Imrie ydy’r sioe ddiweddaraf i’w ddathlu 50 mlynedd o Theatr y Sherman. A chymaint o sioe yw e! Ysgrifennwyd gan Nia Morais (Awdur Preswyl y Sherman) a chyfarwyddwyd gan Gethin Evans, mae Imrie yw cyd-cynhyrchiad gyda Theatr Frân Wen sy’n teithio i fewn i byd arallfydol o dan y mor – a mae’n anhygoel i brofiadu.
Mae’r stori’n dilyn dwy hanner-chwiorydd: Laura (Elan Davies), sy’n mwyn fitio i fewn gyda’r merched arall yn ysgol; a Josie (Rebecca Wilson), sy’n dawel ac yn difrifol, ac sy’n darganfod ochr arall i’i hun. Nes i’r ddechrau y stori, dysgodd Josie celwydd teuluol a diflannodd hi mewn deyrnas hudolus o dan y donnau. Yna, ffeindiodd hi ferch arall, o’r enw Imrie Sallow, a newidiodd ei bywyd am byth.
Roedd Elan Davies a Rebecca Wilson yn anhygoel. Dalion nhw sylw y cynulleidfa trwy’r stori, a chreuon nhw awyrgylch ddoniol ac emosiynol. Mae’r ddau chwiorydd yn trio darganfod ble mae nhw’n perthyn yn y byd, a phwy ydyn nhw; pwy basen nhw’n hoffi fod. Perthynas y chwiorydd yn prydferth ac yn cymhleth, a roedd yr actorion wedi datblygu cydberthynas cryf gyda’n gilydd.
Doedd y sioe ddim yn troi i bant o bwnciau bwysig fel hiliaeth a rhywioldeb – ond sgript Nia Morais yn teithio trwy rhain yn haws ac yn hardd. Mae’r ddau cymeriad yn trawsnewid a tyfu fyny o’r ur amser: siwrnai anodd yw e, troi i fewn i berson chi ddim yn adnabod. Mae Laura yn ymrafael i fod ei hun ar y tir, tra mae Josie yn ffeindio ei gwir hunaniaeth yn y mor. Y ffordd mae’n nhw’n dangos deyrnas morol yw trawiadol iawn, yn enwedig gyda miwsig awyrgylchol gan Eädyth Crawford (sy wedi neud y cerddoriaeth i ‘A Midsummer Night’s Dream’ llynedd).
Mae Nia Morais wedi consurio byd sy’n realistig ac yn hud: cydbwysedd annodd, ond mae Imrie yn llwyddiannu. Roedd y tim creadigol wedi neud rhywbeth arbennig yma. Dyma sioe am cynulleidfeydd o bob oedran: a gyda chapsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, gall siaradwyr newydd a rhai di-Gymraeg mwynhau’r sioe. Imrie ydy antur hudolus ac emosiynol gan cast a chriw dalentog iawn. Mae o amdan sut deallrwydd, cariad a chysylltiad yw’r pethau mwyaf hudolus o bopeth.