Cyhoeddiad The Other Room, Theatr Dafarn Caerdydd, i wahodd Ceisiadau Agored Sgript Haf 2020

Heddiw, mae’r theatr dafarn Caerdydd The Other Room, enillydd Gwobr Theatr Fringe Y Flwyddyn gan The Stage, sydd wedi’i leoli ym mar  Porter’s, yn cyhoeddi ei phrosiect Haf 2020, sef New Page. Dengys y rhaglen hon, am y tro cyntaf, gyfle i gynnal Galwad Sgript Agored ar gyfer ysgrifenwyr. Byddant yn derbyn hyd at 100 o sgriptiau llawn, gyda phob un yn derbyn adborth cynhwysfawr gan dîm o ddarllenwyr sgript proffesiynol.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau rhwng y 5ed o Awst tan Hydref y 4ydd, ac anelir yn benodol at ysgrifenwyr sydd naill ai yn Gymraeg, wedi’i hyfforddi yng Nghymru neu wedi’i lleoli yng Nghymru. Gobaith y theatr yw i greu partneriaethau creadigol newydd yn ogystal â datblygu’n bellach sgiliau dramodwyr Cymru. Bydd y theatr yn annog ceisiadau gan ysgrifenwyr sydd erioed wedi ysgrifennu i’r llwyfan; gan dderbyn barddoniaeth, straeon byr a dyfyniadau deialog yn ogystal â sgriptiau llawn.

Bydd Yasmin Begum, sydd newydd ei phenodi yn Swyddog Cysylltu Cymunedol, yn ymdrechu i olrhain 30% o’r holl geisiadau drwy waith cyfranogol wedi’i dargedu gyda’r cymunedau hynny o Gaerdydd sydd ar gyrion cymdeithas a gyda phobl efo nodweddion gwarchodedig. Ar ôl y cyfnod derbyn ceisiadau, anfonir rhestr fer at dîm gweithredol y theatr ar gyfer ystyriaeth ymhellach. Caiff ysgrifenwyr y rhestr fer gyfle i dderbyn sesiynau adborth gan Dîm Weithredol TOR, gyda’r gobaith o feithrin perthynas hir-dymor ystyrlon gyda’r theatr.

Dywed Dan Jones, Cyfarwyddwr Artistig The Other Room:

“Prin iawn y bydd sefydliad fel The Other Room yn segur, ond fel y gwyddom i gyd, rydym yn boenus o dawel ar hyn o bryd. Mae hi wedi bod yn gyfnod o fyfyrio dwfn, pryder ac adfyd. Ond yn y drychineb du yma, daw cyfle. Cyfle i droi tudalen. Gan ystyried popeth sy’n digwydd yn ein byd, dyma’r cyfnod i aros, i wrando ac i gysylltu.

Gyda chefnogaeth anhygoel gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Esmee Fairbairn rydym yn falch i gyflwyno “New Page”, ein platfform ceisiadau agored. Dyma gyfle gwych i artistiaid Cymraeg neu sydd wedi’i lleoli yng Nghymru i gyflwyno eu hunain a’u straeon. Rydym yn ymwybodol nad ydym wedi gwneud digon i gyrraedd ac atgyfnerthu lleisiau sydd heb eu clywed yma yng Nghymru. Dyma ein cam cyntaf bwysig tuag at newid ystyrlon ac ni allwn aros i glywed ganddoch.”

Dywed Yasmin Begum, Swyddog Cysylltu Cymunedol:

“Mae New Page yn fenter sy’n torri tir newydd yng Nghaerdydd i gefnogi ysgrifenwyr ac i greu gwaith newydd. Rydyn wrth ein bodd i gael gweithio gyda gwahanol gymunedau ac aelodau’r gymuned i alluogi ysgrifenwyr i ddylanwadu ar sector y celfyddydau mewn ffordd bositif ac i hybu cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth.

 Byddwn yn gweithio mewn modd arloesol a chroestoriadol i ddarganfod gwaith ysgrifenedig o Gymru a thu hwnt yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydyn yn hynod o gyffrous i weithio gydag ystod eang o ddarllenwyr gan obeithio ddechrau perthynas o gysylltiadau broffesiynol newydd gydag ysgrifenwyr tra yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad.”

Cefnogir New page gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Esmee Fairbairn a chefnogwyr SupportTOR.

Ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn â New Page gan The Other Room, ewch i

https://www.otherroomtheatre.com/en/whats-on/new-page-submissions neu dilynwch y tîm ar Twitter @TORtheatre, Instagram @otherroomtheatre a Facebook www.facebook.com/otherroomtheatre

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.