Adolygiad Y Bont gan Rachel Morgan

YBont
Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru., Aberystwyth, February 6, 2013
Roedd awyrgylch trydanol yn llenwi cyntedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar brynhawn Sul cyn dechrau perfformiad unigryw Theatr Genedlaethol Cymru o’r Bont. Ac nid yw’n syndod ychwaith ; roedd 500 ohonom yn aros yn eiddgar i’r hyn a ddisgrifiwyd cynt fel perfformiad a fyddai’n ‘plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy’. *
Heb os, roeddem yn aros i fod yn rhan o berfformiad a fyddai’n garreg filltir bwysig yn hanes y Theatr Cymraeg yng Nghymru, ac o’m rhan fi fy hun, ni chefais fy siomi.
Protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hanner can mlynedd ynghynt, ar bont Trefechan a ysgogodd y ddrama a cheisio ail greu digwyddiadau’r diwrnod pwysig hwnnw a’i phlethu â’r presennol oedd amcan uchelgeisiol y perfformiad.
Ar ôl cael ein tywys i ganol y dre ar fysiau o gyfnod y 60au cerddon yn un dorf fawr i wylio’r myfyrwyr ifainc yn gosod posteri y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth yn hawlio statws swyddogol i’r Gymraeg.Aethom o’r fan honno i gaffis gwahanol y dre i fwyta pice ar y maen ac i yfed te o gwpanau a soseri, (rhaid canmol pwy bynnag penderfynodd defnyddio soseri a chwpanau)!
Er i ni gael eistedd a chynhesu mewn caffis nid toriad hanner amser oedd hwn, serch hynny, oherwydd i’r perfformiad parhau ar ffurf fideo wrth inni wylio protestwyr 1963 yn hel atgofion am y brotest wreiddiol. Roedd defnyddio geiriau’r protestwyr gwreiddiol, nid yn unig yn wers hanes diddorol ac addysgiadol i’r gynulleidfa, ond yn dechneg effeithiol i gynnal momentwm y presennol. Llwyddodd ei geiriau nhw, ochr yn ochr â deialog yr actorion oedd i glywed yn uchel yn y caffi creu ymdeimlad o gyffro wrth inni sylwi ein bod yn agosáu at uchafbwynt y perfformiad ; cerdded at y Bont.
Dyma oedd fy hoff ran i o’r ddrama. Yn ffodus, llwyddais i gyrraedd blaen y dorf ac roedd troi o amgylch a gweld 500 o bobl yn dilyn ôl traed y protestwyr gwreiddiol mewn tawelwch wrth wrando ar ddeialog y ddrama yn datblygu trwy eu clustffonau, yn olygfa hynod o bwerus a thrawiadol.
Ar y bont perfformiwyd golygfa olaf Kye a Dwynwen. Cychwynnodd stori Kye, cerddor o Ferthyr a Dwynwen myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a chyflwynydd teledu rhaglen ddogfen am hanes pont Trefechan, ar ddechrau’r perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau wrth inni wylio fideo o hanes y ddau yn cwrdd, yn symud mewn gyda’i gilydd, ac yna yn gwahanu oherwydd, yn bennaf, agweddau gwahanol y ddau at y Gymraeg. Ochr yn ochr â hanes protest 1963 dilynwn stori garu’r ddau wrth i’w hamgylchiadau dod â nhw at ei gilydd yn Aberystwyth y Sul hwnnw am y tro cyntaf ers iddynt wahanu. Roeddwn i wir yn hoff o’r modd y llwyddodd stori Kye a Dwynwen cael ei gwau o amgylch y gynulleidfa a hanes y brotest, a rhaid canmol yn bennaf perfformiad yr actor a oedd yn chwarae rhan Kye.
Er hyn, credaf y byddai’r ddrama gyfan ar ei hennill petai fwy o ddyfnder yn y ddeialog rhwng y ddau gymeriad. Byddai clywed mwy am hanes Kye wedi cryfhau’r stori, yn yr un modd y byddai cael gwybod mwy am benderfyniad Dwynwen i adael ei swydd yn ychwanegu at uchafbwynt diweddglo’r ddrama. Ai penderfyniad gwleidyddol oedd y tu ôl i’w hymddiswyddiad? Yn y sgwrs rhyngddi hi a’i chynhyrchydd yn y Cabin a welwyd ar fideo daeth i’r amlwg nad oedd ‘peidio â bod yn wleidyddol’ fel y cynghorodd ei chynhyrchydd iddi fod yn ei phlesio. Ai safiad yn erbyn ei hawl i fynegi ei barn am bwysigrwydd y brotest oedd un o’r rhesymau y tu ôl i’w phenderfyniad i roi gorau i’w swydd, neu ei chariad at Kye yn unig a’i hysgogodd? Credaf y byddai ehangu ar hanes y ddau a diwygio ychydig ar y ddeialog a geir rhyngddynt yn rhoi cyfle gwych i greu diweddglo hyd yn oed fwy pwerus i gloi’r ddrama anhygoel hon.
Yr oedd hi, heb os, yn brofiad ac yn perfformiad bendigedig ac yn dyst i’r ffaith fod y Theatr Genedlaethol Cymraeg yn fentrus ac yn weledigaethol. Gobeithio hefyd yr oedd hi’n deyrnged a oedd wrth fodd protestwyr dewr 1963.
* Gwelir erthygl ’50 Diwrnod i fynd tan Y Bont’ ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.