“Rwy’n cael fy nhynnu at nodweddion emosiynol a chorfforol y profiad dynol.” Cyfweliad â Hanna Lyn Hughes.

Clod i Noel Shelley

Helo Hanna, mae’n braf i gwrdd â chi. Allwch chi roi rhywfaint o wybodaeth i’n darllenwyr am eich cefndir os gwelwch yn dda?

Rwy’n ddawnsiwr llawrydd o Gaerdydd. Fe wnes i hyfforddi fel Aelod Cyswllt o’r Ysgol Ballet Frenhinol a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru cyn mynychu Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain yn 18 oed. Rwyf wedi gweithio gyda choreograffwyr gan gynnwys Crystal Pite, Caroline Finn a Dane Hurst ac wedi dawnsio gyda chwmnïau fel y Danish Dance Theatre a Just Us Dance Theatre, ac yn ddiweddar rwyf wedi ymuno â Ballet Cymru fel dawnsiwr cwmni.

Beth sbardunodd eich diddordeb yn y celfyddydau?

Rwyf wedi bod yn greadigol erioed. Gan amlaf yn yr ysgol, roeddwn yn dwdlan dros fy ngwaith cartref mathemateg ac yn creu dawnsiau disgo ar iard yr ysgol. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn astudio Tecstilau a Drama Safon Uwch.

Clod i Sian Treberth

Rydych chi’n ddawnsiwr cwmni gyda Ballet Cymru ac ar hyn o bryd rydych chi’n gweithio gyda nhw i edrych ar ffyrdd o gefnogi cyflwyno dawns yn yr Iaith Gymraeg. Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgeisiau ar gyfer y fenter newydd hon?


Yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus, rydym yn gyffrous i ail-ddechrau’r dosbarthiadau ballet dwyieithog i oedolion ar ôl y Pasg. Rwyf hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg i rai o aelodau’r cwmni; mae eu hyder wrth siarad yr iaith wedi cynyddu ac mae eu brwdfrydedd wedi bod yn galonogol iawn. Rydym bellach yn edrych ar fwy o ffyrdd o ymgorffori ymarfer dwyieithog ac mae hynny wedi cadarnhau i mi mai addysgu dawns yn ddwyieithog ddylai fod y ‘norm’ yng Nghymru. Os ydych yn ymarferydd dawns yng Nghymru, rwy’n erfyn arnoch i ystyried sut y gallwch ddefnyddio’r Gymraeg yn eich sesiynau. Gyda bron i 30% o’r boblogaeth yn gallu siarad a deall Cymraeg, mae’n werth yr ymdrech.

Pe bai dawnsiwr am aros ac ymarfer yng Nghymru cyn dilyn gyrfa, pa system gymorth fyddech chi’n awgrymu y byddai ei hangen arnynt er mwyn gallu gwneud hyn?


Mae mynychu eich ysgol ddawns leol yn le gwych i ddechrau ac os ydych yn ddigon ffodus i fod wedi’ch lleoli yn Ne Cymru, efallai y gallwch fynychu’r cynlluniau cyswllt sy’n cael eu rhedeg gan CDCCymru a Ballet Cymru. Ond nid yw’n bosibl hyfforddi’n alwedigaethol hyd at lefel broffesiynol yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n drueni mawr!

Llun o gynlluniau cyswllt Ballet Cymru
Clod i Sian Trenberth

O ran dilyn gyrfa mewn dawns, yng Nghymru, rwyf wedi canfod bod deall fy sgiliau a’r hyn y gallaf ei gynnig i sector Dawns Cymru yn bwysig iawn. Er enghraifft, mae cydnabod yr angen am ymarferwyr dawns sy’n siarad Cymraeg a darparu’r gwasanaeth hwnnw wedi fy ngalluogi i ennill profiad o greu coreograffi ac addysgu, ac mae wedi bod yn achubiaeth ariannol hefyd ar adegau. Wedi dweud hyn, rwy’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi a’m hystyried ar safon wahanol fel dawnsiwr oherwydd fy nghenedligrwydd a’r ffaith fy mod i’n siarad Cymraeg. Rwy’n teimlo’r un mor lwcus i gael cyfleoedd gan fy mod yn Gymraes, ond rwy’n poeni weithiau bod fy ngwaith yn cael ei werthfawrogi ar y sail honno’n unig. Rwyf wedi dod i delerau â’r teimladau hyn trwy groesawu’r llwyfannau sy’n cael eu cynnig i mi a’u hystyried fel cyfleoedd i herio rhagdybiaethau, ac i ragori ar ddisgwyliadau mewn rhai achosion. Rwy’n angerddol am fy etifeddiaeth a’m diwylliant ond nid yw’n diffinio fy ngwaith na’m hunaniaeth.Rwy’n angerddol am fy etifeddiaeth a’m diwylliant ond nid yw’n diffinio fy ngwaith na’m hunaniaeth.

Rydych chi’n artist sydd wedi gweithio gyda phobl greadigol o amrywiaeth o ffurfiau celf i greu perfformiadau artistig cyffrous yn y gorffennol. Sut fyddech chi’n disgrifio’ch ymarfer creadigol orau?

Rwy’n defnyddio ioga, hedfan yn isel a gwaith byrfyfyr yn fy ymarfer fy hun ac mae ansawdd fy symud fel arfer yn cael ei alw yn llyfn a chywrain. O ran coreograffi, rwy’n cael fy nhynnu at nodweddion emosiynol a chorfforol y profiad dynol, yn enwedig themâu marwoldeb a chreu. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r syniadau hyn yn y dyfodol.

Clod i Erik Emanuel

A oes unrhyw enghreifftiau o systemau hyfforddi neu rwydweithiau cymorth sy’n bodoli mewn gwledydd eraill y gallai Cymru geisio eu defnyddio?

O ran systemau hyfforddi, dim ond dros y ffin i Loegr y mae’n rhaid i chi edrych i weld rhai enghreifftiau rhyfeddol. Byddai mentrau’r llywodraeth fel y cynllun CAT yn fuddiol iawn i Gymru, i fynd i’r afael â materion fel hygyrchedd a chysondeb mewn hyfforddiant. Mae angen sicrhau bod mwy o lwybrau ar gael i bobl ifanc sydd ag angerdd am symud i ymgymryd â gwaith creadigol ac ehangu eu haddysg dawns. Mae hyn hefyd yn cynnwys cael rhaglen hyfforddiant galwedigaethol i astudio dawns ar lefel broffesiynol.


Mae Get the Chance yn gweithio i gefnogi ystod amrywiol o aelodau’r cyhoedd i gael mynediad at ddarpariaeth ddiwylliannol. Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau y mae pobl greadigol yng Nghymru yn eu hwynebu? Os ydych chi, beth ellid ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau hyn?

Un o’r rhwystrau rydw i wedi bod yn ymwybodol ohono’n y gorffennol fu’r diffyg ystyriaeth i ymarferwyr dawns mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru. Gan fod sefydliadau wedi gorfod addasu i ddulliau digidol o gynnal neu ffrydio eu digwyddiadau, mae’r ymarferwyr dawns hyn o’r diwedd wedi gallu mynychu digwyddiadau na fyddent wedi gallu mynd iddynt yn y gorffennol. Rwyf hefyd yn bersonol wedi gwerthfawrogi fy mod yn gallu cyrchu a gwylio perfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw ar-lein ac er gwaethaf pwl achlysurol o ‘flinder Zoom’, rwy’n dal i obeithio y bydd sefydliadau’n parhau i gynnig o leiaf rai agweddau ar weithio/perfformio ar-lein.

 Pe byddech chi’n gallu ariannu maes o’r celfyddydau yng Nghymru pa faes fyddai hwnnw a pham?

Mae angen dirfawr am arian mewn llawer o feysydd ond hoffwn weld rhaglen hyfforddi broffesiynol gynhwysol ar gael yng Nghymru yn ogystal â gofod i uno lle gall dawnswyr greu, addysgu a pherfformio gyda’i gilydd (rhywbeth fel Dance City yn Newcastle)

Dance City, Newcastle.

Beth sy’n eich cyffroi am y celfyddydau yng Nghymru?

Mae wedi bod yn gyffrous gweld cymuned ddawns Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i sefydlu cymuned fwy cysylltiedig o ddawnswyr trwy ddigwyddiadau rhwydweithio a thrafodaethau ar-lein. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r cysylltedd hwn yn digwydd yn Sector Ddawns flaengar ac amrywiol Cymru.

Beth oedd y peth gwirioneddol wych olaf i chi ei brofi yr hoffech ei rannu gyda’n darllenwyr?

Gwylio Revisor Crystal Pite a “BLKDOG” Far From the Norm fel rhan o Dance Nation. Mae’r ddau yn ddarnau rhyfeddol, ac maent ar gael i’w gwylio am ddim ar Iplayer.

Revisor Crystal Pite


Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.