Yr Urdd yn parhau i arwain, meithrin a dylanwadu ym myd y theatr

Yr Urdd yn penodi Branwen Davies i arwain ail-lansiad Cwmni Theatr Ieuenctid.

Heddiw (6 Hydref 2022) mae’r Urdd yn falch o gyhoeddi penodiad Branwen Davies fel Trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd wrth i’r Mudiad ail-lansio’r Cwmni dylanwadol gan estyn cyfleon newydd i Gymry ifanc ym myd y theatr.

Wrth i’r Urdd ddechrau act olaf blwyddyn y canmlwyddiant, mae’r Mudiad yn edrych ymlaen i’r dyfodol drwy ail-lawnsio Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Diolch i fuddsoddiad o £1 miliwn* gan Lywodraeth Cymru, bydd Y Cwmni yn cynnig cyfleon newydd i Gymry ifanc sydd â diddordeb neu chwilfrydedd ym mhob agwedd o fyd y theatr.

Dan arweiniad profiadol a chreadigol Branwen Davies, mae’r Urdd yn gwahodd bobl ifanc rhwng 16-25 oed i gofrestru eu diddordeb i ymuno â’r Cwmni.

Dywedodd Branwen Davies, Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd:

“Yn y gorffennol mae sawl un wedi manteisio a mwynhau bod yn rhan o gynyrchiadau’r Theatr Ieuenctid a’r profiad wedi aros yn y cof.

“Rydw i’n edrych ymlaen i gynnig profiadau cyffrous ac amhrisiadwy i bobl ifanc sydd â diddordeb neu yn chwilfrydig am bob agwedd o’r theatr – perfformio, cynllunio, rheoli llwyfan – mae rhywbeth i bawb. Rydw i’n awyddus i roi cyfle i bobl ifanc sydd ddim wedi cael profiad blaenorol ond sydd a diddordeb ac sydd a rhywbeth i gynnig ac a fydd yn buddio o’r cyfle. Mi fydd cydweithio â phobl ifanc o wahanol ardaloedd o Gymru dan arweiniad arbenigwyr cyffroes ym myd y theatr yn ymestyn gorwelion, magu hyder, agor meddyliau yn her ond hefyd yn hwyl!”

Mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi meithrin a dylanwadu talent ar hyd y celfyddydau ers yr 1970au.  Dros y blynyddoedd mae’r Cwmni wedi creu portffolio cryf o gynyrchiadau llwyfan gwreiddiol, gan gynnwys Y Brenin Arthur, Jwdas Iscariot, a’r Opera Pishyn Tair. Ers yr 1970au mae’r Cwmni wedi cynnig cyfleon amhrisiadwy i filoedd o Gymry ifanc ar draws y wlad, ac wedi bod yn lwyfan cychwynnol cadarn i rai o enwau disglair y celfyddydau heddiw. 

Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau’r Urdd:

“Braint o’r mwyaf yw cael cyhoeddi penodiad Branwen Davies yn Drefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.  Mae’r canmlwyddiant wedi bod yn flwyddyn hynod o gyffrous i’r Urdd wrth i ni ddathlu ein hanes a’n gwreiddiau, ond mae hefyd yn gyfle i fachu cyfleoedd newydd i’n pobl ifanc yn yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.  

“Dros y blynyddoedd mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi meithrin sgiliau, dylanwadu a chreu sylfaen gadarn i filoedd o bobl ifanc – gyda sawl enw yn llwyddo i greu gyrfa lwyddiannus ym myd y theatr.   Ar ran yr Urdd mae’n fraint gennyf ail-lansio’r Cwmni Theatr Ieuenctid ac rwy’n edrych ymlaen i weld Y Cwmni yn tyfu dan arweiniad Branwen. 

“Daw Branwen â chyfoeth o brofiad i’r Cwmni.  Mae enw a thalent Branwen yn nodedig ym myd y celfyddydau, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio hefo Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac yn fwyaf diweddar fel Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman.  Mae hi hefyd wedi darlithio yn y maes mewn Prifysgolion ar draws y wlad.  Gwn y bydd Branwen yn creu cyfleon anhygoel ymhob agwedd o fyd y theatr i aelodau Y Cwmni, ac felly rwy’n annog pob person sydd rhwng 16-25 oed i gofrestru eu diddordeb ac ymuno â ni.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol o £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd sydd wedi ein galluogi i wireddu’r freuddwyd o ail-sefydlu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.