Fyddwch chi’n mentro cwrdd â’r Fenyw Mewn Du?

Mae’r tîm a oedd yn gyfrifol am Shirley Valentine y llynedd yn troi o chwerthin i iasau yn yr hydref gyda premiere y byd o Y Fenyw Mewn Du, cyfieithiad Cymraeg newydd o’r ddrama ysgubol o’r West End, The Woman In Black.

Mi fydd siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wrth eu bodd i glywed y bydd cynhyrchiad arall at ddant pawb gan y Consortiwm Cymraeg yn cael ei lwyfannu ar draws de Cymru yn yr hydref eleni. Wedi cyfareddu cynulleidfaoedd yn 2022 gyda dogn reit dda o chwerthin, eleni mae’r tîm yn gobeithio clywed mwy o sgrechian na chwerthin gan gynulleidfaoedd wrth gyflwyno llwyfaniad newydd sbon danlli o gynhyrchiad sydd wedi bod yn arswydo cynulleidfaoedd yn Llundain ers 30 o flynyddoedd.

Dywed Geinor Styles :

Rwy’ wrth fy modd yn cael fy nychryn. Ers i mi fod yn ifanc iawn, rydw i wastad wedi caru straeon ysbrydion a bwganod. Pan ddarllenais i The Woman in Black gan Susan Hill fe ddychrynodd fi gymaint roedd yn rhaid i mi osod y llyfr gyda’r  clawr yn  wynebu am i lawr, fel ‘mod i byth yn ei gweld hi – Y Fenyw. Weles i addasiad llwyfan Stephen Mallatrat yn y nawdegau cynnar. Roedd yr addasiad o’r stori nid yn unig yn glyfar iawn, ond mi lwyddodd i f’arswydo, ynghyd â phawb arall o’m cwmpas yn y theatr.

Mae’r storio syml yn y sioe yn dyrchafu nerth theatr a’r gair llafar. Mae’r atgof wedi aros gyda fi, a dyma un o fy hoff ddramâu. Blynyddoedd wedyn, yn dilyn sesiwn adborth gyda chynulleidfaoedd cynhyrchiad y Consortiwm o Shirley Valentine, awgrymodd dysgwyr Cymraeg i ni fod gweld stori neu ddrama gyfarwydd wedi codi eu hyder i fynychu theatr yn y Gymraeg. Hefyd, dywedodd y canolfannau mai straeon arswyd sydd yn gwerthu orau.”

Mae Y Fenyw Mewn Du yn adrodd hanes Arthur Kipps, cyfreithiwr sydd wedi cyrraedd i roi trefn gyfreithiol ar faterion Mrs Alice Drablow. Tra’n gweithio ar ben ei hun ar ei hystâd anghysbell, mae’n tystio aflonyddiad hunllefus ac yn syrthio ar drugaredd melltith y fenyw mewn du.  Wrth geisio rhyddhau ei hun o’r dioddefaint yma a bwrw allan yr ysbryd am unwaith ac am byth, mae’n cyflogi actor i’w helpu i adrodd ei sori, ac wele, mae’r llwyfan wedi ei gosod ar gyfer un o straeon arswyd mwyaf bythwyrdd y theatr.   

Wedi ei haddasu gan Stephen Malatratt o nofel gothig 1983 Dame Susan Hill,  The Woman In Black yw un o’r dramâu mwyaf hirhoedlog ar y West End, ac mae wedi uno cynulleidfaoedd mewn ofn ers 30 o flynyddoedd. A nawr, dyma’r cyfle i gynulleidfaoedd Cymreig gwato y tu ôl i’w rhaglenni. Mae Y Fenyw Mewn Du wedi ei chyfieithu yn arbennig ar gyfer  Y Consortiwm Cymraeg gan yr ysgrifennwr ac actor Gwawr Loader. Eglurodd Gwawr bwysigrwydd y cynhyrchiad iddi hi:

Roeddwn wrth fy modd pan ofynnodd Geinor i mi ymuno â thîm Y Fenyw Mewn Du. Mae cael y cyfle i gyflwyno addasiad newydd o glasur y West End i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg y cymoedd yn eu hiaith ei hunain, gyda naws Gymreig, yn gymaint o bleser. Gyda chostau yn codi drwyddi draw, mae’n hanfodol bod cynulleidfaoedd yn gallu mynychu theatr o’r safon uchaf yn eu trefi a’u pentrefi, ac mae Y Consortiwm Cymraeg yn rhagori ar gyflwyno gwaith i’r gymuned.”

Mae Y Consortiwm Cymraeg yn falch iawn i gyhoeddi mai Jonathan Nefydd (Pobol Y Cwm, The Way) a Tom Blumberg (Theatr na nÓg, Arad Goch) fydd yn chwarae yr Actor a Kipps.

Wedi ei gyfarwyddo gan Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg, mi fydd Y Fenyw Mewn Du yn cynnwys cerddoriaeth gan y cyfansoddwr Barnaby Southgate. Cynllunnir y cynhyrchiad gan Kitty Callister, y sain gan Ian Barnard, a goleuo a’r cynllun taflunio gan Andy Pike.  Y cyfarwyddwr cynorthwyol fydd Llinos Daniel ac mi fydd y storïwr Owen Staton yn cynnal gweithdai adrodd straeon arswyd ym mhob lleoliad i gyd fynd â’r daith.

Sefydlwyd Y Consortiwm Cymraeg gan y cwmni theatr arobryn Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, i gyflwyno theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg.  Mae’r Consortiwm hefyd yn bwriadu cyflwyno rhaglen o gyfranogiadau fydd yn galluogi cymunedau i wella eu sgiliau iaith a hefyd i ymwneud â chelfyddydau a diwylliant ar eu stepen drws. Daeth aelodau’r consortiwm at ei gilydd er mwyn ailgynnau egni a gwerth y canolfannau perfformio i gymunedau ar draws cymoedd De Cymru. Roedd cynlluniau’r Consortiwm eisoes ar y gweill cyn dyfodiad y pandemig Covid, ond wrth i’r canolfannau diwylliannol gau eu drysau, sylweddolodd aelodau’r Consortiwm bod yr angen am y fath ganolfannau hyd yn oed yn fwy difrifol – i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymoedd ac i i gynnal eu cymunedau bywiog tu hwnt i Bandemig Covid.  Llwyddodd y cynhyrchiad cyntaf, Shirley Valentine gan Willy Russell, cyfieithwyd gan Manon Eames a pherfformiwyd gan Shelley Rees-Owen, BBC Radio Cymru, i wirioni yn ogystal â chynulleidfaoedd y gwanwyn diwethaf.   

Mi fydd Y Fenyw Mewn Du yn agor ym Mhafiliwn Porthcawl nos Iau Hydref 26ain ac yn parhau yno tan nos Sadwrn 28ain cyn teithio i Theatr Soar, Merthyr Tydfil (2-4ydd Tachwedd, Theatr Borough Y Fenni (9-11eg Tachwedd) cyn dod i ben yn y Welfare, Ystradgynlais (16-18fed Tachwedd). Mi fydd tocynnau ar werth o ddydd Gwener Mai 26ain a cheir manylion llawn ar wefannau’r canolfannau, neu ar theatr-nanog.co.uk.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.