Mae’r Flamboyant Bus Tour Wedi Derbyn Y Golau Gwyrdd Ar Gyfer Gŵyl Y Gwanwyn.

Mae’r Flamboyant Bus Tour Wedi Derbyn Y Golau Gwyrdd Ar Gyfer Gŵyl Y Gwanwyn.

Dim ond bws sydd angen arnynt yn awr. . . .

Mae’r 3rd Act Critics a Get The Chance yn falch i gyhoeddi y byddant yn trefnu Gŵyl y Gwanwyn a’r Flamboyant Bus Tour sy’n cael eu hariannu gan Age Cymru y Gwanwyn hwn!

Meddai Leslie R. Herman, Cynhyrchydd Y Digwyddiad a’r 3rd Act Critic, “Mae’r Flamboyant Bus Tour yn adeiladu ar lwyddiant y Salon Hot Tub ar gyfer Gwanwyn 2017. Rydym yn cael cryn lwyddiant ac yn cynhyrchu digwyddiadau sy’n herio’r hen ystrydebau wrth heneiddio. Dim ond bws sydd eisiau arnom yn awr!”

Bydd y cyllid ar gyfer Gwanwyn yn fan cychwyn i’r digwyddiad ond er mwyn mynd un cam ymhellach a rhoi’r digwyddiad gwych hwn ar y ffordd, bydd angen i ni ganfod mwy o gyllid er mwyn ariannu cost llogi bws awyr agored am rai oriau.

Dywedodd Emma Robinson, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau a Chreadigrwydd ar gyfer Gwanwyn; “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r prosiect hwn; rhywbeth sydd ychydig yn wahanol ac a fydd yn cwestiynu’r hyn yw heneiddio creadigol gan roi cyfle i unigolion fynegi eu hunain yn y ffordd y maent am wneud hynny. Mae Gwanwyn yn bodoli er mwyn dathlu henaint fel cyfle ar gyfer adnewyddiad, twf a chreadigrwydd a bydd y digwyddiad hwn yn gwneud hynny. Os allwch helpu, dewch i gyfranogi!”

Mae’r digwyddiad wedi’i ysbrydoli gan Flamboyant Bus Tour , The Advantages of Age yn Llundain, sef ei digwyddiad mwyaf llwyddiannus yn 2017. Denwyd sylw’r wasg a’r cyhoedd o weld grŵp mor lliwgar o unigolion, oll yn 50+ yn teithio drwy strydoedd Llundain.

Yn arwyddocaol, yr oedd y digwyddiad yn Llundain yn drobwynt ar gyfer Advantages of Age, nad oedd, hyd hynny wedi cael cyfle i ddod â’i aelodau at ei gilydd yn y fath fodd o’r blaen. Roedd y daith fws yn gymorth i aelodau gydnabod eu bod yn rhan o un gymuned. Yn ystod y daith fws, ffurfiwyd sawl cyfeillgarwch. Mae aelodau’n parhau i gynnal gweithgareddau poblogaidd sy’n dathlu’r gred ar y cyd y gall mwynhad ysbrydol gael ei fwynhau, beth bynnag yw’ch oedran!

Mae trefnwyr digwyddiadau The 3rd Act Critics a Get The Chance am roi cyfle i bobl hŷn yng Nghymru fynegi eu hunain yn eu ffyrdd unigryw eu hunain. Nod y Flamboyant Bus Tour yw bod yn hwyl, yn ystyrlon a chofiadwy. Bydd y bws yn teithio ynghanol dinas Caerdydd ar brynhawn Sadwrn ym mis Mai. Bydd yn teithio ar hyd llwybr penodol er mwyn sicrhau’r gwelededd mwyaf posibl a bydd cyfle i gyfranogwyr dynnu sylw atynt hwy eu hunain ar hyd y ffordd. Bydd y Flamboyant Bus Tour hefyd yn gyfle i herio naratif y cyfryngau ynghylch tyfu’n hŷn ac yn gwahodd cyfranogwyr i ymateb i’r cwestiwn – A yw Heneiddio’n Ffurf Gelfyddydol?

Mae’r 3rd Act Critics a Get The Chance yn rhan o’r rhwydwaith Spice Time Credits. Am bob awr y bydd unigolyn yn cyfrannu at ei gymuned neu i wasanaeth, bydd yn ennill un Credyd Amser. Gall Credydau Amser gael eu defnyddio i wneud gweithgaredd sy’n awr o hyd ac sy’n cael ei ddarparu gan amryw o bartneriaid corfforaethol a chymunedol.

Dywed Anne Marie Lawrence, Rheolwr Rhanbarthol Spice Time Credits De Ddwyrain Cymru; “Mae Spice Time Credits yn falch iawn o allu cefnogi’r Flamboyant Bus Tour ar y cyd â’n gwaith ar Heneiddio’n Egnïol gan ddathlu’r ymglymiad gwych y mae pobl hŷn yn eu gwneud i’n cymunedau ledled Cymru ”

Mae trefnwyr digwyddiadau The 3rd Act Critics a Get The Chance yn awyddus i gydweithio ar y prosiect hwn â sefydliadau sy’n cefnogi dinasyddion hŷn. Mae’r angen am gyllid ychwanegol a nawdd ar gyfer llogi bws yn gwbl hanfodol i lwyddiant y digwyddiad hwn. Apeliwn felly ar gwmnïau bysiau a gweithredwyr bysiau am eu nawdd caredig.

Am ragor o wybodaeth ac os oes gennych ddiddordeb i gefnogi’n gwaith, e-bostiwch Leslie Herman lrhjlrhj@gmail.com

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.