Adolygiad Anthem, Canolfan Mileniwm Cymru gan Lowri Cynan

Cynhyrchiad hir disgwyliedig Canolfan Mileniwm Cymru yw Anthem sy’n cael ei llwyfannu yn y Stiwdio Weston tan Orffennaf y 30ain. Braf yw gweld cefnogaeth i’r Gymraeg a sioeau newydd mewn sefydliad sy’n denu cynulleidfaoedd eang a gobeithio mai arwydd o ymroddiad ehangach i’r theatr iaith Gymraeg yw hon.


Sioe Gerdd a chomedi dychanol yw ‘Anthem’ wedi’i selio ar fformat rhaglenni realiti megis ‘X Factor’ sy’n ceisio dyrchafu pobl gyffredin yn sêr dros nos. Mae chwarae ‘tafod mewn boch’ ar fformat rhaglenni adloniant sgleiniog fel ‘Eurovision’ a ‘Can i Gymru’ yn amlwg yma hefyd, yn enwedig o ran cynllun y set deledu, arddull y sioe a steil y cyflwyno cawslyd o slic. Cymeriadau stoc yw’r dalent sy’n aros i gael eu pum munud o enwogrwydd yn yr ystafell werdd – Teleri (Rhian Morgan), Eifion ac Esyllt (Gareth Elis a Lily Beau Conway), Leon (Iestyn Arwel) a Gerald (Rhys ap Trefor). Mae pob un o’r rhain yn cynrychioli ardaloedd o Gymru ac yn cynnal y gomedi wrth rannu eu bywydau bach pantomeimaidd gyda ni. Mae geiriau eu caneuon unigol wrth iddynt berfformio (a gobeithio dod i’r brig) yn adlewyrchu eu ffantasïau ystrydebol. Mae ochr dechnegol y stiwdio deledu yn siambls llwyr ac yn cael ei redeg gan griw bach hollol ddibrofiad ac aneffeithiol. Tudur y Cyflwynydd sy’n angori’r cyfan, yn ceisio achub y dydd, a’r sioe o ran hynny! – ac wrth gwrs ei yrfa, er bod ei ymdrechion yn aflwyddiannus yn y pendraw.

Yn sgil y rhialtwch, mae gan bob un ei angst personol, sydd wrth gwrs yn ychwanegu ymhellach at y gomedi a’r ffraethineb, e.e. Teleri, sy’n dyheu i gael ei derbyn gan yr ‘in-crowd’ Cymreig ac Eifion sydd eisiau rhedeg i ffwrdd mor bell phosib ohono! Mae’r cyfan, y themâu a’r mathau o gymeriadau yn dwyn i gof cyfresi teledu Cymreig o’r gorffen.

Cafwyd dawnsio a chanu, tantrums a dagre, gyda chydweithio hyfryd rhwng y cymeriadau. Ond mae’r cystadlu bitshlyd a’r antics erbyn y diwedd yn cilio. Yn hytrach mae’r cymeriadau, neu rai ohonynt o leiaf, yn sylweddoli bod eu bywydau bach cyffredin yn ddigon! Does dim angen yr enwogrwydd ffug arnynt i fod yn hapus!

Felly os y’ch chi ffansi noson ysgafn mas mewn theatr hyfryd, dyma’r sioe i chi. Mae’r deunydd yn addas hefyd i ddysgwyr gan fod y ddeialog a geiriau’r caneuon yn cael eu cyfieithu a’u taflu ar daflunydd sy’n rhan o’r set liwgar. Sioe 90 munud yw hon – dim egwyl, ac mae modd mynd a diod gyda chi i’r theatr. Ar ben hyn, mae pris y tocynnau’n rhesymol o’i gymharu â’r prif awditoriwm. Joiwch!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.