Ma’ hi’n dipyn i sialens creu drama i blant. Mae gofyn dal sylw, enyn eu dychymyg, a cheisio eu cyffroi, ond roedd cwmni theatr ‘We made this’ yn barod am y sialens wrth greu y ddrama ‘Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir’.
Drama am waith tîm, cryfder merched a chyfeillgarwch sydd yma, gyda’r ddau brif gymeriad sef Rapunzel (Lara Catrin) a’r chyfaill newydd Daf (Owen Alun) yn mynd ar antur i achub cartref Rapunzel a’i mam (Tonya Smith), sydd ar fin mynd i ddwylo’r banc mawr cas.
Ar ôl poeni am fynd a phlant tair a deunaw mis oed i weld drama oedd yn para awr, diflannodd fy ngofidion yn syth wrth gerdded i mewn i weld set liwgar, hudolus. Roedd gofyn i ni eistedd ar y set, ar glustogau lliwgar ac roedd awyrgylch braf i’w deimlo yn syth. Roedd y set yn llawn planhigion, cwt gwenyn, a llyfrau plant ac yn ystod y ddrama roedd yr hud i’w deimlo hyd yn oed yn fwy wrth i bethau ddod yn fyw, drwy ddefnydd o driciau sain a goleuo clyfar. Roedd hi’n stori syml iawn, oedd yn hawdd i’r plant ddeall ac yn cynnig cyfleon i’r actorion gael y plant i ymuno yn yr antur. Ond mae hi’n bwysig nodi fod gan y plant reolaeth llwyr o faint o gymryd rhan oedden nhw eisiau ei wneud, os o gwbl, oedd yn ryddhad mawr fel mam i blentyn sy’n gallu bod yn swil iawn. Roedd o wedi ei gyfarwyddo yn ofalus iawn, yn amlwg gan rhywun oedd a dealltwriaeth dda o blant.
Mae’n rhaid canmol perfformiadau’r tri actor. Llwyddodd y tri i hoelio sylw yr holl plant, drwy roi perfformiadau egnïol a deall anghenion y gynulleidfa. Roedd Tonya Smith yn arbennig, yn llwyddo i ddenu’r plant i’r byd o hud, ac yn annwyl iawn wrth gyfathrebu gyda’i chynulleidfa ifanc.
Roedd hi’n ddrama hyfryd, ac roedd hi’n deimlad braf gallu gweld y plant yn diflannu i fyd dychmygol, hudolus. Cerddodd fy merch o’r theatr yn teimlo ei bod hi’n gallu gwneud unrhyw beth, ac ar dan i ddod o hyd i’r thalent arbennig hi, yn union fel Daf a Rapunzel.