Direidi a phengliniau uchel yn y Pantomeim Bwrlésg Mawr yn ystod y Nadolig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 

Mae pantomeim bwrlésg ar ei ffordd i Ganolfan Mileniwm Cymru dros gyfnod y Nadolig, gyda pherfformiadau gyda’r nos o 17 tan 20 Rhagfyr, a matinée ar Nos Galan.
Caiff cynulleidfaoedd brofi Nadolig chwareus gyda pherfformiadau pantomeim, gan gynnwys cân, drag, comedi, dawns, perfformiadau beiddgar, a bwrlésg hudolus.

Bydd y rhai sy’n dwlu ar bantomeim yn cael mwynhau eiliadau panto clasurol (o na, fyddan nhw ddim, o iawn, byddan nhw!) wrth brofi natur befriog, rywiol a gwirion cabaret.

Mae’r sioe newydd hon gan Glwb Cabaret Caerdydd yn cynnwys rhai o sêr cabaret mwyaf poblogaidd Cymru a thu hwnt – gyda sgript wreiddiol wedi’i hysgrifennu gan FooFoo LaBelle.

Bydd y digwyddiad yn tywys cynulleidfaoedd ar daith i gwrdd ag arwyr a dihirod ‘ffabiwlws’ byd y straeon tylwyth teg. Bydd gan bob un dalentau unigryw, o daro â chwip i ddawnsio ffan a phypedwaith. 

Enillodd y canwr, Wolfy, wobrau yn ddiweddar yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, ac yn ymuno ag arweinydd y sioe fydd Ebony Silk, Sandy Sure, FooFoo LaBelle, Goldie Luxe, Lili Del Fflur, It’s Llywelyn, a Matt Hazzard.

Daw’r cwmni â pherfformwyr cabaret o fri cenedlaethol ynghyd wrth roi llwyfan i rai o berfformiadau mwyaf cyffrous Cymru. Bydd criw Clwb Cabaret Caerdydd hefyd yn ymuno â’r grŵp disglair.

Dros yr 16 mlynedd diwethaf, mae Clwb Cabaret Caerdydd, a reolir gan FooFoo LaBelle, wedi cynhyrchu cannoedd o sioeau poblogaidd ledled y brifddinas, gan roi Caerdydd ar y map fel cyrchfan am sioeau bwrlésg a chabaret.

Fel rhan o Glwb Cabaret Caerdydd, mae FooFoo yn cynnal dosbarthiadau bwrlésg i bobl o bob rhywedd, oedran (dros 18 oed) a math o gorff, i ddysgu dawnsio a pherfformio mewn sioeau fel hon.

Mae’r Pantomeim Bwrlésg Mawr yn berffaith i bobl sydd erioed wedi gweld bwrlésg, yn ogystal â selogion. Bydd y sioe wedi’i phlethu â naratif stori dylwyth teg, a bob pum munud, bydd cynulleidfaoedd yn cael gweld act newydd, a fydd yn aml yn syfrdanol, yn peri syndod neu’n ddwl, ond bob amser yn ddifyr!

“Mae bwrlésg a phantomeim ill dau yn cyfeirio’n ôl at ddyddiau’r vaudeville a’r neuadd gerdd, lle roedd pobl yn mynd i’r theatr am eu hadloniant. Y nod oedd cael amser da! Dwi wedi ceisio cofnodi’r llawenydd hwnnw yn y ‘Pantomeim Bwrlésg Mawr’ a rhoi’r sioe hon at ei gilydd i arddangos ehangder gwych y dalent sydd gan berfformwyr cabaret. Bu’n hwyl cymysgu dau fyd y pantomeim a chabaret ar gyfer llwyfan fodern, a dwi’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn llamu’n eiddgar i’r byd pefriog hwn gyda ni.”

Meddai’r cynhyrchydd a’r perfformiwr, FooFoo LaBelle.

Mae tocynnau’r Pantomeim Bwrlésg Mawr bellach ar werth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac maen nhw’n diflannu’n gyflym! Mae’r digwyddiad hwn yn addas i rai dros 18 oed ac mae’n berffaith i’r rhai sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, neu grwpiau o ffrindiau sy’n chwilio am noson allan dros y Nadolig.

Gall y rhai sydd am roi cynnig ar fwrlésg cyn y sioe ymuno â FooFoo am weithdy rhad ac am ddim ddydd Sadwrn, 12 Rhagfyr, o 15:00 i 16:30, yn Ystafell Preseli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.