Adolygiad A Pretty Sh*tty Love – Theatr Clwyd, Theatr Seligman, Chapter, Treganna gan Lowri Cynan.

 out of 5 stars (5 / 5)

A Pretty Sh*tty Love – Theatr Clwyd

Actorion – Dan Hawksford a Danielle Bird

Cyfarwyddwr – Francesca Goodridge

Dramodydd – Katherine Chandler

Lleoliad – Theatr Seligman, Chapter, Treganna.

Credyd AB Photography

Dyma ddrama hynod bwysig a pherthnasol am drais domestig. Ond nid stori unochrog, ‘du a gwyn’ sydd yma ond yn hytrach stori gymhleth a chreulon dau berson – Hayley a Carl. Mae adegau doniol, tyner a chariadus i’w stori nhw ond, yn y pendraw, y trais, y gormes a’r ymosodiadau erchyll sy’n aros yn y cof.

Mae’r dramodydd Katherine Chandler yn hen law bellach ar greu dramâu bachog a ‘gritty’ am gymeriadau sy’n dioddef o drawma. Sbardun y ddrama oedd hanes personol Stacey Gwilliam merch ifanc a ddioddefodd drais domestig cyson gan ei phartner a geisiodd, yn y pendraw ei lladd a’i chladdu’n fyw ar draeth ger Abertawe. Ond mae’r awdures yn pwysleisio nad ymgais i greu theatr verbatim yw’r ddrama hon  – nid hanes uniongyrchol Stacey a gawn yma – yn hytrach stori ddychmygus sy’n trafod yr un themâu.

Mae Chandler wedi creu sgript arbennig, yn acen Abertawe sy’n llifo’n berffaith o un olygfa i’r llall ac mae’r cymeriadau yn rhai gonest, aml haenog a chymhleth. Mae Hayley’n chwilio am ei thywysog – yn dyheu am ramant – ac yn syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Carl. Yn ystod ei monologau, mae’n olrhain ei chefndir teuluol, ei magwraeth a’r adegau o dristwch sydd wedi llunio ei bywyd. Y graith fwyaf yw colled ei thad, i deulu arall ac yna i alcohol. Ond mae’n ferch ddewr a phenderfynol, yn gymeriad sensitif a hoffus. Mae Carl hefyd yn rhannu ei fywyd anodd gyda’r gynulleidfa wrth drafod caethiwed ei fam a’i frawd yntau i gyffuriau. Mae e wedi ei greithio ond yn ceisio palu ei hun allan o’r byd hynny wrth fynychu’r gym yn rheolaidd a chynnal swydd. Ar ddechrau’r garwriaeth, mae Carl yn hynod o amddiffynnol o Hayley ac yn dangos munudau o wir gariad tuag ati. Ond, yn anffodus, mae ei deimladau’n tyfu i fod yn obsesiynol, yn beryglus a chymhellol ac mewn dim, mae Hayley’n cael ei rheoli’n llwyr ganddo. Rydym yn gweld ei bwer yn cynyddu, a’i dymer afreolus yn arwain at ymosodiadau ffyrnig arni ynghyd â munudau o wallgofrwydd llwyr. Ac er bod Carl yn flin wedi’r trais a Hayley’n maddau iddo dro ar ôl tro, yn y pendraw, mae’n gorfod gadael. Mae hyn yn dangos ei chryfder a’i phŵer hithau hefyd i geisio newid pethau. Y tristwch yw ei bod hi’n methu anghofio, a’i bod hi’n cael ei hela a’i herlid ganddo. 

Mae’r ddau actor, Danielle Bird a Dan Hawksford, yn cydweithio’n arbennig ac mae eu portread o’r cymeriadau mor real, bron rydych yn anghofio eu bod yn actio o gwbl. Mae’r cyfarwyddo hefyd yn hynod o gelfydd, oherwydd nid oes llawer o gyffwrdd corfforol rhwng y ddau, yn enwedig yn ystod yr ymosodiadau a’r trais. Yn hytrach, mae’r cyfan yn cael ei gyflwyno i’r gynulleidfa drwy waith corfforol unigol, gyda’r ddau actor yn sefyll naill ochr i’r llwyfan. Mae’r gwagle a’r pellter yn ein hannog ni i greu’r delweddau hyn yn ein meddyliau, ac i deimlo poen Hayley a chasineb Carl. Mae hyn yn hynod effeithiol ac roedd y cyfarwyddo i gyd yn glyfar a dyfeisgar iawn drwy’r holl sioe.

Nid yn unig y sgript, y cyfarwyddo a’r actio sydd i’w ganmol ond hefyd yr ochr dechnegol. Mae’r set yn gyfuniad gwych o ddrysau tryloyw sy’n agor a chau i greu lleoliadau newydd ac ar adegau mae delweddau, negeseuon testun a geiriau allweddol yn cael eu taflu arnynt. Mae’r sain hefyd yn creu’r tensiynau angenrheidiol ond heb amharu ar yr awyrgylch ac mae meicroffonau yn ychwanegu at erchylltra’r trais yn y golygfeydd mwyaf tywyll. Defnyddiwyd tywod  i amgylchynu’r llwyfan ac roedd y traeth, y môr a dŵr yn themâu pwysig drwyddi draw. Cafwyd cyfeiriadau at Chwedl Llyn y Fan Fach ar ddechrau’r ddrama ac roedd hyn yn berthnasol i stori Hayley maes o law. Yr eironi fwyaf yw  bod y ddau gariad wedi cusanu am y tro cyntaf ar draeth Caswell sef yr union le mae Carl yn ceisio lladd Hayley a’i chladdu’n fyw ar ddiwedd y ddrama.

Dyma ddrama boenus a chreulon fydd yn aros yn y cof.  Ond yr hyn sy’n cael ei gyflwyno i ni yw’r ffaith nad yw achosion o drais domestig bob amser yn syml. Ry’n ni i gyd yn euog o ddweud wrth glywed hanesion tebyg …. Pam wnaeth Hayley aros gyda Carl? Pam wnaeth hi fynd nôl ato fe? Beth sy’n bod arni?

Mae’r ddrama hon yn cyflwyno dwy ochr o’r  stori i ni – dau lais,dau fersiwn a hynny yn gelfydd drwy gyfrwng theatrig. Mae’n glyfar, yn dorcalonnus ar adegau ond yn hynod bwerus. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.