DYMA ADOLYGIAD criw brwd, Yn ei blodau. (REVIEW CRIW BRWD, YN EI BLODAU LOWRI CYNAN IN THE WELSH LANGUAGE)

Yn Ei Blodau” yw cynhyrchiad cyntaf Criw Brwd a drama gyntaf Elin Phillips. Cwmni newydd mentrus Elin a Gwawr Loader yw’r cwmni ifanc yma ac maent yn awyddus i leisio barn merched sy’n goroesi bywydau anodd yng nghymoedd y De. Mae’r ddrama’n olrhain hanes Fflur, athrawes ifanc sy’n rhy barod i blesio ei mam a’i chariad Scott. Mae’n ceisio byw y bywyd traddodiadol benywaidd – swydd barchus, perthynas, priodas a phlant – ond yn dawel fach, mae’n dyheu i wrthryfela a thorri’n rhydd. Mae ei mam yn dyheu i weld ei merch yn setlo a chael plant, ond yn dawel fach, mae Fflur yn dymuno byw bywyd heb gyfyngiadau, cyfrifoldebau na disgwyliadau. 

Mae’r ddrama ar adegau yn llawn hiwmor deifiol a sefyllfaoedd doniol, ond ar y cyfan, mae caethiwed a rhwystredigaeth Fflur yn ein sobri. Mae’r wên deg sydd ar ei hwyneb yn fwgwd i’r tristwch oddi tano. Daw hyn yn amlwg wrth iddi geisio ufuddhau i reolau ei phartner Scott yn ogystal â’r euogrwydd mae’n wynebu wrth iddi wrthryfela.  

Portreadodd yr actores Kate Elis y cymhlethdodau hyn yn effeithiol drwy arwain y gynulleidfa drwy amrywiol sefyllfaoedd ac argyfngau ym mywyd Fflur.  Roedd ei gwaith corfforol (dan ofal medrus Eddie Ladd) yn dda, ond hwyrach byddai deunydd ehangach o’r llwyfan a’r gwagle wedi ategu at y perfformiad. Defnyddiodd yr actores rhywfaint o’r offer llwyfan mewn modd symbolaidd, er enghraifft, y bêl, ond nid oeddwn yn teimlo bod angen cymaint o’r offer hyn ar hyd y llwyfan. Serch hynny, hoffais y deunydd o olau a sain a oedd yn ychwanegu tipyn at awyrgylch y ddrama. 

Er bod cymeriad Fflur yn teimlo ar goll ac yn fregus, yr hyn sy’n rhoi gobaith iddi yw y plentyn mae ar fin geni. Dyma fydd ei ffocws, ei dyfodol newydd gwell mewn byd sydd weithiau’n greulon a ffug. 

Llwyddodd y dramodydd i ddefnyddio hanes Blodeuwedd – un o ferched mwyaf arwyddocaol ein chwedloniaeth – fel is-destun i’r ddrama, ac roedd hyn yn gorwedd yn gyfforddus o fewn sgript sy’n trafod yr un themâu, sef  nwyd, caethiwed, disgwyliadau ac wrth gwrs rôl merch mewn byd sydd wedi’i reoli gan ddynion.  Roedd hon yn noson lwyddiannus arall yn y gyfres “Get it while it’s Hot” ac edrychwn ymlaen at weld cynhyrchiad nesa’r cwmni, ‘Pan Ddaw’r Haf’ ym misoedd cyntaf 2020.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.