- Helo Sion braf cwrdd a ti, fedri di roi ychydig o wybodaeth am dy hun i’n darllenwyr ni plis?
- Hi Sion great to meet you, can you give our readers some background information on yourself please?
Helo, diolch am y cyfle yma. Felly, ar hyn o bryd dwi’n astudio MA Perfformio gyda PCYDDS yng Nghaerdydd. Dwi’n wreiddiol o bentre bach o’r enw Rhydymain, ger Dolgellau, ond nes i symud lawr i Gaerdydd yn 2017 i ddechrau ar fy ngradd mewn BA Perfformio. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn ffilmio selftapes ar gyfer showcase ar-lein, yn sgil i’n showcase gwreiddiol ni gael ei ganslo o ganlyniad i’r amgylchiadau heddiw.
Hi, thanks for the opportunity. I’m currently studying MA Perfformio at UWTSD in Cardiff. I’m originally from a little village near Dolgellau, called Rhydymain, but moved down to Cardiff in 2017 to start on a degree in BA Perfformio. I’m currently self-taping for our university’s virtual showcase, as our original showcase was cancelled.
Here is Sion’s Spotlight link – https://www.spotlight.com/interactive/cv/6930-1278-7802
- Felly, beth roddodd diddordeb iti yn y celfyddydau?
- So, what got you interested in the arts?
Fel llawer o’m ffrindiau, fues i’n cystadlu mewn Eisteddfodau ers yn ifanc, canu mewn corau, a bod yn rhan o gyngherddau’r ysgol ac ati. Er nes i fwynhau’r dyddiau yna, yr hyn wnaeth fy nenu ac fy ysgogi i ddilyn llwybr o fewn y celfyddydau oedd ymuno â Ysgol Theatr Maldwyn. Ges i’r cyfle i fod yn rhan o amrywiaeth o sioeau a chyngherddau, gan drafeilio a pherfformio mewn nifer o theatrau gwahanol ar draws Cymru. Mae fy nyled i’n fawr iawn i Penri, Linda a’r diweddar Derec am yr holl brofiadau ges i ar hyd y blynyddoedd.
Like many of my friends, I competed in numerous Eisteddfods, joined choirs, and being a part of school productions. But on top of this, what really got me wanting to be in this industry was joining Ysgol Theatr Maldwyn. I had the opportunity to be in various shows and concerts, and to perform in many theatres across Wales. My gratitude is enormous to Penri, Linda and the late Derec for their work, and the chances I had throughout my years with them.
- Fedri di son ychydig am dy broses creadigol?
- Can you tell us about your creative process?
Mae fy mhroses i’n amrywio yn ddibynnol ar y dasg sydd genai. Dwi newydd gwblhau modiwl actio pellach gyda Angharad Lee, ble roeddem yn mynd ati i ymchwilio ac analeiddio darn o ddeialog yn gorfforol, yn defnyddio ‘toolkit’ o sgiliau methodoleg Stanislavski. Fyddai’n siwr o gario’r broses ymlaen i wahanol brosiectau gan ei fod yn diddymu unrhyw batrymau sydd genai, ac yn gwneud i mi gysylltu’n well gyda’r testun.
My process varies depending on the task ahead. I’ve just completed a module on further acting with Angharad Lee, where we had to analyse and investigate a piece of dialogue physically, using a ‘toolkit’ of skills from Stanislavski’s methodology. I will be sure to carry on this process onto different projects, as it gets rid of any patterns I have, and helps me to connect better to the text.
- Fel artist ifanc o Gymru sy’n graddio yn ystod cyfnod anodd iawn, pa fuddsoddiad a chefnogaeth sydd eu hangen yn eich barn chi i alluogi eich gyrfa i ddatblygu a ffynnu?
- As a young Welsh artists graduating during a very difficult period, what investment and support do you think is required to enable your career to develop and prosper?
Mae’r diwydiant yma wedi bod yn dda iawn yn ystod yr amser anodd yma i ni, fel actorion neu artistiaid sy’n dechrau ar eu gyrfa, drwy ddod at eu gilydd a rhoi llawer o gyfleodd allan yna i ni. Dwi’n meddwl fod o’n bwysig i hyn gario mlaen unwaith fydd popeth wedi mynd nol i’r arfer. Hefyd, falle defnyddio’r amser yma i fod yn greadigol, a gwneud rhywbeth megis, darllen mwy o ddramau neu dysgu acen newydd – ond wedi dweud hyn dwi ddim yn rhoi unrhyw bwysau na gorfodaeth i wneud hyn chwaith.
The industry’s been very good during this difficult period for us, as actors or artists starting on their career, by coming together and offering different opportunities for us. I believe it’s important that this caries on when life goes back to normal. Maybe, to use this time and be creative, and read more plays or learn a new accent, but after saying that, I’m not putting myself under any pressure to do anything either.
- Mae ystod o sefydliadau ac unigolion o fewn y celfyddydau bellach yn gweithio ar-lein neu’n dod o hyd i ffyrdd newydd i gysylltu â cynulleidfaoedd. Ydych chi wedi gweld unrhyw enghreifftiau arbennig o hyn yn gweithio?
- A range of arts organisation and individuals are now working online or finding new ways to reach out to audiences. Have you seen any particularly good examples of this way of working?
Do! Neshi weld tweet yn arbennig i raddedigion actio 2020 gan National Theatre Wales, oedd yn rhoi’r cynnig i gysylltu a chyfarfod, a hynny dros Zoom, gyda nifer o weithwyr proffesiynol i gyflwyno ein hunain rwan bod ein sioeau terfynol ddim yn digwydd. Dwi’n meddwl fod o’n anhygoel i ni fel Cymry i allu cael sgwrs a dod i nabod pobl yn y diwydiant cyn mynd i’r byd gwaith. Fues i’n cael sgwrs gyda Jeremy Turner, sef Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch heddiw, a mae gennai sgwrs gyda Sarah Bickerton, sy’n gyfarwyddwraig cyswllt â Theatr Genedlaethol Cymru ac Louisa Palmer, sy’n asiant i Shelley Norton Management i ddod o fewn yr wythnos. Nid yn unig mae hyn yn gyfle da i gyflwyno’n hun, ond mae o’n gwneud fi’n gyffrous i fynd allan i’r byd gwaith unwaith fydd y cyfnod yma yn dod i ben.
Yes! I saw a tweet from NTW for 2020 acting graduates which gives the opportunity to connect, over Zoom, with industry professionals and to present yourself now that end of year productions have been cancelled. I think it’s an amazing chance for individuals that are graduating in acting in Wales, or from Wales to meet and introduce yourself to professionals before going into work. I met with Jeremy Turner, the artistic director for Arad Goch today, and from now to next week I’ll be meeting Sarah Bickerton, associate director with Theatr Genedlaethol Cymru and Louisa Palmer, agent with Shelley Norton Management. This has made me even more excited about joining the industry and going into work.
- Os fydde modd i chi ariannu adran yn y celfyddydau yng Nghymru, beth fyddai hyn a pham?
- If you were able to fund an area of the arts in Wales, what would this be and why?
Dwi’m yn siwr iawn! Dwi’n meddwl swni’n licio gweld gwefan, tebyg i ‘Scribd’, gyda gweithiau Cymraeg, boed hynny’n waith gwreiddiol neu’n gyfieithiadau. Yn aml swni’n ei chael hi’n hawdd iawn i ddod o hyd i fonolog Saesneg, ond yn gweld hi’n anoddach o lawer dod o hyd i rywbeth Cymraeg. Falle mai fi sy’n edrych yn y lle anghywir, pwy a wyr! Ond dwi di dechrau prynu sgriptiau/dramau rwan ar ôl gwylio dramau Cymraeg, jysd rhag ofn ddoith o’n handi ar gyfer rhywbeth rwbryd.
I’m not quite sure! I’d like if there would be a website, like Scribd, but with only Welsh works, that being an original or a translation. I often find finding monologues in English easier, and find it much harder finding something in Welsh. It might be completely my fault, that I’m looking in the wrong places, who knows! But I’ve started buying scripts/plays after watching Welsh plays now, just in case it will come handy someday!
- Beth sy’n dy gyffroi am y celfyddydau yng Nghymru?
- What excites you about the arts in Wales?
Y peth sy’n cyffroi fi fwyaf ydi fod gymaint o gyfleoedd allan yna ar hyn o bryd, ac nid yn unig ar gyfer actorion. Mae’n braf gweld gymaint o artistiaid ifanc newydd allan yna, mae’n rhoi gobaith i mi am ddyfodol cadarn i’r celfyddydau yng Nghymru.
What excites me the most is, that there are so many opportunities out there, and not only just for actors. It’s great to see so many young artists out there, it gives me hope for a strong future for the arts in Wales.
- Beth oedd y peth gwirioneddol wych olaf i chi ei brofi yr hoffech ei rannu gyda’n darllenwyr?
- What was the last really great thing that you experienced that you would like to share with our readers?
Heb os, Tylwyth gan Daf James! Er na ges i gyfle i’w weld o’n iawn, a dwi’n hollol hollol gytyd am hyna! Ro’n i’n rhan o’r côr oedd ynddo, ac felly di gweld darna ohono. Dwi ddim isho sboilio gormod, ond oedd y diweddglo yn rhoi shivers i fi bob noson, ac oedd gweld gymaint oedd y gynulleidfa wedi mwynhau’r sioe yn galonogol iawn. Mae’n braf weithiau cael sioe gyda diweddglo hapus dydi!
Without a doubt, Tylwyth by Daf James! Although I didn’t get a chance to see the whole show, and I’m really gutted about that! I was a part of the choir, and so I saw parts of it. I don’t want to spoil it, but the ending gave me shivers every night, and just being able to see how much the audience enjoyed the show was heart-warming. It’s nice to have a happy ending sometimes!
- Diolch am eich amser/Thanks for your time
Diolch yn fawr