Bydd tair ffilm yn cael eu rhyddhau ym mis Mawrth fel rhan o Plethu/Weave #2, cydweithrediad traws gelfyddyd ddigidol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCyrmru) a Llenyddiaeth Cymru, a fydd yn cynnwys yr ail o dri chomisiwn arbennig fel rhan o flwyddyn Cymru yn yr Almaen.
Gan asio rhai o leisiau mwyaf cyffrous Cymru, mae’r artistiaid dawns Krystal Lowe, Camille Giraudeau ac Elan Elidyr wedi cael eu paru gydag awduron, beirdd ac arloeswyr Hip-Hop – Alex Wharton, Rufus Mufasa ac Ed Holden i greu tair ffilm fer ddigidol ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein.
Yn 2021 bydd Plethu/Weave #2, cydweithrediad traws gelfyddyd CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dwyn ynghyd wyth o ddawnswyr annibynnol eraill o Gymru a’u paru gyda rhai o feirdd mwyaf talentog Cymru. Mae rhai o’r creadigaethau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi’u hysbrydoli gan straeon, lleoliad, treftadaeth a chysylltiad yr artistiaid eu hunain â Chymru.
Rhyddhawyd y ffilm gyntaf o gyfres Plethu/Weave #2, Aber Bach, a grëwyd gan Y Prifardd Mererid Hopwood a dawnsiwr CDCCymru, Elena Sgarbi, ym mis Ionawr fel rhan o lansiad blwyddyn Cymru yn yr Almaen Llywodraeth Cymru.
Bydd ail gomisiwn Cymru yn yr Almaen Plethu/Weave #2 yn gywaith rhwng yr awdur, bardd a’r bardd plant o Dorfaen, Alex Wharton, a’r dawnsiwr, coreograffydd a’r awdur Krystal Lowe. Mae Pethau Gwell i Ddod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd, yr amgylchedd a byd natur, sydd yn rhai o brif themâu blwyddyn Cymru yn yr Almaen.
Meddai’r dawnsiwr Krystal Lowe, “Mae’r geiriau hyn wedi’u creu’n hyfryd gan fardd sydd â chariad at y gofod y mae’n byw ynddo, gyda natur yn rhan ganolog o hynny. Mae Alex yn plethu geiriau fel ‘troelli’ a ‘dawns’ yn hyfryd er mwyn adleisio’r symudiad sydd i’w weld trwy gydol y ffilm ac mae ei lais diniwed yn gosod sgôr eiddgar a chyffrous imi ddawnsio ynghyd â hi.
“Rwy’n caru llenyddiaeth ac rwyf wrth fy modd â dawns – mae plethu’r ddau hyn gyda’i gilydd yn llawenydd ac yn fraint na fydd gen i byth y geiriau i’w cyfleu.”
Mae Krystal hefyd yn gweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd cynaliadwy, Emma-Jane Weeks a fydd yn defnyddio llifyn ffabrig naturiol a dillad wedi eu huwchgylchu i greu gwisg gyda dyluniadau a deunyddiau gweadog iawn i ddynwared natur o amgylch y ffilm.
“Mae cynaliadwyedd mewn gwisgoedd yn eithaf prin felly braf fydd creu darn sydd yn dangos ei fod yn bosib gwneud dewisiadau synhwyrol wrth wneud gwisgoedd, yn ogystal â gweddu themâu’r darn dan sylw,”
Bydd Pethau Gwell i Ddod yn cael ei lansio fel rhan o flwyddyn thema Cymru yn yr Almaen Llywodraeth Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddydd Llun 1 Mawrth 2021. Bydd modd gwylio’r ffilm ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol, cyn y bydd y ffilm ar gael ar sianeli a gwefannau cyfryngau cymdeithasol CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru o 2 Mawrth 2021 ymlaen. Bydd y gerdd ar gael mewn tair iaith. Cyfieithwyd cerdd Alex i’r Gymraeg a’r Almaeneg gan Ifor ap Glyn ac Eluned Gramich.
Y ffilm nesaf fydd cywaith rhwng dawnsiwr CDCCymru Camille Giraudeau, a’r actifydd llenyddol, yr addysgwr Hip-Hop a’r rapiwr Rufus Mufasa. Themâu’r cywaith hwn yw mamolaeth a rôl a chryfder menywod yn y gymdeithas. Caiff y ffilm ei rhyddhau ar ddydd Iau 15 Mawrth.
Bydd y drydedd yn cael ei rhyddhau ar ddydd Iau 29 Mawrth ac fe’i crëwyd gan yr artist dawns o Aberystwyth, Elan Elidyr, a’r arloeswr Hip-Hop, Ed Holden.
Meddai Lee Johnston, Cyfarwyddwr Cysylltiol CDCCymru, “Mae’r ffilmiau Plethu/Weave hyn yn archwilio pynciau hanfodol megis ein perthynas â’n hamgylchedd naturiol, a phrofiad mamolaeth. Maent yn agor straeon cymhellol a chraff ac yn deyrnged i bŵer barddoniaeth a dawns.”
Bydd cyfres Plethu/Weave #2 yn parhau yn ystod mis Ebrill a mis Mai, gyda rhagor o fanylion am y ffilmiau hynny i’w ganfod ar wefannau CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru.