Dyma brofiad theatrig diddorol. Mae ‘Mags’, drama ddiweddaraf Cwmni Pluen, a ysgrifennwyd gan Elgan Rhys yn gynhyrchiad awr o hyd ond yn un sy’n eich gadael angen gwybod mwy. Mae’r stori yn mynd â ni ar daith y ferch ifanc o Ogledd Cymru i Lundain a nôl i’w phentref genedigol. Ond nid yw ei thaith yn un rhwydd. Mae’n profi anhapusrwydd plentyndod ac yn ffoi i chwilio am antur yn Llundain lle mae’n colli’i ffordd yn llwyr. Mae’n darganfod rhyddid peryglus dinesig, cariad dros dro a beichiogrwydd. Ond o’r holl themâu hyn, efallai mai’r un mwyaf torcalonnus yw’r ffaith ei bod yn rhy ifanc i ofalu am ei phlentyn ac yn gorfod rhoi ei merch i ffwrdd. Mae colled ar sawl lefel felly’n amlygu yn y stori hwn.
Llwyfannir y ddrama mewn gwagle addas a defnyddir symbolau yn unig i ddynodi lleoliadau. Roedd y cyfarwyddwr, Gethin Evans, wedi stwythuro hyn yn dra effeithiol gyda deunydd o garped, cadair syml a gorchudd plastig. Does dim angen mwy oherwydd mae’r actorion yn medru awgrymu’r sefyllfaoedd drwy eu gwaith corfforol. Ensemble o bump sy’n perfformio yn y cynhyrchiad – Anna ap Robert, Seren Vickers, Matteo Marfoglia, Eddy Bailhache a Casi – ac maent yn defnyddio cyfuniad o waith traethu, deialog, canu a gwaith corfforol yn dda. Roedd eiliadau hynod deimladwy gyda’r actorion yn creu delweddau emosiynol iawn gyda’u cyrff. Ond cryfder y ddrama i mi oedd y sgôr gerddorol a’r caneuon. Teimlais bod hyn yn gyfeiliant hyfryd a theimladwy i’r stori, gyda llais hudolus Casi yn serennu.
Roedd gwaith goleuo Ceri James hefyd yn creu awyrgylch addas i arddull symbolaidd y cynhyrchiad.
Er bod darnau hyfryd i’r sioe hon, roeddwn yn teimlo fy mod am wybod mwy am fywyd Mags, yn enwedig wrth ddeall ei bod dal yn hiraethu am ei babi a gollodd flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddrama yn trafod themâu oesol fel pwysigrwydd perthyn a cholled sy’n gyffredin i bawb. Byddwn yn annog pobl ifanc yn arbennig i weld y ddrama hon er mwyn cael syniadau ynghylch arddulliau theatrig gwahanol.