Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13–15 Mawrth
Pontio, Bangor: 19 + 20 Mawrth
Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys: 22 Mawrth
Theatr Borough, Y Fenni: 25 Mawrth
Canolfan y Celfyddydau Pontardawe: 26 Mawrth
Theatr Mwldan, Aberteifi: 28 Mawrth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: 29 + 30 Mawrth
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin: 1 + 2 Ebrill
Galeri, Caernarfon: 4 + 5 Ebrill
Ffwrnes, Llanelli: 8 + 9 Ebrill
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd: 10–13 Ebrill
Canllaw oedran: 14+. Yn cynnwys iaith gref.
Mynediad i’r di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd.
Manylion y cynhyrchiad
Dwy ddrama gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar.
Merched Caerdydd (gan Catrin Dafydd)
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?
Nos Sadwrn o Hyd (gan Roger Williams)
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl i gyd, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.
Roedd 2018 yn flwyddyn arbennig iawn i Catrin Dafydd, sydd yn nofelydd, bardd a chyflwynydd radio, ac yn un o awduron Pobol y Cwm (BBC Cymru). Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a hynny’n fuan ar ôl ennill Gwobr Ffuglen Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2018 am ei nofel arbrofol Gwales. Comisiynwyd Merched Caerdydd yn wreiddiol gan Bwyllgor Llên a Drama Eisteddfod Caerdydd, ac fe’i datblygwyd a’i chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru fel rhan o raglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod.
Mae Nos Sadwrn o Hyd yn drosiad Cymraeg gan Roger Williams o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Llwyddodd ei fersiwn Saesneg gwreiddiol i ddenu canmoliaeth gan gynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd. Comisiynwyd yr addasiad Cymraeg hwn gan yr Eisteddfod a Stonewall Cymru, ac fe’i cyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gan gwmni OOMFF, fel rhan o raglen Mas ar y Maes, sef prosiect newydd ar y cyd rhwng yr Eisteddfod, Stonewall Cymru a’r gymuned LGBTQ+. Mae Roger yn enw adnabyddus ym myd y ddrama yng Nghymru, yn arbennig felly am gyfresi teledu poblogaidd felCaerdydd aBang. Enillodd Bang nifer o wobrau nodedig, yn cynnwys Medal Efydd Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 – Rhaglen Adloniant Orau (Drama Drosedd), ac enillodd wobr Drama Teledu BAFTA Cymru 2018. Mae gwaith Roger ar gyfer y llwyfan yn cynnwysTir Sir Gâr (Theatr Genedlaethol Cymru, 2013).
Cyfarwyddwr:
Mared Swain (Merched Caerdydd)
Aled Pedrick (Nos Sadwrn o Hyd)
Cynllunydd Set a Gwisgoedd:
Heledd Rees
Cynllunydd Goleuo:
Elanor Higgins
Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr:
Dyfan Jones
(Cynllun sain Nos Sadwrn o Hyd yn seiliedig ar gynllun gwreiddiol gan Heddwyn Davies)
Cast:
Emmy Stonelake
Gwenllian Higginson
Hanna Jarman
Sion Ifan
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac OOMFF, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd.
Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Rydym yn creu profiadau theatr beiddgar, uchelgeisiol, cynhwysol a chofiadwy wrth galon ein cymunedau, mewn canolfannau theatr traddodiadol a lleoliadau annisgwyl ledled Cymru a thu hwnt.