Deor

Sefydliad elusennol yw Impelo â’r nod o rannu grym gweddnewidiol dawns mor bell a mor eang â phosibl, gan greu cysylltiadau rhwng pobl o bob oedran, o bob lliw a llun, mewn hunanfynegiant llawen. Pawb yn dawnsio – er eu lles eu hunain, er lles ei gilydd, a thros fywyd gwell.

Yn Impelo rydym yn creu prosiectau, rhaglenni a chynyrchiadau sy’n archwilio sut gall dawnsio ymateb i anghydraddoldebau cymdeithasol a mewn iechyd, dysgu creadigol a chynaladwyedd. Ledled Powys yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, lle rydym yn gweithredu, mae gennym enw da fel arloeswyr ym maes ymarfer dawnsio cyfranogol https://www.impelo.org.uk

Diolch i gymorth ariannol y Foyle Foundation rydym yn falch iawn o allu cynnig pedair preswylfa fagu gydweithredol, lle byddwn yn paru dawnswyr cyswllt o Impelo am ddwy wythnos â graddedigion diweddar neu bobl sy’n ystyried dychwelyd i fyd dawnsio. Credwn y bydd hyn yn ffordd wych o gefnogi ein dawnswyr cyswllt presennol a dod â dawnswyr newydd i Bowys fel y gallant ddatblygu eu hymarfer trwy broses gydweithredol.

Rydym yn awyddus i ddod ag egni creadigol i Bowys trwy ddod i adnabod dawnswyr newydd ar ddechrau eu gyrfa ac archwilio sut gallen ni weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.

Nod y rhaglen yw:

  • Meithrin graddedigion diweddar (2019, 2020 a 2021) a rhai sy’n dychwelyd at ddawnsio neu’n symud o berfformio’n broffesiynol at ymarfer dawnsio cymunedol trwy gyfrwng rhaglen bwrpasol yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau a chyngorfeydd;
  • Codi ymwybyddiaeth o dirwedd ddawnsio cymunedol ym Mhowys a datblygu ei hecoleg drwy fagu cysylltiadau newydd â dawnswyr newydd ym Mhowys a’r cyffiniau.

Fe ddetholwn ni ddawnswyr sy’n awyddus i ddatblygu eu hymarfer dawnsio cymunedol a chysylltu â’r rhanbarth yma. Ein gobaith yw y bydd HATCH yn cyfrannu at greu ymdeimlad o gymuned gyda’r dawnswyr talentog sydd yma. 

Yr hyn rydym yn ei gynnig:

  • Preswylfa fagu dros 10 niwrnod (ar-lein neu yn ein Canolfan Ddawnsio yn Llandrindod, yn amodol ar argyfyngiadau Cofid) a phartner cydweithredol sy’n aelod o dîm Impelo;    ;
  • Cyfleoedd cysgodi;
  • Sesiynau gweithdy ymarferol ar gyflwyno sesiynau dawnsio cymunedol cynhwysol a chreu perfformiadau dawnsio ar gyfer cynulleidfaoedd a chymunedau penodol;
  • Cymorth datblygu gyrfa a chyngorfeydd un ag un;
  • Dosbarth gyda’r cwmni;
  • Cyfle i rannu gwaith cyfredol sy’n cael ei ddatblygu neu a ddatblygwyd yn ystod y breswylfa;
  • Ffi o £700

Pwy rydym yn chwilio amdanynt:

  • Dawnswyr a raddiodd yn ddiweddar neu sydd ar fin graddio, sydd â diddordeb mewn datblygu eu gyrfa ym Mhowys fel ymarferwyr dawnsio a chrewyr dawns cymunedol – a sydd yn byw ar hyn o bryd, neu’n bwriadu dod i fyw ym Mhowys, Cymru neu’r Gororau, neu wedi tyfu lan ym Mhowys;
  • Dawnswyr sy’n awyddus i ddychwelyd at ddawnsio, neu’n chwilfrydig ynghylch ymarfer dawnsio cymunedol;
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau oddi wrth ymarferwyr dawnsio sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol – rhai B/byddar, anabl, niwroamrywiol, siaradwyr Cymraeg a Phobl Groenlliw (ac rydym yn sylweddoli ac yn deall nad yw’r dawnswyr hyn efallai wedi dod trwy lwybrau dawnsio traddodiadol);
  • Dawnswyr sy’n gallu arddangos sut bydd y breswylfa fagu’n fuddiol iddynt wrth iddynt ddatblygu eu gyrfa;
  • Dawnswyr sy’n awyddus i’w herio eu hunain, eu cydweithredwyr, a ni;
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n hanu o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd dawnsio.

Pryd:

Cynhelir y breswylfa fagu o ddydd Llun 26ain Gorffennaf tan ddydd Gwener 6ed Awst 2021.

Sut i ymgeisio:

Anfonwch inni ddatganiad wedi’i recordio (sain neu fideo) neu ysgrifenedig i ddweud wrthym amdanoch chi, a sut yn eich tyb chi y bydd y breswylfa fagu hon yn helpu i ddatblygu eich ymarfer erbyn 9 yb Llun 28ain Mehefin 2021.

Trwy ebost: amanda@impelo.org.uk

Dyddiad cyfweliadau

30ain Mehefin – Cyfweliadau ar Zoom

2il Gorffennaf – Cewch eich hysbysu am y canlyniad

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.