Cyfweliad gyda cyfarwyddwr Estron Janet Aethwy Theatr Genedlaethol Cymru

Ymarferion Estron, Janet Aethwy (Cyfarwyddwr / Director).  Kirsten McTernan Photography & Design.

Shwmai, Janet, mae’n dda cwrdd â chi. Allwch chi ddweud tipyn wrth ein darllenwyr am eich cefndir, os gwelwch chi’n dda?

Shwmai, Guy – dwi’n actor ac yn gyfarwyddwr sydd i’w gweld o bryd i’w gilydd ar yr opera sebon Pobol y Cwm, yn chwarae rhan ditectif lleol. Dwi wedi bod yn actio ers bron i ddeugain mlynedd, ond yn y bum mlynedd ddiwethaf dwi wedi troi at gyfarwyddo. Dwi’n gyfarwyddwr llais ar gyfresi animeiddiedig ar gyfer S4C ac yn gyfarwyddwr nifer o ddramâu un-person ar thema hanesyddol i’w perfformio mewn ysgolion.

Beth ysgogodd chi i gymryd diddordeb mewn Cyfarwyddo ac yn y Celfyddydau?

Yn 2013 cefais gyfle i fynd ar gwrs cyfarwyddo gydag Elen Bowman o’r cwmni Living Pictures, a rhoddodd hynny nifer o sgiliau a chyfleoedd gwerthfawr i mi. Cymerais ran mewn sawl gweithdy, yn amrywio o Meisner a Frantic Assembly i sesiynau sgrifennu gyda Mike Bartlett a Sacha Wares. Mae’r broses greadigol yn rhan annatod o unrhyw gymdeithas ffyniannus, ac mae datblygu sgiliau dramodwyr a llwyfannu eu gwaith yn fy ngalluogi i gyfrannu i’r swyddogaeth honno.

Un o gynlluniau newydd Theatr Genedlaethol Cymru yw Theatr Gen Creu, a fydd yn cefnogi talent, yn datblygu crefft y theatr, ac yn cynnig cyfleoedd unigryw i artistiaid yng Nghymru. Un elfen o’r fenter newydd hon yw darparu cefnogaeth i gyfarwyddwyr newydd. Pam, yn eich barn chi, mae’r fenter yn un bwysig?

Fel un sydd wedi cael budd fy hun o ddilyn cwrs arloesol ar gyfarwyddo, dwi’n llwyr gefnogi unrhyw gymorth sy’n cael ei roi i egin-gyfarwyddwyr.

Cafodd Estron ei llwyfannu’n wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol 2017. Fydd y cynhyrchiad hwn yn wahanol mewn unrhyw ffordd?

Gan ein bod wedi cael y cyfle hwn i deithio’r gwaith o amgylch Cymru, dydi’r cynhyrchiad yn ei hanfod ddim yn wahanol, ond mae o wedi esblygu, datblygu ac aeddfedu.

Enillodd y dramodydd, Hefin Robinson, y Fedal Ddrama am Estron yn Eisteddfod Genedlaethol 2016. Fel rhywun a chanddi gysylltiad personol â’r gwaith hwn, beth yn eich barn chi oedd wedi apelio at y beirniaid?

Mae gwaith Hefin yn chwareus, yn llawn dychymyg, ac yn wreiddiol. Mae’n mynd i’r afael â gwirionedd anodd gyda chyffyrddiad ysgafn, doniol. Er ei fod yn delio â marwolaeth a cholled, mae’n gwneud hynny fel rhan o gontinwwm bywyd. Mae ei neges yn bositif ac yn ddyrchafol.

Ceri Elen (Han), Janet Aethwy (Cyfarwyddwr / Director). Kirsten McTernan Photography & Design

Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys perfformiad mewn Iaith Arwyddion (BSL). Allwch chi ddweud rhagor wrthym am hyn, a pham eich bod o’r farn ei bod yn rhan bwysig o’r hyn rydych yn ei gynnig i gynulleidfaoedd? 

Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud eu cynyrchiadau’n hygyrch, ac mae darparu perfformiad BSL yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw. Mae’r cwmni’n awyddus i sicrhau bod eu cynyrchiadau’n cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib, ac yn ceisio chwalu rhwystrau a allai atal pobl rhag mynychu. Maen nhw’n gweithio gydag arbenigwyr yn y maes – Cathryn McShane fel Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Jonny Cotsen fel ymgynghorydd – i sicrhau bod y perfformiad arbennig hwn yn cwrdd ag anghenion y gynulleidfa.

Mae Get the Chance yn gweithio i gefnogi ystod eang o aelodau’r cyhoedd i’w galluogi i gael mynediad i ddarpariaeth ddiwylliannol. Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau i gydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n bodoli yng nghyd-destun artistiaid Cymreig neu rai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru? 

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i ymestyn ein gwaith i gynulleidfa mor eang ag sy’n bosib. Dylai’r theatr adlewyrchu cymdeithas yn ei holl amrywiaeth.

Pe byddech chi’n gallu ariannu un maes celfyddydol yng Nghymru, pa faes fyddai hwnnw a pham?

Hoffwn weld mwy o gefnogaeth ariannol ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth/celf/drama lleol yn ein cymunedau. Mae cefnogi digwyddiadau byw yn hyrwyddo busnesau bychan mewn trefi ac yn ysgogi teimladau llesol ym mhob un sy’n cymryd rhan.

Beth sy’n eich cyffroi chi ynghylch y celfyddydau yng Nghymru? 

Mae maes y celfyddydau yng Nghymru’n feithrinfa ar gyfer talent ifanc yn ogystal ag yn llwyfan ar gyfer perfformwyr profiadol a hyddysg o safon uchel.

Beth oedd yr un digwyddiad arbennig y gwnaethoch chi ei fwynhau’n ddiweddar, y byddech yn hoffi ei rannu gyda’n darllenwyr?

Yn ddiweddar, cefais bleser mawr yn gwylio Tudur Owen – comedïwr adnabyddus o sir Fôn – yn Theatr y Glowyr, Rhydaman. Dwi’n mawr obeithio y byddwch chithau’n mwynhau eich ymweliad i’r un theatr i weld Estron – sy’n cael ei chyfarwyddo gan Fonwysyn arall.

Diolch yn fawr i chi am eich amser.

Ar daith 19 Ebrill – 19 Mai 2018 On tour 19 April – 19 May 2018 Y Daith / The Tour: Theatr y Glowyr, Rhydaman / Miners’ Theatre, Ammanford: 19 + 20.4.18 Canolfan Garth Olwg / Garth Olwg Centre: 24.4.18 Neuadd Dwyfor, Pwllheli: 26.4.18 Y Stiwt, Rhosllannerchrugog: 1.5.18 Theatr Bro Alaw, Bodedern: 3.5.18 Theatr Felinfach: 5.5.18 Pontio, Bangor: 8.5.18 Canolfan Morlan, Aberystwyth: 9.5.18 Neuadd Gymunedol Maenclochog Community Hall: 11.5.18 Ffwrnes, Llanelli: 12.5.18 Chapter, Caerdydd / Cardiff: 14-16.5.18 Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre, Abertawe / Swansea: 17.5.18 Galeri, Caernarfon: 19.5.18

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.