DYMA ADOLYGIAD o ‘TYLWYTH’ (Dafydd James) Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru Gan Lowri Cynan

Yn anffodus mae taith y berfformiad yma wedi cael ei ganslo, darllenwch yr adolygiad isod, diolch.

5 out of 5 stars (5 / 5)

Weithiau, pan y’ch chi’n aros i weld ail gyfres ddrama ar Netflix neu iPlayer mae’r heip a’r ‘build up’ yn anhygoel. Ond yn amlach na pheidio, braidd yn siomedig yw’r canlyniad. Dyw hyn bendant ddim yn wir am ‘Tylwyth’ sef y dilyniant i ‘Llwyth’, drama hynod lwyddiannus Dafydd James sydd ar daith ar hyn o bryd. Waw! Dyma gyfanwaith gwbl trawiadol a chaboledig. Mae’r holl elfennau sydd eu hangen i greu darn o theatr ysgytwol yn perchnogi’r sioe hon. Heb os nac oni bai y prif uchafbwynt yw’r sgript sy’n grafog a chignoeth ar adegau ac yna’n delynegol a huawdl ar y llaw arall. Mae’r awdur yn dilyn strwythur y ddrama flaenorol i ryw raddau ond credaf bod sgript ‘Tylwyth’ yn fwy clyfar eto. Mae monologau Aneurin yn gweu yn gynnil drwy gydol y ddrama ac yn cyfuno arddull gynganeddol, gyda dyfyniadau o lenyddiaeth, emynau a rhigymau Cymreig. Mae’r chwarae ar eiriau a’r dychan pwrpasol yn gampwaith llwyr. Dyna pam mae angen i mi brynu’r sgript gan fy mod eisiau ei darllen er mwyn ei gwerthfawrogi eto!

Hanes yr un cymeriadau â ‘Llwyth’ a geir yma – Dada, Gavin, Gareth, Rhys ac Aneurin, ond degawd yn ddiweddarach – y llwyth hoyw sydd bellach yn bobl proffesiynol, yn rhieni, yn aeddfetach a challach i fod, a’r llwyth felly wedi troi’n dylwyth. Yn gymysg â’r cymeriadau hyn cyflwynir un cymeriad newydd sef Dan – gogleddwr a phartner amyneddgar a chariadus Aneurin. Mae’r ddau wedi mabwysiadu dau o blant bach ac er bod Aneurin wedi bod ‘ar y wagon’ ers pum mlynedd, mae diafoliaid y gorffennol yn ei boeni o hyd. Mae bwganod ei isymwybod yn ei arwain a’i demptio i fyd tywyll ei orffennol ac mewn un noson wyllt o gyffuriau, rhyw ac alcohol, mae’n mentro wynebu ei gyfrinach a’i ofnau personol dwysaf. Canlyniad y weithred yw bod Aneurin yn agor hen greithiau sydd wedi’i boeni ers blynyddoedd.

Mae’r actio a’r perfformiadau i gyd yn ardderchog – ensemble gwych sy’n cydweithio’n effeithiol, ond i mi mae Danny Grehan fel Dada a Simon Watts fel Aneurin yn serennu. Ceir gwaith corfforol bwriadol symbolaidd gan yr actorion ar adegau sy’n creu awyrgylch hynod effeithiol. Hefyd mae llwyfannu a chyfarwyddo cynnil a chlyfar Arwel Gruffydd yn arbennig. Mae’r set yn gyfuniad o lefelau a fflatiau symudol ar ffurf hanner cylch, ond sydd hefyd yn medru cael eu trawsnewid i greu lleoliadau gwahanol. Roedd hyn yn f’atgoffa o set draddodiadol Roegaidd, ond ar ffurf lawer llai wrth gwrs, ac roedd y goleuo yn llwyddo i greu naws hyfryd. 

Dimensiwn ychwanegol ond hynod bwysig yw’r trac sain a’r defnydd o ganu unigol a chorawl a oedd yn hynod ddoniol a dychanol. Roedd y cyfan yn ategu at un o driciau clyfar Daf James sef gwneud sbort deifiol am yr iaith Gymraeg a’n ffug barchusrwydd fel Cymry. I ddweud y gwir, mae’r coegni atom fel cenedl yn hynod lwyddiannus, bwriadol a dyfeisgar sy’n ein hannog fel cynulleidfa i ystyried ein credinedd ar adegau. Ymysg y themâu yma mae’r awdur yn trafod Brexit, hunaniaeth, rhywioldeb a moesoldeb. Ond y prif thema yw cariad a sut mae cariad yn trechu popeth yn y pendraw. Yng ngeiriau cân Eden ‘Gorwedd gyda’i Nerth’ “Cyffwrdd â’r grym yr hyn sy’n gariad pur”.

Os nad ydych wedi gweld ‘Llwyth’ ddeng mlynedd yn ôl, sdim ots – mae ‘Tylwyth’ yn sefyll ar ei thraed ei hun fel drama annibynnol. Ewch da chi i’w gweld. Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad rhagorol hwn ac yn arbennig i weledigaeth Daf James a thîm Theatr Genedlathol Cymru.   

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.