Cyn i ymarferion ddechrau ar gyfer Y Fenyw Mewn Du yn yr Hydref, gofynnon ni cwpl o gwestiynau i’r actor Tom Blumberg am straeon ysbryd, ei ofnau a’i fywyd newydd yn Toronto.
Pam ddylai cynulleidfaoedd ddod i weld Y Fenyw Mewn Du?
Os ydych chi’n hoffi arswyd ac yn mwynhau cael dipyn o fraw (fel fi), mae’r stori yma’n wych, ac yn llawn eiliadau iasol pur. Ond y prif reswm yw bod prinder straeon arswyd ac ysbryd yn y Gymraeg – wedyn mae hyn yn teimlo fel rhywbeth gwahanol, ac yn gyfle eitha’ unigryw….yn enwedig dros gyfnod Calan Gaeaf!
Ai hon yw’r stori ysbryd gyntaf i chi actio/cyfarwyddo/addasu? Beth sy’n ei gwneud yn arbennig/wahanol?
Ie. ‘Dw i wrth fy modd gyda straeon ysbryd ac felly ‘dw i wedi gweld lot ohonyn nhw, ac mae’n hynod o gyffrous i fod ar yr ochr arall, yn perfformio un am unwaith. Be sy’n ei wneud yn arbennig dw i’n meddwl yw bod y stori’n cael ei pherfformio yn Gymraeg, mae rhywbeth barddonol am yr iaith Gymraeg sy’n gwneud y stori hyd yn oed yn fwy effeithiol yn fy marn i – mae’r delweddau yn fyw ac yn effeithiol iawn.
Rydych wedi symud i Ganada yn ddiweddar, beth ysgogodd y mudo yma, a beth wnaeth i chi gytuno i ddychwelyd i Gymru ar gyfer YFMD?
Do ! Ar ôl 2 flynedd o aros yn yr unfan dros y pandemig, o’dd hi’n teimlo fel amser am antur ! ‘Dw i wastad wedi bod eisiau byw dramor, ac mae Canada yn wlad mor brydferth roedd o’n teimlo fel y lle delfrydol – yn enwedig gyda rhai cyfleoedd actio ar gael yno hefyd, yn golygu gallwn i ddod o hyd i waith yno. Dw i wrth fy modd yno hyd yma. Roedd YFMD ar y gweill cyn i mi allu cadarnhau fy fisa, ond mae wastad wedi bod yn freuddwyd i fi chwarae’r rhan ers i mi fynd i weld y ddrama yn Saesneg yn y West End pan o’n i’n ysgol ddrama. Mae’n fraint cael chwarae rhan yn ‘premiere y byd’ o’r stori yn y Gymraeg, felly ‘doedd dim rhaid i fi feddwl ddwywaith am ddychwelyd o Ganada i fod yn rhan o’r cynhyrchiad gyda chwmni sydd wedi ‘nghefnogi i ers blynyddoedd lawer, cwmni sydd yn agos iawn at fy nghalon – a gyda thîm delfrydol o artistiad a chriw cynhyrchu. Dw i wedi siomi braidd y byddai’n colli fy nhymor Calan Gaeaf cyntaf yng Ngogledd America, achos dwi’n gwybod ei fod yn gallu bod yn eitha’ gwyllt yno ac maen nhw’n mynd i gymaint o ymdrech – ond mi fyddai’n perfformio’n fyw mewn stori ysbryd ar lwyfan, wedyn mae’n fargen digon teg dw i’n meddwl.
Beth sy’n gwneud i chi grynu?
Yr eiliadau mwyaf brawychus i fi mewn unrhyw straeon arswyd yw’r awgrymiadau bach yna o arswyd – fel pan gewch chi gip ar rywbeth sy’n gwneud i chi gwestiynu a wnaethoch chi ei weld mewn gwirionedd, neu ai’ch meddwl oedd yn chwarae triciau arnoch chi, yn dychmygu pethau. Yr eiliadau bach hynny o ddirgelwch, cipolwg o ffigwr tu ôl i chi mewn drych, siapiau rhyfedd yn y cysgodion – pan mae’r dychymyg yn rasio yn wyllt … dyna’r eiliadau mwyaf cyffrous dw i’n meddwl.
Pam fod gwneud theatr yn Gymraeg yn bwysig i chi?
Mae theatr Gymraeg yn hollbwysig : mae’n hybu’r defnydd o’n hiaith fendigedig o fewn profiad hwyliog a difyr. Mae’n cynnig cyfle hefyd i ddysgwyr gael ymdrwytho yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, sydd yn allweddol dw i’n meddwl. Dw i hefyd yn meddwl bod y math yma o straeon ysbryd yn cael eu perfformio mor anaml yn y Gymraeg, mae’n grêt gallu rhoi’r cyfle i Gymry Cymraeg brofi stori ysbryd fyw yn ein hiaith hyfryd ein hunain – a dw i ddim yn siwr iawn pam, ond mae’n teimlo’n fwy real yn y Gymraeg !
Oes gennych chi unrhyw straeon ysbryd eich hun yr hoffech chi eu rhannu?
Ddwlen i allu neud hynny ! Dw i wrth fy modd gyda straeon ysbryd, a chlywed profiadau pobl eraill o’r oruwchnaturiol, ond dydw i byth wedi cael profiad ysbrydion fy hun ! Ond dwi’n un o’r bobl od yna fyddai’n falch iawn o gael y fath profiad – mae’n rhywbeth cyfareddol dw i’n meddwl, yn hytrach nag yn frawychus. Mae’r byd go iawn yn llawer mwy brawychus i mi – mae’n gysur i mi rhywsut meddwl bod yna eneidiau o’r gorffennol yn symud yn ein plith … cyn belled bod nhw ddim yn dod ag unrhyw felltithion erchyll fel mae’r fenyw mewn du.