Cyfweliad gyda Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol, Theatr Genedlaethol Cymru

Yna, penderfynais symud adref i Abertawe, lle cefais swydd gyda chwmni teledu Tinopolis fel cynhyrchydd dan hyfforddiant, a chael cyfle i barhau i adrodd straeon dramatig drwy gyfrwng rhaglenni dogfen am dros ddeng mlynedd. Rydw i bellach wedi bod gyda Theatr Genedlaethol Cymru am ychydig dros 3 blynedd, ac yn dal i ymhyfrydu yn y cyfle i ddweud straeon da, perthnasol, mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Er taw Cynhyrchydd Gweithredol yw eich swydd yn y cwmni, rydych hefyd yn gyfrifol am yr holl gynyrchiadau, yn ogystal ag am y gwaith cyfranogi, sy’n cynnwys gweithio gyda’r gynulleidfa ehangach. Mae hynny’n waith ac iddo gwmpas eang iawn. Sut ydych chi’n llwyddo i gyfrannu at bob un o’r meysydd hyn?

Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd! Mae’n gylch gwaith eang, ond rydw i wrth fy modd yn wynebu’r her. Yn fy marn i, mae’r gynulleidfa’n allweddol i bopeth ry’n ni’n ei wneud, ac mae ein gweithgareddau cyfranogi gyda chynulleidfaoedd yr un mor bwysig â’n cynyrchiadau.  Rydym yn ymestyn y gweithgareddau hynny, gan wrando ar farn pobl a gweithredu arno.

Mae gan Theatr Gen dîm gwych yn Llinos Jones, ein Swyddog Cyfranogi, a Fflur Thomas a Nia Skyrme, ein Cynhyrchwyr Cynorthwyol. Yn ogystal â chynllunio a hwyluso trefniadau holl gynyrchiadau’r Theatr Gen rydyn ni hefyd, gyda’n gilydd, yn cydlynu ein Clybiau Drama gyda Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, Theatr Mwldan a Theatr Felinfach; ein gweithgareddau lles gyda’r rhwydwaith Cyfuno Sir Gâr; yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y gwahanol leoliadau ar gyfer ein perfformiadau BSL; gyda Dysgwyr y Gymraeg ledled Cymru trwy gyfrwng ein sgyrsiau cyn-sioe a gwersi Cymraeg i Ddysgwyr a gyflwynir ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; gydag arbenigwyr ym myd addysg er mwyn cefnogi’r cwricwlwm newydd a darparu adnoddau yn y Gymraeg; gyda gwahanol leoliadau wrth gyflwyno’r cynllun cenedlaethol ‘talwch faint a fynnwch’ ar gyfer cyflwyniadau o ddarlleniadau o waith gan ein Grŵp Dramodwyr Newydd, ac ati ac ati. Rydym yn gwneud ein gorau, ond yn bell o fod yn berffaith, ac yn croesawu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau.

Rydym eisiau ymestyn yn bellach ac yn fwy eang, ac, fel y cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei iaith, teimlaf fod gennym gyfrifoldeb aruthrol a bod angen i ni weithredu i ddileu’r rhwystrau i gael mynediad at ein gwaith. Dydyn ni ddim yn honni ein bod yn gwneud popeth yn dda nac yn berffaith, ond rydym yn gwneud ein gorau glas. Rydym yn craffu a bopeth ry’n ni’n ei wneud, gan newid ac addasu o fewn Cymru sydd hefyd yn newid, gan ddysgu o’n camgymeriadau.

Ar hyn o bryd, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn ymarfer Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd a Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams. Bydd y ddwy ddrama’n cael eu perfformio fel rhaglen ddwbl i deithio Cymru y gwanwyn hwn. Mae’r ddwy yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar y Gymru gyfoes. Ydych chi’n credu bod theatr fyw yn dal i deimlo’n berthnasol i gynulleidfaoedd iau, o ystyried y gystadleuaeth sydd am gynulleidfaoedd i ddramâu gan safleoedd ffrydio yn ôl y galw, megis Netflix?

Does dim byd gwell na’r teimlad hwnnw o weld stori ddramatig yn fyw, a rhannu’r profiad o ymateb yn y foment i berfformiad a sgript. Yn wyneb cymaint o gystadleuaeth, mae’n fwy anodd gwneud y theatr yn fwy perthnasol – yn enwedig i gynulleidfaoedd iau – ond dyna lle mae’r her, ac rydw i wrth fy modd gyda her.

Rwyf hefyd yn aelod o fwrdd Mess Up the Mess, sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd deinamig i bobl ifanc ym maes creu theatr, oherwydd fy mod yn credu’n gryf mewn ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau. Roeddech yn crybwyll Netflix. Yn 2017, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn peilota ein dangosiad theatrig cyntaf yn y sinema drwy ddarlledu ein perfformiad o Macbeth, yn fyw ac fel-byw, o Gastell Caerffili i 11 o sinemâu ledled Cymru. Yr enw a roddwyd ar hyn oedd Theatr Gen Byw.

Wrth symud ymlaen, mae angen i ni gofleidio’r agenda ddigidol. Rwyf wedi cael gweledigaeth y bydd pobl ifanc – ac, yn wir, pawb arall – yn gallu cael mynediad at ein cynyrchiadau, a dylanwadu arnynt yng nghyd-destun y cynnwys, pryd bynnag maen nhw’n dewis, pan mae’n eu siwtio nhw, ar ben eu hunain, mewn grŵp, ble bynnag y maen nhw. Mae’n rhaid i ni fod yn gynhwysol, nid yn gaeedig, ac mae hyn yn golygu darparu cynifer o gyfleoedd ag y bo modd i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau amrywiaeth o weithiau theatr yn y Gymraeg, yn fyw ac fel-byw.

Yn ddiweddar, mae’r ddau ddramodydd – Catrin Dafydd a Roger Williams – wedi cael llwyddiant ym maes Dramâu Teledu a gynhyrchwyd yn Gymraeg yn gyntaf, ac yna yn Saesneg. Ydy Cymru’n unigryw yn y ffaith bod ganddi awduron o’r fath safon uchel yn sgrifennu ar gyfer y Teledu a’r Theatr ar yr un pryd?

On’d yw hi’n wych bod awduron sy’n sgrifennu yn Gymraeg i’r teledu – rhai fel Roger a Catrin, Siôn Eirian, a sawl un arall – hefyd yn gallu bod yn ddramodwyr sy’n sgrifennu yn y Gymraeg; bod Cynhyrchwyr Teledu Cymraeg, fel fi (a Roger) hefyd yn gallu bod yn Gynhyrchwyr Theatr Gymraeg, a bod Cyfarwyddwyr Teledu fel Ffion Dafis (sydd hefyd yn actores) yn gallu cyfarwyddo pennod o Pobol y Cwm yn ogystal â chyfarwyddo cynhyrchiad theatr? Roedd Mared Swain, sydd ar hyn o bryd yn cyfarwyddo’r sioe gyntaf yn ein rhaglen ddwbl, Merched Caerdydd a Nos Sadwrn o Hyd, sy’n agor yr wythnos hon yn Theatr Clwyd, hefyd yn Gynhyrchydd Stori ar gyfres S4C, Gwaith Cartref. Rwy’n siŵr fy mod yn diflasu fy nghydweithwyr wrth sôn mor aml am sgiliau trosglwyddadwy, ond os nad ydych chi wedi gweithio mewn rhyw sector penodol, does dim rheswm pam na all eich profiadau fod o fudd i sector arall, a hoffwn weld mwy o gydweithio ar draws y sectorau ym meysydd y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Rwy’n credu’n gryf y byddai sector y theatr a sector byd teledu yn cael mantais o hyn.

Bydd y cynhyrchiad yn cynnig dau berfformiad BSL – un yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ar 15 Mawrth am 19:45, a’r llall yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ar 11 Ebrill am 19:00. Allwch chi ddweud wrthon ni pam, yn eich barn chi, mae perfformiadau a gefnogir gan BSL yn rhan bwysig o’r hyn rydych yn ei gynnig i gynulleidfaoedd?

Dechreuodd y cyfan gydag awydd i fod yn fwy cynhwysol, ac edmygedd o’r arferion da a sefydlwyd gan Sherman 5 yn Theatr y Sherman, a bellach mae’n rhan greiddiol o’n gwaith. Roedd dod i adnabod Cathryn McShane, Cymraes sy’n ddehonglydd BSL, a Nia Skyrme, cynhyrchydd Cymraeg ei hiaith a chanddi brofiad o hwyluso perfformiadau BSL, yn gam allweddol yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth hon. Cawsom gymorth gan Jonny Cotsen yn ein peilot cychwynnol, ac yn ddiweddar fe’n hanogodd ni i beilota perfformiad BSL integredig o Estron gan Hefin Robinson.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig i holl aelodau’r gynulleidfa weld y dehonglydd ar y llwyfan. Merched Caerdydd a Nos Sadwrn o Hyd yw’r trydydd cynhyrchiad teithiol cenedlaethol lle rydym wedi darparu’r gwasanaeth hwn, ac rydw i wrth fy modd fod Cwmni’r Frân Wen hefyd ar hyn o bryd yn darparu’r gwasanaeth hwn (gan Cathryn) ar eu taith ledled Cymru o’r cynhyrchiad Anweledig. Fel cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg ei iaith, teimlaf fod gennym gyfrifoldeb mawr i barhau i symud ymlaen, yn y gobaith y gallwn helpu i symud y sector yn ei flaen yn y cyd-destun hwn. Mae’n rhaid i ni ddechrau meddwl nawr – beth nesaf?  

Mae ‘Get the Chance’ yn gweithio i gefnogi ystod amrywiol o aelodau o’r cyhoedd i’w galluogi i gael mynediad at ddarpariaeth ddiwylliannol. Yn eich profiad personol chi, ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau i ddarpariaeth ddiwylliannol?

Yn fy marn i, mae yna sawl rhwystr. Ar nodyn personol, mae gen i ffrindiau ac aelodau o’r teulu sy’n cael trafferth i ymrwymo’u hunain i fynd i weld cynhyrchiad theatr yn y Gymraeg, er eu bod i gyd yn byw eu bywydau’n hapus drwy gyfrwng yr iaith. Mae pobl yn aml yn meddwl nad yw eu Cymraeg yn ddigon da, neu bod natur yr iaith a ddefnyddir mewn drama yn rhy anodd iddynt ei deall yn llawn. Rydym yn ceisio cyfathrebu’r neges bod ein perfformiadau theatr yn y Gymraeg yn gwbl gynhwysol, a’n bod yn cynnig ystod eang o gynyrchiadau – rhai’n defnyddio iaith lafar, eraill yn defnyddio iaith farddonol, rhai yn nhafodiaith y gogledd, eraill yn nhafodiaith y de; rhai mewn Cymraeg dinesig ac eraill mewn Cymraeg cefn gwlad. Y realiti yw taw dim ond un elfen yw iaith yn yr holl sbectrwm o rwystrau i gynyrchiadau theatr.  Mae gennym ddyletswydd tuag at yr holl bobl sy’n wynebu rhwystrau i’n cynyrchiadau, a dyna pam rydym yn gwneud pob ymdrech i chwilio am bartneriaid o bob cefndir i’n helpu ni gyda’r daith hon i’w gwneud yn haws i’n cynulleidfa gael mynediad at ein gwaith.

Yn ogystal â chynhyrchu pecyn cynhwysfawr o weithgareddau i gefnogi rhai sy’n dysgu Cymraeg,  deallaf mai hwn fydd y tro cyntaf i Sibrwd, eich Ap unigryw, gynnig cyfieithiad llawn o’r Gymraeg i’r Saesneg. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gynulleidfaoedd newydd gael mynediad at eich gwaith. Sut mae Sibrwd wedi datblygu fel cyfrwng mynediad i gynulleidfaoedd?

Ydyn, rydyn ni’n peilota rhywbeth cwbl newydd y tro hwn; bydd Sibrwd, ein ap ar gyfer ffonau clyfar, yn cynnwys cyfieithiad llawn o’r ddwy ddrama yn y rhaglen ddwbl hon. Rydym wedi cael adborth gan ein cynulleidfaoedd, yn cynnwys pobl fyddar neu rai a chanddynt nam ar eu clyw; mae’n amlwg eu bod nhw’n awyddus i gael y gwasanaeth hwn, ac rydyn ninnau’n awyddus i roi cynnig arni. Rydw i wedi gweld y cynllun newydd, ac mae’n edrych ac yn teimlo’n grêt. Rydym yn edrych ymlaen at gael adborth gan gynulleidfaoedd ar y daith hon, wrth i ni barhau i ddatblygu’r adnodd.


Pe byddech chi mewn sefyllfa i ariannu un maes o’r celfyddydau, pa faes fyddai hwnnw a pham?

Prosiect cyfranogi cenedlaethol ar y cyd â lleoliadau ledled Cymru a fydd yn datblygu teimlad o gyffro o gwmpas y theatr, ac yn cyrraedd uchafbwynt mewn perfformiad cenedlaethol mewn gwahanol leoliadau ar yr un pryd. Rydym yn awyddus i gefnogi’r lleoliadau wrth iddynt weithio tuag at gynyddu ac amrywio eu cynulleidfaoedd.


Beth sy’n eich cyffroi chi ynghylch y celfyddydau?

Y ffaith bod popeth ac unrhyw beth yn bosibl, gyda’r bobl iawn.


Beth oedd y peth gwych diwethaf i chi ei brofi y byddech yn hoffi ei rannu gyda’n darllenwyr?

Yn ddiweddar, y stori sydd wedi fy nghyffwrdd fwyaf yw llyfr o’r enw Eleanor Oliphant is Completely Fine. Stori yw hon am arwres anghyffredin, lle mae ei phersonoliaeth unigryw a’i hiwmor yn creu stori hynod ddarllenadwy wrth iddi sylweddoli mai agor ei chalon yw’r unig ffordd i oroesi – ac mae hynny’n neges bwysig i ni i gyd.

Diolch yn fawr iawn am eich amser.

Be Sociable, Share!

Leave a Reply

Your e-mail address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Get The Chance has a firm but friendly comments policy.