Ennillodd Gwynfor Dafydd o Rhondda Cynnon Taf Y Gadair yn yr Eisteddfod 2016 am ei gerdd, sydd am y Cymoedd yn Ne Cymru cyn yr oes diwydiannol/Gwynfor Dafydd from Rhondda Cynnon Taf wins The Chair at The Eisteddfod 2016 for his poem about the post-industry valleys of South Wales.

_89867343_gwynfor2

Ennillodd Gwynfor Dafydd o Rhondda Cynnon Taf Y Gadair yn yr Eisteddfod 2016 am ei gerdd, sydd am y Cymoedd yn Ne Cymru cyn yr oes diwydiannol/Gwynfor Dafydd from Rhondda Cynnon Taf wins The Chair at The Eisteddfod 2016 for his poem about the post-industry valleys of South Wales.

Bywgraffiad

Bachgen deunaw oed o Donyrefail ydw i, sydd ar hyn o bryd yn ddisgybl yn Ysgol Llanhari, a chyn hynny fe fûm yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail. Yr wyf wrth fy modd yn astudio ieithoedd, ac felly os caf y graddau gofynnol, gobeithiaf fynd i Goleg yr Iesu yng Nghaegrawnt y flwyddyn nesaf er mwyn astudio Sbaeneg ac Almaeneg ab initio.

Cerdd am fro fy mebyd ydyw’r gerdd hon sy’n ymateb i erthygl a ddarllenais i â’r pennawd ‘The unbearable sadness of the Welsh valleys.’ Felly, mae hi’n trafod themâu megis ‘anghyfiawnder cymdeithasol’, ‘tlodi’ a ‘diweithdra’ a’r problemau anochel a ddaw law y llaw â hyn. Er hyn, fe geir y teimlad bod cymuned yn mynd i gamu ymlaen erbyn y gerdd olaf, a herio’r sefydliad er mwyn creu cymuned decach a sosialaidd.

I am an eighteen-year-old boy from Tonyrefail, and am currently a student at Ysgol Llanhari, and before that I attended Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail. I enjoy studying languages, and am hoping to go to Cambridge next year to study Spanish and German ab initio, if I obtain the necessary grades.

This is a poem about the unjust treatment of the place in which I was born, responding to a poignant article that I had read with the headline ‘The unbearable sadness of the Welsh valleys.’ Therefore, it discusses themes such as ‘social inequality’, ‘poverty’, ‘unemployment’ and the inevitable consequences of this. However, there is hope in the last poem that the community will challenge the establishment and fight to build an egalitarian and socialist society.

 
‘The unbearable sadness of the Welsh valleys’ – Mark Easton, BBC.
 ‘”Why don’t you leave?” I ask an unemployed man in his 50s. “Because I’m a valleys boy,” comes the reply. “This is home.”’
 Yn datŵ damweiniol
ar noson feddwol, creithiwyd
y lle hwn
yn ddwfn i’r croen
ac i’r cnawd. Nid
fy ffawd, nid fy newis i
oedd deffro i ddyffryn
graffiti a gwm cnoi
lle mae brain yn toi’r
tafarndai a’r capeli a’r siopau.
 
Ond felly y bu.
 
Mae’r graffiti a’r gwm yn glynu,
y tatŵ yn gwrthod crychu,
ac eto,
rwy’n gofyn yn gyson:
 
Ai ni yw dy bobl
ynteu dy wystlon?
 
II
‘Many parts of the UK have suffered from the decline of heavy industry, and the Welsh valleys are a grim emblem of this.’
 
Cerdd Tad-cu beunydd fynyddoedd ei fro,
fel y gwnaeth ganwaith gynt â’i dad-cu e –
yn dilyn ei lwybr at y pyllau glo
a’i mowldiodd yn dalp o bentrefi’r de:
Ceibiwyd ei gefn i frwydro’r gwynt a’r glaw,
weldiwyd ei draed i’r pridd yn gusan hir,
siapiwyd ei ddwylo’n llyw i’w reddfol raw,
a thynnodd ef ddau blentyn bach o’r tir.
Ond heddiw, ar gyfeiliorn, mae ar daith
yn chwilio am fyd sy’n gorwedd fel rhith
dan y bryniau mud a’r twmpathau maith,
a neb i olrhain ei gam ond y gwlith.
Mewn tanchwa drachwantus, daeth gwifrau du
a pheilonau haearn i ardd Tad-cu.
 
III
‘There are no shops around here and the bus to town stops at 6pm. There are children who’ve never been more than a mile or two from their front door.’
 
Mae hi yno’n aros
bob nos yn yr orsaf fysiau.
 
Ni ŵyr pam.
Ni ŵyr i ble mae’r bysiau’n mynd.
Ond gŵyr mai bws yw’r ateb.
 
Rwyt ti wedi ei gweld.
 
Ffroenaist y patrymau
coch
ar hyd ei breichiau.
 
Baglaist dros y caniau gwag
oedd yn ei gwarchae
gan guchio’r minlliw
a staeniodd dy jîns.
 
Cuddiaist glustiau dy blant rhag ei rhegfeydd
(Sh*t. F*ck it. C*nt.)
a gwarafun gweld bod merch fel hon
yn griddfan mewn cynghanedd.
 
A phregethaist dan dy wynt
fod bysiau’n gorffwys
ar ôl chwech.
 
IV
‘Tonight, the place feels abandoned, and many people appear to have given up on God.’
 
Mae’r lle, heno, mor llonydd
â Duw (fel y mae bob dydd),
ei dreigl ar stop, a’i siopau
i gyd â’u shutters ar gau –
rhesi clòs o ddrysau clo
yn hisian … lle bu croeso.
 
Ac mae, heno, gymuned
yn y dump yn chwarae dead
hen le llwyd sy’n casglu llwch,
hen aelwyd mewn anialwch
unig, gwag, cans daeth i’r cwm
hualau … lle bu cwlwm.
 
A heno’n ein cyfannu,
nid oes ond gwe’r gwifrau du –
yn ddi-hid, cyfalaf ddaeth
i hawlio bro brawdoliaeth,
ac mewn ’stâd ddigymen, stêl,
mae’r hen dŷ ’n marw’n dawel.
 
V
‘”Politicians kick us and then they kick us again,” a local despairs.’
 
Mae tlodi’n halogi’n heolydd ni
a’i flas dros weflau’r mynyddoedd tost.
Treiddia ei rym drwy gracs y tai
am nad ydyw’n licio’u cod post.
 
Ymhell, bell dros y dŵr bas
mae ’sgidiau glân a syber-glyd
a droediant yn drwm ar ein strydoedd ni
o bell, bell â’u gwadnau di-hid.
 
Yno, ym mêr y muriau mawrion
mae rhagfarn eu cloc haearnaidd yn byw.
Yma, fe gosbir pawb ’r un fath:
pob hil, pob oed, pob rhyw.
 
Yr un yw’r gri o’r fynwent draw
yn y rhesi hir o feini rhad
a brynodd i’r pellfuddugwyr gynt
eu rhyfel drud ar faes y gad.
 
Ond clywch y drwm yn curo’n rymus
rhwng y cyrff a fwydodd y gweryd â’u gwaed
sy’ heddiw’n had i’r to iau
a dyf o’r dicter dan eu traed.
 
Daw’r curiadau anochel yn amlach,
eu cnulio’n atseinio’n uwch bob tro.
Llyfa’r tir ei wefusau’n wancus
wrth gyfarch eneidiau ‘glanach’ i’r gro.
 
Mae tlodi’n halogi’n heolydd ni,
tlodi sy’n dilyn cod post.
A’r un yw’r ffawd bob ochr i’r ffin –
’dyn ni i gyd yn cyfri’r gost…
Cwm Cnoi
http://www.s4c.cymru/urdd/e_index.php

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.