Adolygiad ‘Right Where We Left Us’ – cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Chippy Lane, Chapter, Treganna gan Lowri Cynan.


Company 1
I : Hannah Daniel
P: Jacob Ifan
T: Jonathan Hawkins

Cyfarwyddydd – Chelsey Gillard
Dramodydd – Rebecca Jade
Lleoliad – Theatr Seligman, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna.


Dyma ddrama sy’n aros yn y cof ac yn agored i sawl dehongliad gwahanol. Tri chymeriad sydd ynddi ond mae rôl y trydydd cymeriad yn aneglur yn enwedig ar gychwyn y ddrama. Stori dau berson sydd yma mewn gwirionedd – dau sydd wedi profi cariad, siom a diflastod – pobl broffesiynol sy’n profi enwogrwydd yn gynnar yn ystod eu gyrfaoedd.
Mae taith y cwpwl wedi dechrau yn hynod o gyffrous gan eu bod yn ysgrifennwyr sgriptiau i’r theatr a’r sgrin. Maent yn profi cyfnod hynod o doreithiog ac yn derbyn llwyddiant ar Broadway a thu hwnt. Gellir dweud eu bod wedi cyrraedd y brig – y ‘big time’ – ac yn mwynhau’r holl sylw, y mawl a’r bri a ddaw yn sgil hyn oll.


Ond nid yw’r freuddwyd fawr yn para, yn enwedig felly i’r cymeriad I sy’n cael ei gwthio i’r naill ochr tra bod ei chariad yn derbyn contract enfawr Sci Fi gan gwmni enfawr. Mae’n profi teimladau o dristwch a bradychiad, diffyg hunanhyder ac ansicrwydd. Er ei bod yn caru ei phartner, nid oes lle bellach iddi hi yn ei freuddwyd fawr ef, ac mae hithau’n cael ei gwthio naill ochr. Ceir yma deimlad bod y ddau bellach ddim yn rhannu’r un breuddwydion na dyheadau. O ganlyniad, mae cymeriad I yn symud nôl adre ac yn ceisio ymdopi â byw bywyd gwahanol a newydd. Ers y gwahanu,nid yw`n ysgrifennu bellach ond yn hytrach yn gweithio mewn siôp ac yn datgan ei bod yn hapusach ei byd. Ond tybed a ydy’r boen ac effaith y ‘rejection’ dal yn fyw yn y cof ?


Mae Hammond wedi creu sgript ddiddorol sy’n llifo’n berffaith o un olygfa i’r llall ac mae’r cymeriadau yn rhai gonest, aml haenog a chymhleth. Yn ystod y monologau (sy’n digwydd lawr llwyfan ac yn uniongyrchol i’r gynulleidfa) mae’r ddau yn olrhain eu teimladau yn ystod y cyfnod byr yma pan, ar y dechrau, roedd eu perthynas yn dda cyn i bethau droi’n sur. Dyma arwyddocad teitl y ddrama – “Right Where We Left Us” – Mae cymeriad I wedi’i effeithio’n enbyd gan y toriad yn y berthynas ac mae’n ail greu ac ail ddadansoddi’r camau, y camgymeriadau, yr arwyddion a arweiniodd at y rhwyg rhyngddynt. Cawn y teimlad bod y rhwyg hwn a’r gwahanu wedi effeithio ar y ddau ohonynt, ond hi efallai sy’n dioddef fwyaf.


Mae’r ddau actor, Hannah Daniel a Jacob Ifan, yn cydweithio’n arbennig ac mae eu portread o’r cymeriadau yn real a phoenus. Mae portread Hannah Daniel o’r cymeriad toredig yma ar brydiau yn adeiladau at uchafbwyntiau dramatig effeithiol. Ydy, mae hi wedi ei brifo gan y golled ond mae’n ceisio bod yn ddewr, yn barod i wynebu ei hunllefau personol er mwyn symud ymlaen. Dim ond yn araf bach drwy’r ddrama daw hyn i’r amlwg i’r gynulleidfa fod cymeriad I mewn sesiwn therapi ac yn ceisio wynebu ei hunllefau hi, ac mae atgof yw P yn ei meddwl. Dyna pwy felly yw’r trydydd cymeriad sef T, y therapydd sy’n ceisio arwain ei glaf i (gobeithio!) le gwell.
Mae’r set, sef platfform syml, lliwgar yn symbol o enwogrwydd ffug Holywoodaidd a’r goleuo annaturiol yn awgrymu anghysonderau’r bywyd hwn. Roedd hyn yn effeithiol ond heb dynnu gormod o sylw o’r action a’r sgript. Mae’r ddrama’n gorffen ar nodyn ansicr ond calonogol ac felly’n agored i ddehongliad y gynulleidfa. Fy marn yw bod y clo’r ddrama yn un sy’n awgrymu bod pawb, ar ôl amser, yn medru gwella a symud ymlaen ar ôl trawma a thor perthynas.


Dyma ddrama oedd yn gweddu’n dda i’r gwagle ac i’r theatr hyfryd hon. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig ac os cewch chi gyfle, ewch i’w gweld. Mae perfformiadau yng Nghanolfan Chapter tan Hydref y 5ed ac mae modd prynu’r sgript hefyd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.