Cartref / Home: yn rhannu gwaith a grëwyd fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Theatr Mess up the Mess a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe

Comisiynu graddedigion celfyddydau diweddar a chyn-aelodau Theatr Mess Up The Mess i gydweithio â phobl ifanc er mwyn creu gwaith gyda Chanolfan Celfyddydau Pontardawe i’w rannu’n ddigidol

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi comisiynu Mess Up The Mess i gydweithio â thri gweithiwr llawrydd sydd wedi graddio’n ddiweddar ac sy’n artistiaid sy’n prysur wneud enw iddynt eu hunain, er mwyn cefnogi datblygiad eu harfer cyfranogol a’u gwaith creadigol eu hunain. Yr artistiaid sy’n amlygu yw Cerian Wilshere-Davies, Callum Bruce-Phillips a Ciaran Fitzgerald, pob un yn gyn-aelodau o Gwmni Theatr Mess up the Mess.

Bu’r artistiaid yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc er mis Ionawr 2021 ac maen nhw’n paratoi ar gyfer noson o rannu digidol, lle byddan nhw’n rhannu’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei greu. Bydd Cartref / Home ar gael i’w wylio ar-lein ar 25 Mawrth am 7pm.

Mae Mess Up The Mess yn arbennig o gyffrous ynghylch gweithio ochr yn ochr â’r artistiaid ifainc hyn, gan eu bod nhw wedi bod yn aelodau er yn 12-14 oed ac wedi bod ar siwrnai o 10 mlynedd a mwy gyda’r cwmni.

Mae’r Prosiect Cartref / Home yn archwiliothema ‘cartref’ a defnyddio comedi i gael hwyl gartref. Bu’r artistiaid a’r bobl ifanc yn creu eu mannau ffantasi eu hunain sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus, yn ddwl, yn anturus neu’n ddiogel. Bu’r grwpiau’n archwilio ffantasi, chwedlau a’r mannau a’r bydoedd yr ydym yn eu dewis yn gartref, ac yn paratoi i rannu’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei greu ar-lein.

Maen nhw wedi holi cwestiynau fel  – pa dirweddau, gwrthrychau a chymeriadau fyddech chi’n hoffi eu rhithio yn eich lle chi? Pa fath o amgylchedd sy’n gwneud i chi deimlo’n gyffrous? Ym mha fath o amgylchedd ydych chi eisiau chwarae neu fod yn ddwl? Efallai mai natur yw’ch amgylchedd chi, lle gyda llawer o greaduriaid a phobl neu efallai man dan do yn arbennig ar eich cyfer chi. Efallai bod y mannau hyn yn heddychlon ac yn dawel neu efallai eu bod yn rhywle sy’n ddoniol iawn i chi.

Mae Callum Bruce-Phillips wedi ennill gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu/Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei radd MA mewn Cynhyrchu Ffilm. Mae Ciaran Fitzgerald yn awdur ac yn hwylusydd o Bort Talbot. Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf yn 2013 i Mess Up The Mess, ac nid ydyw wedi edrych nôl. Yn 2019 graddiodd o Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd gyda BA mewn Sgriptio. Mae Cerian Wilshere-Davies yn hwylusydd, yn wneuthurwr theatr ac yn gomedïwraig, a graddiodd o Brifysgol Salford y ddiweddar.

Mae’r artistiaid yn hwyluso ac yn arwain datblygiad gwaith y bobl ifanc eu hunain, ochr yn ochr â chreu eu gwaith eu hunain. Cyfarwyddwr Artistig Mess up the Mess, Sarah Jones, sydd wedi bod yn mentora’r tîm. Roedd y comisiwn yn cynnwys dosbarthiadau meistr mewn meysydd sy’n gysylltiedig â’r prosiect creadigol; gweithio’n ddwyieithog gyda Bethan Marlow, gwneud ffilmiau mewn ffordd gyfranogol gyda Tom Barrance a dulliau cynhwysol o greu celf ddigidol gyda Taking Flight.

Meddai Ciaran Fitzgerald am y dosbarthiadau meistr;

Roedd ein gweithdai gyda Tom Barrance bendant wedi cynyddu fy hyder yn gwneud ffilmiau byr. O’n i ddim wedi gwneud llawer o olygu fideos o’r blaen, a gydag arweiniad Tom dwi’n bles iawn gyda beth ‘nes i gynhyrchu, a fyddai bendant yn ei ychwanegu i fy ymarfer yn y dyfodol. Ar ôl ein sesiwn gyda Bethan Marlow, teimlais fod y rhwystrau i weithio’n ddwyieithog wedi cael eu chwalu. Roedd Bethan wedi neud yr holl gyd-destun yn gynhwysol iawn, ac wedi cyflwyno strategaethau defnyddiol iawn bydda i bendant yn eu defnyddio yn fy ymarfer yn y dyfodol. Roedd gweithdy Taking Flight ar sail cynhwysiant yn ddefnyddiol ac yn bleserus iawn. Dwi’n meddwl ‘naeth Elise a Steph atgyfnerthu pethau o’n i eisoes yn gwybod, ond hefyd ‘nes i ddysgu pethau newydd am gynhwysiant yn y celfyddydau, a hefyd falle herio rhai o’n canfyddiadau i. Dwi bendant isho gweithredu BSL a Sain Ddisgrifiad yn fy ngwaith yn y dyfodol.

Meddai Sarah Jones, Cyfarwyddwr Artistig Mess Up The Mess:

“Rydyn ni’n gyffrous iawn ynghylch y prosiect hwn am gymaint o resymau, gan gynnwys y cyfle i gomisiynu artistiaid sydd wedi dod trwy Mess Up The Mess. Dw i’n cofio cwrdd â phob un o’r artistiaid hyn a dw i wedi cael y fraint o ddysgu a chydweithio ochr yn ochr â nhw dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n aruthrol o ddiolchgar i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe am y cyfle i barhau i gydweithio ar lefel broffesiynol gyda nhw i’w galluogi i fynd ar drywydd eu hymarfer ar adeg mor anodd i’r celfyddydau ac i bobl ifanc. Maen nhw’n bobl greadigol neilltuol sy’n llawn ysbrydoliaeth ac mae ganddynt y pŵer i ysbrydoli ac i ddatblygu lle diogel a lle sy’n meithrin ar gyfer ein cyfranogwyr ifanc er mwyn creu gwaith newydd a gofalu am eu llesiant.”

Bydd Cartref / Home yn cael ei ffrydio ar-lein ar 25 Mawrth 2021 am 7pm. Gallwch brynu tocynnau trwy Ganolfan Celfyddydau Pontardawe: https://pontardaweartscentre.ticketsolve.com/shows/1173609478

Rhagor o wybodaeth am yr artistiaid

Cerian Wilshere-Davies

Mae Cerian yn hwylusydd, yn wneuthurwr theatr ac yn gomedïwraig, ac mae wedi graddio’n ddiweddar o Brifysgol Salford gyda gradd dosbarth 1af mewn Ysgrifennu a Pherfformio Comedi. Mae gan Cerian ddiddordeb mewn creu gwaith sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth Cymru a mynegi hunaniaeth.

Callum Bruce-Phillips

Mae Callum wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu/Llenyddiaeth Saesneg, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei radd MA mewn Cynhyrchu Ffilm. Yn ystod ei radd israddedig, gweithiodd Callum gyda Chanolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol, lle bu’n gweithio gyda phobl ifanc a phobl hyglwyf o gefndiroedd gwahanol sydd wedi eu tangynrychioli. Mae’r profiad hwn wedi ysbrydoli Callum i ddilyn gyrfa fel gwneuthurwr ffilmiau cymunedol sy’n canolbwyntio ar ehangu mynediad yn y diwydiant ffilm i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.

Ciaran Fitzgerald

Awdur a hwylusydd o Bort Talbot yw Ciaran. Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf yn 2013 i Mess Up The Mess, ac nid ydyw wedi edrych nôl.  Yn 2019 graddiodd o Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd gyda gradd BA mewn Sgriptio, ac ar hyn o bryd mae’n datblygu’r ddrama gyntaf i gael ei chomisiynu ganddo, sef ‘Chasing Rainbows’ gyda Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Mae gan Ciaran ddiddordeb mewn datblygu gwaith â chymeriadau cryf wrth ei galon, sydd wedi ei anelu’n benodol at bobl ifanc. Ag yntau’n siaradwr Cymraeg rhugl mae hunaniaeth yn agwedd allweddol ar y gwaith y mae’n ei greu, ynghyd ag egwyddorion allweddol mynediad a chynhwysiant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.