TRAWSNEWID PROSIECT NEWYDD AR GYFER POBL LGBTQ + IFANC OEDRAN 16-25 GAN AMGUEDDFA CYMRU- CERDDORION AMGUEDDFA GENEDLAETHOL.

Helo, fy enw i yw Cerian a dwi’n hwylusydd ymgysylltu ieuenctid am yr Amgueddfa Cymru. Rydyn ni’n dechrau prosiect newydd am bobl ifanc LHDT+ o oedran 16- 25. Enw’r prosiect yw Trawsnewid, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y thema o drawsnewidiadau. Trwy’r prosiect byddwn ni’n archwilio pobl draws a gwrthiant cydymffurfio rhywedd o hanes Cymraeg a’r profiadau o bobl sy’n byw heddiw. 

Bydd cyfarfod bob ail wythnos gyda’r bobl ifanc, bydd y sesiynau yn weithdai creadigol sy’n archwilio’r thema o’r prosiect gyda’r cyfle am y cyfranogwyr i redeg sesiynau eu hunain. Trwy’r prosiect byddwn ni’n gweithio tuag at cynnal ddigwyddiadau fel trosfeddiannu’r Amgueddfa yn yr Amgueddfa genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac arddangosfa o’r gwaith sy’n cael ei chreu dros y prosiect. Bydd y prosiect yn cael ei addasu am y diddordebau’r grŵp fel celf, perfformio, ysgrifennu creadigol neu hanes. 

Bydd y prosiect yn dechrau gyda sesiwn ar lein am 6yp ar y 24ain o Chwefror, byddwn ni’n cyflwyno’r prosiect, cyfarfod ei’n gilydd a dylunio cerdyn post sy’n cael ei ysbrydoli gan y casgliad LHDT+ yr amgueddfa. 

Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y prosiect, cael unrhyw gwestiynau am y brosiect neu yn gwybod unrhyw berson ifanc gyda diddordeb i gymryd rhan anfon e-bost i: cerian.wilshere@museumwales.ac.uk

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.