Rhyddhad Mawr i Theatrau Cymru wrth i Gyfyngiadau Covid Gael Eu Codi ond bydd £10m o Golledion yn sgil Cau Dros y Nadolig yn Amharu ar yr Adferiad.

Newyddion i’w croesawu yw cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o ran dechrau codi cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol i sector y celfyddydau perfformio, ond mae adroddiad newydd gan Creu Cymru yn dogfennu cyflwr argyfyngus y diwydiant a achoswyd gan y cyfyngiadau Covid yn enwedig dros gyfnod y Nadolig sydd fel arfer mor brysur.

Mae Creu Cymru, gynghrair sector y celfyddydau perfformio yng Nghymru sy’n cefnogi ac yn cysylltu pobl, cynulleidfaoedd a chymunedau, wedi amcangyfrif mai cyfanswm y refeniw a gollwyd gan ei haelodau, sy’n cynrychioli bron holl theatrau, canolfannau celfyddydau a chwmnïau cynhyrchu’r genedl a reolir yn broffesiynol, yw £8-10 miliwn ers i Gymru fynd yn ôl i Lefel Rybudd 2 ar 26 Rhagfyr. Canlyniad gorfod dychwelyd i’r rheol o 6 gydag uchafswm o 200 yn y gynulleidfa oedd i’r rhan fwyaf o theatrau yng Nghymru ganslo perfformiadau neu gau’n gyfan gwbl gan nad oedd yn ariannol gynhaliol i barhau.

Mae Creu Cymru wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ran ei aelodau am gymorth ariannol pellach ac i ailystyried yr angen am gadw pellter cymdeithasol mewn theatrau. Mae wedi bod yn eirioli dros y sector theatrau ers cyn i’r cyfyngiadau diweddar yma gael eu rhoi yn eu lle, gan gynnwys cyflwyno’r achos i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd fel rhan o’i ymholiad undydd i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd derbyn cyllid yn gyflym yn dilyn unrhyw gyhoeddiadau ariannu.

Yn ôl Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru, “Rydym yn cydnabod ymateb cyflym a chadarnhaol Llywodraeth Cymru i’n lobïo parhaus ers diwedd 2021 am gefnogaeth ariannol i sector y celfyddydau yng Nghymru. Roedden ni’n hynod falch o weld y Prif Weinidog yn cyhoeddi dyddiad terfyn posibl ar gyfer y cyfyngiadau ar theatrau a sectorau adloniant eraill heddiw. Ochr yn

ochr â’r newyddion ynghynt yr wythnos yma am Gronfa Adferiad Diwylliannol bellach o 15.4 miliwn, bydd hyn yn mynd ymhell i helpu sector y mae’r cyfyngiadau wedi effeithio arno’n enfawr.

Mae tymor y Nadolig yn gyfnod hollbwysig yn y calendar theatrig; mae’n denu incwm sydd ei ddirfawr angen ac yn dod â theuluoedd ynghyd. Ein hamcangyfrif oedd cyfanswm colledion o tua 8-10 miliwn i theatrau yng Nghymru yn y rownd ddiweddaraf yma o gyfyngiadau. Rydym yn ddiolchgar am yr ymgynghoriad y gallen ni ei gael â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gwrando ar ein pryderon a’n cwestiynau.

Ar ran ein haelodau, rydym wedi pwysleisio’r angen am amser digonol i gynlluniau gael eu rhoi yn eu lle. Mae’r newyddion heddiw’n golygu bod y miloedd o gynhyrchwyr, actorion, cerddorion, canolfannau a staff cynorthwyol ar draws y diwydiant sydd wedi bod yn trafod yn bryderus a ddylent ailddechrau sesiynau ymarfer a’r marchnata cysylltiedig â chynyrchiadau sydd yn yr arfaeth ar gyfer mis Chwefror ymlaen, yn gallu symud rhagddynt gyda mwy o sicrwydd.”

Mae adroddiad Creu Cymru i Lywodraeth Cymru ar statws y sector yn nodi bod o leiaf 19 o theatrau’n gorfod canslo eu cynyrchiadau i’r Nadolig a pherfformiadau ar y gweill ym mis Ionawr.  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi taliad brys o £1000 ar gyfer gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sector a fydd ar gael drwy awdurdodau lleol o’r wythnos nesaf, gyda’r manylion llawn yn cael eu cyhoeddi 17 Ionawr. Fe ymddengys y bydd lleoliadau perfformio a chanolfannau celfyddydau ac amgueddfeydd diwylliannol yn debygol o fodloni’r meini prawf ar gyfer y gronfa £15.4m gan eu bod yn gallu dangos yn haws y golled incwm a gafwyd. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw’n eglur sut y bydd cwmnïau cynhyrchu’n cael eu cefnogi os na all prosiectau arfaethedig fynd yn eu blaenau neu pa fathau o yswiriant a allai fod ar gael os bydd gwaith sydd wedi’i gomisiynu’n cael ei ganslo.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.