Adolygiad: Deffro’r Gwanwyn, (The Gate/Canolfan Berfformio Cymru) gan Miriam Elin Jones


Yn ddiweddar, mae’n bur anodd credu – gyda phob sgwrs yn bob man yn troi o’i amgylch – bod unrhyw un yn gallu gadael eu ffics nosweithiol o Love Island a dianc i’r theatr. Fodd bynnag, nos Wener ddiwethaf, llenwyd seti The Gate gan gynulleidfa yn mynychu perfformiad olaf myfyrwyr BA Perfformio Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Deffro’r Gwanwyn.
Mewn oes lle nad oes yna’r un weithred rywiol yn dabŵ a cham-drin rhywiol yn jôc ar enau Arlywydd America, pendronais sut ymateb byddai gan sioe gerdd yn trin a thrafod gormes rhywiol a chulni crefyddol? Dan arweiniad y gyfarwyddwraig Angharad Lee, aeth y cast talentog ati i daclo themâu heriol y ddrama, gan osod eu stamp eu hunain ar gyfieithiad medrus Dafydd James.

Dilyna stori’r ddrama hynt a helynt cymuned o laslanciau a glaslancesi, eu hormonau’n rhemp a’r rhieni ac athrawon o’u hamgylch yn gwrthod cydnabod eu teimladau na’u dyheadau nwydus. Cyflwynir Wendla a Moritz – y naill methu deall o ble ddaw babis a’r llall â pharchedig ofn ei freuddwydion melys gyda’r nos – a Melchior y rebel sy’n eu harwain ar gyfeiliorn, yn pwysleisio normalrwydd eu dyheadau. Heb draethu rhyw ormod am y plot, dysgir yn fuan iawn nad melys pob anwybod wedi’r cwbl.
Roedd awyrgylch Canolfan The Gate yn gweddu’n rhyfeddol i’r sioe gerdd arbennig hon. Mewn hen eglwys Bresbyteraidd wedi ei haddasu’n theatr, gosodwyd set syml ond symudol – pedwar bwrdd a stolion – a llenwyd y gofod gyda pherfformiadau a choreograffi egnïol. Wrth fynd i eistedd ar un o’r meinciau pren (a brofodd yn briodol o anghyfforddus) roedd yr actorion yn chwarae plant yn ddiniwed braf ar lawr. O’n hamgylch, roedd pileri addurniadol yn britho’r lle, rhai ag ysgydwyd i’w craidd yn ystod rhai o uchafbwyntiau dramatig y cynhyrchiad, ac yn lle pregethwr mewn pwlpid, gosodwyd y band, wedi’i godi i le haeddiannol ar dir uwch. Er ehangder yr ystafell, roedd hi’n eithriadol o gynnes, ac o ystyried gwres y caru tanbaid sy’n rhan mor ganolog o’r sioe, bosib bod hynny’n fwriadol – ond roeddwn ni’r gynulleidfa a’r cast i gyd yn chwys drabwd erbyn diwedd y sioe.

Heb os, roedd carisma cynnil rhwng bob un o’r cast yn dystiolaeth i’w hagosatrwydd a’r cyd-weithio cyson sydd wedi bod yn rhan mor greiddiol o’u cwrs. Golyga natur y sioe bod pob un yn cael cyfle i fynnu llwyfan, a nifer o’r cymeriadau ymylol yn cael cyfle i gamu i’r goleuni. Roedd dicter Martha (Heledd Roberts) i’w deimlo a solo Lloyd Macey fel Otto (serch lletchwithdod ei daldra’n golygu nad oedd yn argyhoeddi fel disgybl ysgol) yn un i’w chofio. O ran y prif gymeriadau, roedd Jemima Nicholas fel Wendla yn serennu, gyda’i holl osgo a’i llais yn efelychu chwilfrydedd diniwed a drygioni merchetaidd ei chymeriad drwyddi draw. Er bod Josh Morgan fel Melchior a hithau yn argyhoeddi fel cariadon ifanc, tueddai i’w lais ef foddi dan sŵn y gerddoriaeth, ac nid oedd mân broblemau technegol o ran y sain yn hwyluso pethau iddo chwaith. Yn goron ar y perfformiadau oll, roedd ymdriniaeth Siôn Emlyn Parry o gymeriad Moritz – yn enwedig ar ddechrau’r Ail Act. Llwyddodd i yrru ias i lawr fy nghefn wrth i’w wewyr meddwl ddatblygu’n raddol, gan ddenu’r dagrau yn ystod ei olygfa olaf.
Wrth i’r ddrama fynd yn ei blaen, diosgwyd siacedi stiff a choleri hirion, Piwritanaidd y llanciau, ond aros gwnaeth y mascara wedi staenio’n drwch dros eu llygaid. Pranciai’r merched ar hyd y llwyfan yn ei ffrogiau llac, gyda’u sanau hirion yn sidet ond yn seductive ar yr un pryd, pob un yn ddoli fregus, hyd yn oed Isle herfeiddiol (Lleucu Gwawr) wrth geisio hudo Moritz. Ynghyd â’r gwisgoedd, gwnaethpwyd yn siŵr fod y llwyfan wrth i’r coreograffi’n ferw o weithgareddau rhywiol, awgrymog gyfleu’r byd newydd y deisyfa’r cymeriadau. Yr unig fai oedd i’r coreograffi ar adegau olygu bod y perfformwyr yn troi cefn ar eu cynulleidfa yn ystod y sioe. Fodd bynnag, ni phechwyd yr un ohonom. Roedd cymeradwyaeth parod wrth gwt y rhan fwyaf o’r caneuon yn dyst i’n mwynhad o’r sioe.
Gyda’r gynulleidfa gyfan ar ei thraed ar ddiwedd y perfformiad, gallaf ddatgan yn bendant na chafodd neb gyfle i ddifaru colli pennod nos Wener o Love Island yn ystod Deffro’r Gwanwyn. Er mai noson olaf eu cwrs dwy flynedd oedd y cynhyrchiad egniol hwn, dyma godi’r llen ar yrfaoedd disglair i nifer o’r cast, sy’n argyhoeddi’n gyffrous iawn i’r diwydiant theatr yng Nghymru, a thu hwnt.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.