Hyfforddiant Hanner Diwrnod Am Ddim Ar Waith Grŵp Creadigol Ar Zoom

“It’s been a life saver. It’s like I’ve got a blanket of friends around my shoulders” Cyfranogwr ar Zoom 

Ydych chi’n ymarferwr Celfyddydau ym maes Iechyd sydd eisiau trosglwyddo eich gwaith ar-lein?

Mewn ymateb i Covid-19, mae Re-Live wedi datblygu ymarfer cynhwysfawr ar Zoom gydag oedolion hŷn, pobl sy’n byw gyda dementia, cyn-filwyr sy’n byw gydag anhwylder straen ôl-drawmatig a phobl sy’n byw gyda gorbryder ac iselder.

Ymhlith y sesiynau roedd: Bywyd Stori Gwaith, Drama/Gwaith Byrfyfyr, Cerddoriaeth a Chanu

Mae Re-Live yn edrych am 12 ymarferwr Celfyddydau ym maes Iechyd i fod y cyntaf i gymryd rhan yn yr hyfforddiant newydd sbon hwn. Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno’r cyfranogwyr i sgiliau, offer ac egwyddorion hanfodol sydd eu hangen i gynnal sesiynau arloesol a moesegol y Celfyddydau ym maes Iechyd ar Zoom. Bydd yr hyfforddiant yn:

●  eich gwahodd i gael profiad o sesiwn Zoom fel cyfranogwr ac adlewyrchu ar y profiad

●  rhannu ymarferion creadigol sy’n gweithio Zoom, gan gynnwys Bywyd Stori Gwaith, drama, canu,

cerddoriaeth

●  adeiladu sgiliau a hyder i arwain sesiwn Zoom, gan gynnwys rheoli ystafelloedd ymneilltuo

●  trafod cyfrinachedd a chysyniad wrth weithio gyda grwpiau agored i niwed ar-lein

●  darparu cyfle unigryw i artistiaid ddarganfod ffyrdd newydd o archwilio ac ehangu eu hymarfer

Cyfarwyddwr Artistig Re-Live, Karin Diamond, fydd yn arwain y sesiynau hyfforddiant. Cynhelir yr hyfforddiant yn Saesneg ond rydym yn croesawu ymarferwyr celf cyfrwng Cymraeg gan fod Karin yn ddwyieithog.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at karin@re-live.org.uk yn nodi eich profiad o’r Celfyddydau ym maes Iechyd ac yn esbonio pam fod yr hyfforddiant penodol hwn o ddiddordeb i chi.

Gan fod yr hyfforddiant am ddim, byddwn yn gofyn i chi adlewyrchu ar yr hyfforddiant trwy ddarparu adborth ysgrifenedig neu ar lafar ar 3 cham: ar ôl yr hyfforddiant, cyn eich sesiwn cyntaf ar Zoom ac ar ôl eich sesiwn cyntaf ar Zoom. Bydd y broses gwerthuso yn cymryd tua 3 awr a bydd yn hysbysu sut mae Re- Live yn datblygu’r hyfforddiant hwn ar gyfer grwpiau eraill yn y dyfodol.

Hyd yr hyfforddiant: 3.5 awr (9.30am – 1pm) Ble: Zoom Pryd: 18 Mehefin 2020

Mae Re-Live yn fudiad Celfyddydau ym maes Iechyd sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n darparu rhaglen ddeinamig, ysbrydoledig o ymarfer Bywyd Stori Gwaith trwy theatr, symudiad, cerddoriaeth a chân. www.re-live.org.uk

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.