Dyma Adolygiad Hela, The Other Room Gan Lowri Cynan. (Review Hela, The Other Room by Lowri Cynan in the Welsh Language)

Drama gyntaf Mari Izzard, enillydd gwobr Violet Burns, sef gwobr The Other Room i ddramodwyr ifanc yw ‘Hela’. Lleolir The Other Room y tu fewn i dafarn Porters yng nghanol dinas Caerdydd, a rhaid cyfaddef fod y theatr hon yn em fach, gyda’r  cwmni’n enwog am ei chynyrchiadau heriol ac arbrofol sy’n eithafu’r defnydd o’r gwagle bychan a hynny mewn amryw arddulliau. Disgwyl yr annisgwyl, dyma ddiben y theatr fach yma, ac nid yw’r ddrama hon yn eithriad.

Ffotograff gan Kirsten McTernan

Mae’n rhan o drioleg o’r enw ‘The Violence Series’, sef arlwy The Other Room ar gyfer y tymor hwn. ‘Hela’ yw’r ddrama olaf i’w llwyfannu yn y gyfres yn dilyn ‘American Nightmare’ gan Matthew Bulgo a ‘The Story’ gan Tess Berry-Hart.

Drama llawn cyfrinachau yw ‘Hela’. Mae’n agor gyda chymeriad Hugh sydd wedi’i glymu a’i gaethiwo mewn ystafell lom, dywyll. Ei herwgipiwr yw Erin, merch ifanc sy’n ymddangos yn blentynaidd ar yr wyneb ond sy’n meddu ar dueddiadau seicopathig beryglus. Mae wedi cipio’r gŵr a’i garcharu yno mewn byncer diflas. Ar y cychwyn, nid ydym yn sicr beth yw ei chymhelliant ond yn raddol drwy gyfres o gemau plentynaidd a chreulon, mae Hugh yn cael ei arteithio am resymau penodol.

Set syml ond effeithiol sydd i’r ddrama – un ystafell a drws i fyd anelwig. Mae Erin yn defnyddio’r allanfa yn achlysurol, sydd yn fodd o newid tempo’r ddrama drwy fynd a dyfod gydag offer arteithiol gwahanol. Er llymder yr ystafell, mae technoleg yn amlwg yn rheoli yn y byd dystopaidd hwn. Mae amryw sgriniau yn chwarae rôl y trydydd cymeriad, sef ‘M’, sy’n rhoi’r wybodaeth ychwanegol i ni ynghylch dwyster y sefyllfa.             

Mae’n amlwg fod gan y cymeriadau gefndiroedd cymhleth – Hugh wedi cael magwraeth anodd ac yn rhan o gylch ‘grwmio’ plant, ac Erin yn hiraethu ar ôl diflaniad ei phlentyn saith mlwydd oed. Daw’r thema o hela felly yn glir i ni’r gynulleidfa. Mae yntau wedi hela Gethin, mab saith mlwydd oed Erin, sydd nawr yn dod wyneb yn wyneb â realiti erchyll y sefyllfa.

Roedd y rhyngweithio rhwng y ddau actor, Lowri Izzard a Gwydion Rhys, yn argyhoeddi, gyda sawl eiliad o densiwn anghyfforddus. Wrth i’r stori ddatblygu, cawn ddiweddglo arswydus a threisgar gydag Erin yn dial. 

Drama ddwyieithog yw hon gydag Erin yn siarad Cymraeg a Hugh yn deall ond ychydig o’r iaith. Serch hynny, mae yntau fel ni’r gynulleidfa yn medru gweld y cyfieithu yn digwydd ar y pryd ar y sgrîn drwy gydol y ddrama. Er bod hyn yn gyfrwng diddorol sydd wedi digwydd mewn amryw gynhyrchiad arall eisoes, efallai bod sylw gormodol i’r cyfieithu ar brydiau. Efallai byddai llai o esbonio yn fwy heriol ac awgrymog ar adegau er mwyn dyfnhau’r thema. 

Gosodwyd y ddrama mewn cyfnod dystopaidd, anrhefnus gydag Erin nid yn unig yn dioddef colled ei mab ond hefyd colled enbyd ei hiaith a’i threftadaeth.  Nid thema newydd yw hon wrth gwrs, gan ein bod ar hyn o bryd yn byw mewn byd cyfryngol ac ieithyddol peryglus.  

Hoffais y deunydd o sain drwyddi draw a oedd yn creu awyrgylch annymunol a pheryglus yn ogystal â’r goleuo pŵl. Er bod hon yn ddrama anodd ei gwylio ar adegau, mae’n llwyddo i hoelio sylw’r gynulleidfa o’r dechrau i’r diwedd.    

Os gewch gyfle, ewch draw i weld ‘Hela’ yn The Other Room, ond os na chewch gyfle y tro hwn, bydd y drioleg yn mynd ar daith yn y Gwanwyn. 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.