Mae Gwobrau Effaith Ddiwylliannol Get The Chance 2025, sy’n cael eu cefnogi gan Tempo Time Credits a Porter’s Cardiff, yn cael eu lansio y mis hwn!

Mae Gwobrau Effaith Ddiwylliannol Get The Chance 2025 yn dathlu gweithgarwch diwylliannol o safon uchel sy’n cyrraedd ystod eang o’r cyhoedd a’i effaith gadarnhaol ar ansawdd eu bywyd.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Porter’s Cardiff, Caerdydd ddydd Sadwrn, 22 Mawrth (5-7pm). Bydd gwahoddiad i gynrychiolydd o bob sefydliad/unigolyn enwebedig fod yn bresennol.

Bydd yr enillwyr ym mhob categori yn cael y cyfle i greu ffilm broffesiynol fer sy’n amlygu eu gwaith. (yn amodol ar gadarnhad)

Mae’r Gwobrau’n cael eu cefnogi gan Tempo Time Credits a Porter’s Cardiff. Dywedodd Rachel Gegeshidze, Prif Weithredwr Tempo Time Credits:

“Yn Tempo, rydyn ni’n credu y dylai diwylliant, y celfyddydau, a threftadaeth fod yn hygyrch i bawb, ac rydyn ni’n hynod falch o fod yn cefnogi Gwobrau Effaith Ddiwylliannol Get The Chance 2025. Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein cymunedau, a thrwy Time Credits, rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu hamser, gan agor drysau i brofiadau newydd. Mae’r gwobrau hyn yn taflu goleuni ar y mentrau diwylliannol anhygoel a’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau a bywydau pobl. Mae’n fraint, felly, i ni ddathlu’r unigolion a’r sefydliadau sy’n arwain y gwaith hwn.”

Rachel Gegeshidze, Prif Weithredwr Tempo Time Credits

Dywedodd Dan Porter, Cyfarwyddwr Porter’s Cardiff:

“Fel lleoliad, rydyn ni am barhau i fod yn ymrwymedig i artistiaid newydd, y rhai sy’n dod i’r amlwg, a’r rhai sydd ddim yn cael eu cefnogi.Rydyn ni’n falch o gefnogi Gwobrau Effaith Get The Chance a’r hyn y gallwn helpu eraill i’w gyflawni yn Porter’s Cardiff.”

Dan Porter, Alice Rush a Frankie-Rose Taylor

(Llun: Moreton Brothers)

Mae’r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu effaith y ddarpariaeth ddiwylliannol yng Nghymru yn ystod 2024. Mae llawer o’r categorïau unigol yn cael eu noddi gan amrywiaeth o gefnogwyr prosiect.

*Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r digwyddiad hwn

Ceir rhagor o wybodaeth am y Categorïau a’r broses enwebu isod:

Meini prawf

Nod y gwobrau hyn yw amlygu ac arddangos natur fywiog ac amrywiol diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau yn ein cenedl bob blwyddyn

At ddibenion y gwobrau hyn, mae gennym ddiffiniad eang o ddarpariaeth ddiwylliannol sy’n cynnwys gwirfoddoli cymunedol gyda’r celfyddydau, addysg a threftadaeth. Bydd enwebiadau yn adlewyrchu amrywiaeth o feysydd ym mywyd diwylliannol Cymru. Gall unigolion neu sefydliadau enwebedig fod yn wirfoddol neu’n broffesiynol. Rhaid i bob parti a enwebir ddod o Gymru neu wedi’i leoli yng Nghymru ar gyfer y rhan fwyaf o’i weithgarwch creadigol a’i faes enwebedig. Y cyfnod sy’n berthnasol ar gyfer enwebiad yw 1 Ionawr–31 Rhagfyr 2024.

Pwrpas y gwobrau hyn yw codi ymwybyddiaeth o weithgaredd diwylliannol o ansawdd uchel sy’n cyrraedd ystod eang o’r cyhoedd, yn ogystal â’i effaith. Rhoddir ystyriaeth ddyledus i adnoddau’r gweithgaredd creadigol a’i effaith ar y cyhoedd.

Rhaid i bob gwaith fod â chysylltiad Cymreig cryf, a bydd hyn yn rhan o’r broses sgorio.

Mae’r ffurflen enwebu yn y ddolen isod.

https://forms.office.com/e/MFiTvHPSXy

Categorïau

  1. Digwyddiad Cyhoeddus

Disgrifiad: Dyfernir i gynhyrchiad, arddangosfa neu ddigwyddiad diwylliannol cyhoeddus sy’n dangos uchelgais a safon artistig uchel sy’n cysylltu â’r cyhoedd. Dylai’r gweithgaredd fod wedi cael ei gynnal a’i gynhyrchu gan bobl greadigol o Gymru.

Ystyriaethau

  • Pa effaith gafodd y Digwyddiad Cyhoeddus hwn ar y cyhoedd?
  • Sut mae gan y digwyddiad safon artistig uchel amlwg; a gafodd adolygiadau, sylw yn y wasg neu wobrau diwydiant?
  • Cyrraedd cynulleidfa – tua faint o bobl a welodd y digwyddiad ac a gyrhaeddwyd unrhyw grwpiau penodol megis plant a phobl ifanc ac ati?
  • Cyrraedd cynulleidfa – o ble ddaeth cynulleidfaoedd? A aeth ar daith neu a oedd yn ddigon mawr i ddenu pobl o’r tu allan i’r ardal lle cafodd ei pherfformio?

2. Person Creadigol y Flwyddyn

Disgrifiad: Dyfernir i Berson Creadigol sy’n dangos y safon artistig uchaf mewn gwaith sy’n cael ei greu a/neu ei arddangos, ei berfformio neu ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru.

Ystyriaethau

  • Pa effaith gafodd gwaith y Person Creadigol hwn ar y cyhoedd?
  • Sut mae’r Person Creadigol wedi dangos safon artistig uchel; a gafodd ei waith adolygiadau, sylw yn y wasg neu wobrau diwydiant?

3. Prosiect Cymunedol ac Addysgol

Disgrifiad: Dyfernir i brosiect cymunedol, cyfranogol neu addysgol e.e. côr, dawns, theatr, celfyddydau gweledol neu grŵp treftadaeth sy’n cynnig mynediad rheolaidd, cynhwysol at ddiwylliant i bobl leol.

Ystyriaethau

  • Pa effaith gafodd y prosiect cymunedol, cyfranogol neu addysgol ar y cyhoedd?
  • A gafodd y prosiect adborth cadarnhaol a boddhad gan gyfranogwyr?
  • Faint o bobl gymerodd ran?
  • Oedd y prosiect yn gynhwysol? Er enghraifft, a oedd yn cefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol neu’r rhai ag anableddau neu na fyddai, am resymau eraill, yn cael y cyfle i gymryd rhan fel arall?
  • A gafodd y prosiect unrhyw sylw cadarnhaol yn y wasg, adolygiadau, gwobrau eraill neu gydnabyddiaeth?
  • A wnaeth y prosiect gydweithio â sefydliadau eraill?

4. Hwylusydd y Flwyddyn

Disgrifiad: Dyfernir i hwylusydd diwylliannol, athro neu ymarferydd sy’n arwain prosiectau cymunedol, cyfranogol neu addysgol cynhwysol yng Nghymru.

Ystyriaethau

  • Pa effaith gafodd gwaith yr unigolyn ar y grŵp neu unigolion?
  • Unrhyw adolygiadau, sylw yn y wasg, gwobrau eraill neu gydnabyddiaeth?
  • Unrhyw adborth gan bartneriaid neu gyllidwyr?

5. Diwylliant a Iechyd

(Noddwyd gan Christine O’Donnell)

Disgrifiad: Dyfernir i brosiect, digwyddiad neu gyfres o weithdai diwylliannol sy’n cefnogi pobl sy’n byw yng Nghymru i wella eu hiechyd a’u lles.

Ystyriaethau

  • Pa effaith gafodd y prosiect ar ei gyfranogwyr
  • Faint o bobl gymerodd ran?
  • Sut cafodd y prosiect/digwyddiad effaith gadarnhaol ar iechyd pobl?
  • Unrhyw adborth/tysteb gan gyfranogwyr?
  • A oes unrhyw ffyrdd y mae’r gweithgaredd wedi lleihau dibyniaeth ar wasanaethau eraill fel y GIG?
  • Sut defnyddiodd y prosiect ddiwylliant a chyfranogiad?
  • Unrhyw adolygiadau, sylw yn y wasg, gwobrau/cydnabyddiaethau eraill?
  • Unrhyw adborth gan bartner?

6. Hyrwyddwr Diwylliannol

(Noddwyd gan Tempo Time Credits)

Disgrifiad: Dyfernir i unigolyn o’r gymuned greadigol, e.e. gwirfoddolwr, gweinyddwr, technegydd, curadur neu aelod bwrdd y mae ei waith yn gwneud cyfraniad cadarnhaol mawr at fywyd diwylliannol y genedl

Ystyriaethau

  • Y prosiect/digwyddiad/gweithgaredd/arddangosfa fawr y mae’r unigolyn wedi chwarae rhan arwyddocaol ynddo neu ynddi a beth fu effaith ei rôl?

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.