydd mwyaf tywyll. Defnyddiwyd tywod  i amgylchynu’r llwyfan ac roedd y traeth, y môr a dŵr yn themâu pwysig drwyddi draw. Cafwyd cyfeiriadau at Chwedl Llyn y Fan Fach ar ddechrau’r ddrama ac roedd hyn yn berthnasol i stori Hayley maes o law. Yr eironi fwyaf yw  bod y ddau gariad wedi cusanu am y tro cyntaf ar draeth Caswell sef yr union le mae Carl yn ceisio lladd Hayley a’i chladdu’n fyw ar ddiwedd y ddrama.

Dyma ddrama boenus a chreulon fydd yn aros yn y cof.  Ond yr hyn sy’n cael ei gyflwyno i ni yw’r ffaith nad yw achosion o drais domestig bob amser yn syml. Ry’n ni i gyd yn euog o ddweud wrth glywed hanesion tebyg …. Pam wnaeth Hayley aros gyda Carl? Pam wnaeth hi fynd nôl ato fe? Beth sy’n bod arni?

Mae’r ddrama hon yn cyflwyno dwy ochr o’r  stori i ni – dau lais,dau fersiwn a hynny yn gelfydd drwy gyfrwng theatrig. Mae’n glyfar, yn dorcalonnus ar adegau ond yn hynod bwerus. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig.

Adolygiad Anthem, Canolfan Mileniwm Cymru gan Lowri Cynan

Cynhyrchiad hir disgwyliedig Canolfan Mileniwm Cymru yw Anthem sy’n cael ei llwyfannu yn y Stiwdio Weston tan Orffennaf y 30ain. Braf yw gweld cefnogaeth i’r Gymraeg a sioeau newydd mewn sefydliad sy’n denu cynulleidfaoedd eang a gobeithio mai arwydd o ymroddiad ehangach i’r theatr iaith Gymraeg yw hon.

Sioe Gerdd a chomedi dychanol yw ‘Anthem’ wedi’i selio ar fformat rhaglenni realiti megis ‘X Factor’ sy’n ceisio dyrchafu pobl gyffredin yn sêr dros nos. Mae chwarae ‘tafod mewn boch’ ar fformat rhaglenni adloniant sgleiniog fel ‘Eurovision’ a ‘Can i Gymru’ yn amlwg yma hefyd, yn enwedig o ran cynllun y set deledu, arddull y sioe a steil y cyflwyno cawslyd o slic. Cymeriadau stoc yw’r dalent sy’n aros i gael eu pum munud o enwogrwydd yn yr ystafell werdd – Teleri (Rhian Morgan), Eifion ac Esyllt (Gareth Elis a Lily Beau Conway), Leon (Iestyn Arwel) a Gerald (Rhys ap Trefor). Mae pob un o’r rhain yn cynrychioli ardaloedd o Gymru ac yn cynnal y gomedi wrth rannu eu bywydau bach pantomeimaidd gyda ni. Mae geiriau eu caneuon unigol wrth iddynt berfformio (a gobeithio dod i’r brig) yn adlewyrchu eu ffantasïau ystrydebol. Mae ochr dechnegol y stiwdio deledu yn siambls llwyr ac yn cael ei redeg gan griw bach hollol ddibrofiad ac aneffeithiol. Tudur y Cyflwynydd sy’n angori’r cyfan, yn ceisio achub y dydd, a’r sioe o ran hynny! – ac wrth gwrs ei yrfa, er bod ei ymdrechion yn aflwyddiannus yn y pendraw.

Yn sgil y rhialtwch, mae gan bob un ei angst personol, sydd wrth gwrs yn ychwanegu ymhellach at y gomedi a’r ffraethineb, e.e. Teleri, sy’n dyheu i gael ei derbyn gan yr ‘in-crowd’ Cymreig ac Eifion sydd eisiau rhedeg i ffwrdd mor bell phosib ohono! Mae’r cyfan, y themâu a’r mathau o gymeriadau yn dwyn i gof cyfresi teledu Cymreig o’r gorffen.

Cafwyd dawnsio a chanu, tantrums a dagre, gyda chydweithio hyfryd rhwng y cymeriadau. Ond mae’r cystadlu bitshlyd a’r antics erbyn y diwedd yn cilio. Yn hytrach mae’r cymeriadau, neu rai ohonynt o leiaf, yn sylweddoli bod eu bywydau bach cyffredin yn ddigon! Does dim angen yr enwogrwydd ffug arnynt i fod yn hapus!

Felly os y’ch chi ffansi noson ysgafn mas mewn theatr hyfryd, dyma’r sioe i chi. Mae’r deunydd yn addas hefyd i ddysgwyr gan fod y ddeialog a geiriau’r caneuon yn cael eu cyfieithu a’u taflu ar daflunydd sy’n rhan o’r set liwgar. Sioe 90 munud yw hon – dim egwyl, ac mae modd mynd a diod gyda chi i’r theatr. Ar ben hyn, mae pris y tocynnau’n rhesymol o’i gymharu â’r prif awditoriwm. Joiwch!

Review Ripples, Sherman Theatre/RWCMD/National Theatre Wales By Lowri Cynan

Ripples can be viewed online for two weeks, please note this review contains information about this production.

National Theatre Wales and Sherman Theatre’s premiere of ‘Ripples’ by Tracy Harris was streamed live on Saturday night (May 2nd, 2020).

This was the first NTW Network reading (the new digital programme) and was adapted and re-imagined for a virtual world. This was certainly a ground breaking experiment and a fantastic opportunity for the RWCMD third year graduates to display their talents.

The play was due to be performed in the week that the college went into lockdown and later at other venues, but quite clearly all performances had to be cancelled. The plot worked well as we are introduced to a group of people who are currently in therapy due to various issues. They meet on Zoom regularly to talk through their nightmares and insecurities. Each has experienced a different turmoil and are encouraged to voice their own tragedies in order to share their personal grief.  

This is done well as we are drawn in to their world through the use of flashbacks, which provides a welcome break from the zoom screen formation. For example, a nurse, Lisa, is traumatised by a mistake she has made at work, Brodie has been abused by her boyfriend and is addicted to drugs, and Larry has witnessed his partner being stabbed in a homophobic attack. Every character is damaged in one way or another and each actor gives an excellent portrayal of an individual going through their personal torment.

Performances were both realistic and convincing, enabling us to sympathise and feel their hurt. Ensemble work was interacted well, sometimes as a group and other times in pairs. Their facial expressions and gestures were compelling, allowing the audience to break through the technical barriers. This was an excellent opportunity for these graduates to display their talents at a very strange and difficult time for performers. It certainly was a successful experiment and although a theatre staged performance would have been equally interesting, it just goes to show what is possible to achieve through the medium of streaming within social distancing scenarios.

Congratulations to all involved – actors Catrin Walker-Booth, John Tate, Luke Nunn, Emily John, Shannen McNeice, Mark Henry Davies, Dafydd Thomas and Meryn Davies Williams, director Matthew Holmquist and his talented creative team but especially writer Tracy Harris for her vision.  Good luck to all the RWCMD students on their new journeys and I wish them well in their future careers. The play is available to view on the AM website for two weeks.

Llongyfachiadau

DYMA ADOLYGIAD o ‘TYLWYTH’ (Dafydd James) Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru Gan Lowri Cynan

Yn anffodus mae taith y berfformiad yma wedi cael ei ganslo, darllenwch yr adolygiad isod, diolch.

 out of 5 stars (5 / 5)

Weithiau,
pan y’ch chi’n aros i weld ail gyfres ddrama ar Netflix neu iPlayer mae’r heip
a’r ‘build up’ yn anhygoel. Ond yn amlach na pheidio, braidd yn siomedig yw’r
canlyniad. Dyw hyn bendant ddim
yn wir am ‘Tylwyth’ sef y dilyniant i ‘Llwyth’, drama hynod lwyddiannus Dafydd
James sydd ar daith ar hyn o bryd. Waw! Dyma gyfanwaith gwbl trawiadol a
chaboledig. Mae’r holl elfennau sydd eu hangen i greu darn o theatr ysgytwol yn
perchnogi’r sioe hon. Heb os nac oni bai y prif uchafbwynt yw’r sgript
sy’n grafog a chignoeth ar adegau ac yna’n delynegol a huawdl ar y llaw arall.
Mae’r awdur yn dilyn strwythur y ddrama flaenorol i ryw raddau ond credaf bod
sgript ‘Tylwyth’ yn fwy clyfar eto. Mae monologau Aneurin yn gweu yn gynnil
drwy gydol y ddrama ac yn cyfuno arddull gynganeddol, gyda dyfyniadau
o lenyddiaeth, emynau a rhigymau Cymreig. Mae’r chwarae ar eiriau a’r dychan
pwrpasol yn gampwaith llwyr. Dyna pam mae angen i mi brynu’r sgript gan fy mod
eisiau ei darllen er mwyn ei gwerthfawrogi eto!

Hanes yr un
cymeriadau â ‘Llwyth’ a geir yma – Dada, Gavin, Gareth, Rhys ac Aneurin, ond
degawd yn ddiweddarach – y llwyth hoyw sydd bellach yn bobl proffesiynol, yn
rhieni, yn aeddfetach a challach i fod, a’r llwyth felly wedi troi’n
dylwyth. Yn gymysg â’r cymeriadau hyn cyflwynir un cymeriad newydd sef Dan – gogleddwr
a phartner amyneddgar a chariadus Aneurin. Mae’r ddau wedi mabwysiadu dau o
blant bach ac er bod Aneurin wedi bod ‘ar y wagon’ ers pum mlynedd, mae
diafoliaid y gorffennol yn ei boeni o hyd. Mae bwganod ei isymwybod yn ei
arwain a’i demptio i fyd tywyll ei orffennol ac mewn un noson wyllt o gyffuriau,
rhyw ac alcohol, mae’n mentro wynebu ei gyfrinach a’i ofnau personol dwysaf.
Canlyniad y weithred yw bod Aneurin yn agor hen greithiau sydd wedi’i boeni ers
blynyddoedd.

Mae’r actio
a’r perfformiadau i gyd yn ardderchog – ensemble gwych sy’n cydweithio’n
effeithiol, ond i mi mae Danny Grehan fel Dada a Simon Watts fel Aneurin
yn serennu. Ceir gwaith corfforol bwriadol symbolaidd gan yr actorion
ar adegau sy’n creu awyrgylch hynod effeithiol. Hefyd mae llwyfannu a chyfarwyddo
cynnil a chlyfar Arwel Gruffydd yn arbennig. Mae’r set yn gyfuniad o lefelau a fflatiau
symudol ar ffurf hanner cylch, ond sydd hefyd yn medru cael eu trawsnewid i
greu lleoliadau gwahanol. Roedd hyn yn f’atgoffa o set draddodiadol Roegaidd, ond
ar ffurf lawer llai wrth gwrs, ac roedd y goleuo yn llwyddo i greu naws hyfryd. 

Dimensiwn ychwanegol ond hynod bwysig yw’r trac sain a’r defnydd o ganu unigol a chorawl a oedd yn hynod ddoniol a dychanol. Roedd y cyfan yn ategu at un o driciau clyfar Daf James sef gwneud sbort deifiol am yr iaith Gymraeg a’n ffug barchusrwydd fel Cymry. I ddweud y gwir, mae’r coegni atom fel cenedl yn hynod lwyddiannus, bwriadol a dyfeisgar sy’n ein hannog fel cynulleidfa i ystyried ein credinedd ar adegau. Ymysg y themâu yma mae’r awdur yn trafod Brexit, hunaniaeth, rhywioldeb a moesoldeb. Ond y prif thema yw cariad a sut mae cariad yn trechu popeth yn y pendraw. Yng ngeiriau cân Eden ‘Gorwedd gyda’i Nerth’ “Cyffwrdd â’r grym yr hyn sy’n gariad pur”.

Os nad ydych wedi gweld ‘Llwyth’ ddeng mlynedd yn ôl, sdim ots – mae ‘Tylwyth’ yn sefyll ar ei thraed ei hun fel drama annibynnol. Ewch da chi i’w gweld. Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad rhagorol hwn ac yn arbennig i weledigaeth Daf James a thîm Theatr Genedlathol Cymru.   

Dyma Adolygiad Mags, Cwmni Pluen Gan Lowri Cynan (Review Mags, Cwmni Pluen By Lowri Cynan in the Welsh Language)

Dyma brofiad theatrig diddorol. Mae ‘Mags’, drama ddiweddaraf Cwmni Pluen, a ysgrifennwyd gan Elgan Rhys yn gynhyrchiad awr o hyd ond yn un sy’n eich gadael angen gwybod mwy. Mae’r stori yn mynd â ni ar daith y ferch ifanc o Ogledd Cymru i Lundain a nôl i’w phentref genedigol. Ond nid yw ei thaith yn un rhwydd. Mae’n profi anhapusrwydd plentyndod ac yn ffoi i chwilio am antur yn Llundain lle mae’n colli’i ffordd yn llwyr. Mae’n darganfod rhyddid peryglus dinesig, cariad dros dro a beichiogrwydd. Ond o’r holl themâu hyn, efallai mai’r un mwyaf torcalonnus yw’r ffaith ei bod yn rhy ifanc i ofalu am ei phlentyn ac yn gorfod rhoi ei merch i ffwrdd. Mae colled ar sawl lefel felly’n amlygu yn y stori hwn.

Llwyfannir y ddrama mewn gwagle addas a defnyddir symbolau yn unig i ddynodi lleoliadau. Roedd y cyfarwyddwr, Gethin Evans, wedi stwythuro hyn yn dra effeithiol gyda deunydd o garped, cadair syml a gorchudd plastig. Does dim angen mwy oherwydd mae’r actorion yn medru awgrymu’r sefyllfaoedd drwy eu gwaith corfforol. Ensemble o bump sy’n perfformio yn y cynhyrchiad – Anna ap Robert, Seren Vickers, Matteo Marfoglia, Eddy Bailhache a Casi – ac maent yn defnyddio cyfuniad o waith traethu, deialog, canu a gwaith corfforol yn dda. Roedd eiliadau hynod deimladwy gyda’r actorion yn creu delweddau emosiynol iawn gyda’u cyrff. Ond cryfder y ddrama i mi oedd y sgôr gerddorol a’r caneuon. Teimlais bod hyn yn gyfeiliant hyfryd a theimladwy i’r stori, gyda llais hudolus Casi yn serennu.
Roedd gwaith goleuo Ceri James hefyd yn creu awyrgylch addas i arddull symbolaidd y cynhyrchiad.

Er bod darnau hyfryd i’r sioe hon, roeddwn yn teimlo fy mod am wybod mwy am fywyd Mags, yn enwedig wrth ddeall ei bod dal yn hiraethu am ei babi a gollodd flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddrama yn trafod themâu oesol fel pwysigrwydd perthyn a cholled sy’n gyffredin i bawb. Byddwn yn annog pobl ifanc yn arbennig i weld y ddrama hon er mwyn cael syniadau ynghylch arddulliau theatrig gwahanol.

Dyma Adolygiad Hela, The Other Room Gan Lowri Cynan. (Review Hela, The Other Room by Lowri Cynan in the Welsh Language)

Drama gyntaf Mari Izzard, enillydd gwobr Violet Burns, sef gwobr The Other Room i ddramodwyr ifanc yw ‘Hela’. Lleolir The Other Room y tu fewn i dafarn Porters yng nghanol dinas Caerdydd, a rhaid cyfaddef fod y theatr hon yn em fach, gyda’r  cwmni’n enwog am ei chynyrchiadau heriol ac arbrofol sy’n eithafu’r defnydd o’r gwagle bychan a hynny mewn amryw arddulliau. Disgwyl yr annisgwyl, dyma ddiben y theatr fach yma, ac nid yw’r ddrama hon yn eithriad.

Ffotograff gan Kirsten McTernan

Mae’n rhan o drioleg o’r enw ‘The
Violence Series
’, sef arlwy The Other Room ar gyfer y tymor
hwn. ‘Hela’ yw’r ddrama olaf i’w
llwyfannu yn y gyfres yn dilyn ‘American
Nightmare
’ gan Matthew Bulgo a ‘The
Story’
gan Tess Berry-Hart.

Drama llawn cyfrinachau yw ‘Hela’.
Mae’n agor gyda chymeriad Hugh sydd wedi’i glymu a’i gaethiwo mewn ystafell lom,
dywyll. Ei herwgipiwr yw Erin, merch ifanc sy’n ymddangos yn blentynaidd ar yr
wyneb ond sy’n meddu ar dueddiadau seicopathig beryglus. Mae wedi cipio’r gŵr a’i
garcharu yno mewn byncer diflas. Ar y cychwyn, nid ydym yn sicr beth yw ei
chymhelliant ond yn raddol drwy gyfres o gemau plentynaidd a chreulon, mae Hugh
yn cael ei arteithio am resymau penodol.

Set syml ond effeithiol sydd i’r ddrama – un ystafell a drws i fyd
anelwig. Mae Erin yn defnyddio’r allanfa yn achlysurol, sydd yn fodd o newid
tempo’r ddrama drwy fynd a dyfod gydag offer arteithiol gwahanol. Er llymder yr
ystafell, mae technoleg yn amlwg yn rheoli yn y byd dystopaidd hwn. Mae amryw
sgriniau yn chwarae rôl y trydydd cymeriad, sef ‘M’, sy’n rhoi’r wybodaeth
ychwanegol i ni ynghylch dwyster y sefyllfa.          
  

Mae’n amlwg fod gan y cymeriadau gefndiroedd cymhleth – Hugh wedi
cael magwraeth anodd ac yn rhan o gylch ‘grwmio’ plant, ac Erin yn hiraethu ar
ôl diflaniad ei phlentyn saith mlwydd oed. Daw’r thema o hela felly yn
glir i ni’r gynulleidfa. Mae yntau wedi hela Gethin, mab saith mlwydd oed Erin,
sydd nawr yn dod wyneb yn wyneb â realiti erchyll y sefyllfa.

Roedd y rhyngweithio rhwng y ddau actor, Lowri Izzard a Gwydion
Rhys, yn argyhoeddi, gyda sawl eiliad o densiwn anghyfforddus. Wrth i’r stori
ddatblygu, cawn ddiweddglo arswydus a threisgar gydag Erin yn dial. 

Drama ddwyieithog yw hon gydag Erin yn siarad Cymraeg a Hugh yn
deall ond ychydig o’r iaith. Serch hynny, mae yntau fel ni’r gynulleidfa
yn medru gweld y cyfieithu yn digwydd ar y pryd ar y sgrîn
drwy gydol y ddrama. Er bod hyn yn gyfrwng diddorol sydd wedi digwydd mewn
amryw gynhyrchiad arall eisoes, efallai bod sylw gormodol i’r cyfieithu ar
brydiau. Efallai byddai llai o esbonio yn fwy heriol ac awgrymog ar adegau er
mwyn dyfnhau’r thema. 

Gosodwyd y ddrama mewn cyfnod dystopaidd, anrhefnus gydag Erin nid
yn unig yn dioddef colled ei mab ond hefyd colled enbyd ei hiaith a’i
threftadaeth.  Nid thema newydd yw hon wrth gwrs, gan ein bod ar hyn o
bryd yn byw mewn byd cyfryngol ac ieithyddol peryglus.  

Hoffais y deunydd o sain drwyddi draw a oedd yn creu awyrgylch annymunol
a pheryglus yn ogystal â’r goleuo pŵl. Er bod hon yn ddrama anodd ei gwylio ar
adegau, mae’n llwyddo i hoelio sylw’r gynulleidfa o’r dechrau i’r diwedd.
   

Os gewch gyfle, ewch draw i weld ‘Hela’ yn The Other Room, ond os na chewch gyfle y tro hwn, bydd y
drioleg yn mynd ar daith yn y Gwanwyn.