Cyfarwyddwr : Joe Murphy
Cyfarwyddwr Cyswllt : Jac Ifan Moore
Addasiadau Cymraeg : Mari Izzard a Nia Morais
Dyma un o glasuron Shakespeare – comedi am gariadon a’u troeon trwstan a’r cyfan yn digwydd mewn coedwig llawn tylwyth teg a hudoliaeth. Fel arfer, llwyfannir y ddrama mewn gwisg draddodiadol ac ar set soffistigedig gydag effeithiau golau a sain gymhleth.
Ond os mai dyma beth ydych yn disgwyl gweld yn y cynhyrchiad yma, gwell i chi ail feddwl. Yn hytrach, mae’r fersiwn hwn o’r ddrama Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan yn profi bod Shakespeare yn esblygu a goroesi ac yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.
Dyma ddehongliad ffres, egniol a hynod ddoniol o’r clasur hwn. Mae’r cyfarwyddwr wedi mentro gwneud llawer o addasiadau ac maent yn rhai dewr a dychmygus. Gwelir merched yn chwarae rolau dynion a chymeriadau yn cyfnewid llinellau. Cymhleth? Na, dim o gwbl, oherwydd mae’r themâu, y gomedi a’r gwrthdaro mor amlwg ag erioed. Mae’r cynnwrf a’r diffyg cyfathrebu rhwng y cariadon, y tensiwn rhwng y bonedd a’r trigolion cyffredin a’r triciau mae’r tylwyth teg yn chwarae yn themâu amlwg drwy gydol y cynhyrchiad.
Yr hyn sy’n taro’r gynulleidfa yn syth yw’r moderneiddiad sydd wedi digwydd ac arddull gyfoes y cyfathrebu: e.e. merch yw Lysander yn y cynhyrchiad hwn ac wedi’i ail henwi’n Lysaana sydd mewn cariad gyda Hermia – mae Oberon, Brenin y Tylwyth Teg a Titania’r Frenhines, wedi cyfnewid llinellau ac o ganlyniad mae ystyr y stori’n newid ychydig. Yn y fersiwn hon, Titania sy’n chwarae tric ar Oberon drwy rhoi’r hylif blodau ar ei lygaid sy’n achosi iddo syrthio mewn cariad â Bottom! Hi sy’n rheoli ac yn meddu ar yr holl bŵer. Girl power go iawn!
Efallai bod hyn yn swnio’n gymhleth ond, wir i chi, mae’n gweithio ac mae’r cyfan yn syrthio i’w le yn hynod o gyfforddus.
Mae portread pob un o’r actorion yn y cynhyrchiad hwn yn hyfryd – pob un wedi meistroli elfennau unigryw a ffres i`w rolau. Mae ffocws cryf ar greu elfennnau doniol i`r cymeriadu ac mae’r actorion wedi canolbwyntio ar eu symudiadau a’u hystumiau i drosglwyddo hyn yn llwyddiannus. Roedd portread Sion Ifan o Oberon/Theseus yn arbennig a hefyd Nia Roberts fel Titania/Hippolyta. Roedd y ddau yn cydweithio ac yn dangos tensiynau eu perthynas yn hynod o effeithiol. Yn ogystal, roedd y cariadon, Dena Davies fel Hermia, Lauren Morais fel Lysanna, Tom Mumford fel Demetrius a Rebecca Wilson fel Helena yn portreadu egni ieuenctid ac angst torcalon yn hyfryd.
Ond i mi elfen fwyaf llwyddiannus y sioe oedd perfformiad y gweithwyr neu’r ‘mechanicals’, ac yn enwedig Sion Pritchard fel Bottom. Dyma beth oedd gwledd – y criw hurt a boncyrs yma’n ceisio ymarfer drama I’w pherfformio o flaen y Dug . Roedd amseru’r ddeialog a’r cydweithio rhwng yr actorion yn y darnau yma’n wych, gyda Bottom yn arwain y doniolwch a`r hurtrwydd yn hynod o gelfydd.
Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad oedd diwedd y rhan gyntaf pan oedd Oberon wedi deffro a syrthio mewn cariad â Bottom oedd nawr yn gwisgo penwisg asyn! Er mwyn profi’i gariad ato, mae’n dechrau canu’r glasur, “I wanna know what love is” mewn arddull hollol dros y top a camp! Roedd y gynulleidfa wrth eu bodd wrth gwrs ac yn ymuno â’r canu i ddangos eu mwynhad! Roedd hyn yn coronni sefyllfa abswrd y cymeriadau drwy arddull fodern a doniol
iawn. Cafwyd sawl achlysur tebyg o ryngweithio rhwng y gynulleidfa a’r actorion yn arbennig pan oedd Puck ar y llwyfan, ac ar adegau, roeddech chi’n teimlo eich bod mewn pantomeim Shakesperaidd!
Elfen drawiadol arall oedd penderfyniad y cwmni i greu cynhyrchiad cwbl ddwyieithog. Roedd y Gymraeg fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan y Tylwyth Teg ac yn cael statws cyfartal â’r Saesneg. Addasodd Mari Izzard a Nia Morais iaith Shakespeare i Gymraeg fodern fywiog, gan ddefnyddio amryw o dafodiaethoedd gwahanol. Llwyddodd y trosiad hwn i greu deialog fyrlymus a pherthnasol i gynulleidfa heddiw. Roedd isdeitlau wrth gwrs yn ymddangos law yn llaw â’r Gymraeg ond ni wnaeth hyn dynnu sylw’r gwyliwr o gwbl.
Nid yn unig addasiad y sgript, y cyfarwyddo a’r actio sydd i’w ganmol, ond hefyd yr elfennau technegol. Mae’r set yn foel a modern – yn debyg i set deledu, gydag un lefel ar ffurf ‘cat walk’. Does dim offer llwyfan a dim llawer o brops chwaith. Mae’r gofod yn enfawr ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth, ond does dim ôl addurno fel sydd mewn cynyrchiadau arferol o’r ddrama. Mae’n gynhyrchiad moel a minimalistaidd sy’n rhoi sylw i’r actio a’r sgript.
Mae’r sain a’r gerddoriaeth fodern hefyd yn ategu’n wych at y munudau o gomedi, ac yn ychwanegu at yr awyrgylch drwyddi draw.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn profi bod Shakespeare yn gyrchadwy i gynulleidfoedd heddiw – ac mae modd gwerthfawrogi ei waith drwy arddulliau newydd a ffres. Mae’r fersiwn hon yn glyfar a boncyrs ar yr un pryd, ac yn addas i gynulleidfa eang. Llongyfarchiadau mawr i’r holl dîm artistig.
Gallwch weld A Misummer Night’s Dream yn Theatr y Sherman, Caerdydd tan y Hydref y 29ain …….